Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 1 Cyflwyniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007. Daw i rym ar 30 Mawrth 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

(2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Rheoliadau canlynol, yr un ystyr yn y Gorchymyn hwn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg hynny yn y Rheoliadau hynny.

(3) Y Rheoliadau yw—

(a) Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo a gweithrediadau cysylltiedig a'r Cyfarwyddebau diwygio, sef 64/432/EEC a 93/119/EC, a Rheoliad (EC) 1255/97(3);

(b) Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 ynghylch meini prawf y Gymuned ar gyfer mannau aros ac yn diwygio'r cynllun o'r llwybr y cyfeirir ato yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 91/628/EEC(4).

(4) Ystyr “awdurdod lleol” (“local authority) mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno.

(5) Ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(6) Mae unrhyw gyfeiriad at y Rheoliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3) yn gyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

Ymestyn y diffiniad o “animals” a “poultry”

3.  At ddibenion y Ddeddf yn y modd y mae'n gymwys i'r Gorchymyn hwn, mae'r diffiniadau o “animals” a “poultry” yn adran 87 o'r Ddeddf yn cael eu hymestyn i gwmpasu pob anifail asgwrn cefn a phob anifail di-asgwrn-cefn â gwaed oer.

RHAN 2 Cludo Anifeiliaid

Darpariaeth gyffredinol ynghylch diogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo

4.—(1) Mae'n dramgwydd i gludo unrhyw anifail mewn ffordd sy'n peri, neu'n debyg o beri, i'r anifail hwnnw gael ei anafu neu iddo ddioddef yn ddiangen.

(2) Mae'n dramgwydd i gludo unrhyw anifail ac eithrio yn y cynwysyddion neu'r cyfryngau cludo, o dan yr amodau (yn benodol gyda golwg ar le, awyru, tymheredd a diogelwch) a chyda'r cyflenwadau hylif ac ocsigen, sy'n briodol ar gyfer y rhywogaeth o dan sylw.

(3) Mae'r erthygl hon yn gymwys i gludo anifeiliaid di-asgwrn-cefn â gwaed oer.

(4) Mae'r erthygl hon yn gymwys i gludo anifeiliaid asgwrn cefn ac eithrio'r rhai y mae Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 yn gymwys iddynt.

Cludo

5.—(1) Bydd person sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf—

(a) Erthygl 3 (amodau cyffredinol ar gyfer cludo anifeiliaid);

(b) Erthygl 4(1) (mae Erthygl 4 yn ymwneud â dogfennaeth gludo);

(c) Erthygl 5(1) (mae Erthygl 5 yn ymwneud â rhwymedigaethau cynllunio i gludo anifeiliaid);

(ch) Erthygl 6(1) (mae Erthygl 6 yn ymwneud â chludwyr);

(d) o 5 Ionawr 2008 ymlaen, Erthygl 6(5);

(dd) Erthygl 7 (arolygu cyfrwng cludo ymlaen llaw a'i gymeradwyo ymlaen llaw);

(e) pwyntiau 1.8, 1.9 neu 1.11 Pennod III o Atodiad I (mae Pennod III yn ymwneud ag arferion cludo).

(2) Ni chaiff neb dynnu ymaith, difwyno, dileu na newid unrhyw farc a wneir o dan baragraff (3) o erthygl 24 (pwerau arolygwyr);

(3) Rhaid cadw copïau o'r ddogfennaeth y cyfeirir ati yn Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 am 6 mis o'r dyddiad y cwblhawyd y daith.

Cludwyr

6.  Bydd cludwr sy'n methu â chydymffurfio â darpariaethau canlynol Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf—

(a) Erthygl 4(2) (mae Erthygl 4 yn ymwneud â dogfennaeth gludo);

(b) Erthygl 5(2) a (4) (mae Erthygl 5 yn ymwneud â rhwymedigaethau cynllunio ar gyfer cludo anifeiliaid);

(c) Erthygl 6(2), (3), (4), (6) ac (8) (mae Erthygl 6 yn ymwneud â chludwyr);

(ch) Erthygl 6(9)—

(i) yn achos cyfrwng cludo ar y ffordd sydd mewn gwasanaeth am y tro cyntaf ar neu ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym; a

(ii) yn achos pob cyfrwng cludo ar y ffordd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2009;

(d) Erthygl 12 (mae Erthygl 12 yn ymwneud â chyfyngu ar geisiadau am awdurdodiad).

Llestri gyrru mewn ac allan

7.—(1) Bydd meistr llestr gyrru mewn ac allan sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 3.1 Pennod II o Atodiad I i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (mae Pennod II yn ymwneud â darpariaethau ychwanegol ar gyfer cludo ar lestri gyrru mewn ac allan) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

(2) Ni chaiff unrhyw gludwr gludo anifeiliaid ar lestr gyrru mewn ac allan oni bai bod meistr y llestr wedi gwirio'n gyntaf y materion y cyfeirir atynt yn y pwynt hwnnw.

Trefnwyr

8.  Bydd trefnydd sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r rhwymedigaethau yn Erthygl 5(3) a (4) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (mae Erthygl 5 yn ymwneud â rhwymedigaethau cynllunio i gludo anifeiliaid) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

Ceidwaid

9.  Bydd ceidwad sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 8 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (ceidwaid mewn mannau ymadael, mannau trosglwyddo neu gyrchfannau) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

Canolfannau cynnull

10.  Bydd gweithredydd canolfan gynnull sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (canolfannau cynnull) yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf.

Safleoedd rheoli

11.—(1) Mae'n dramgwydd i berson weithredu safle rheoli onid yw wedi'i gymeradwyo at y diben hwnnw.

(2) Mae'n dramgwydd i unrhyw berson weithredu neu ddefnyddio safle rheoli onid yw wedi'i gymeradwyo yn unol ag Erthygl 3(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97.

(3) Bydd gweithredydd safle rheoli sy'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/97 yn euog o dramgwydd yn erbyn y Ddeddf—

(a) Erthygl 4 (defnyddio safleoedd rheoli);

(b) Erthygl 5 (gweithredu safleoedd rheoli);

(c) Erthygl 6(1) (cadarnhau bod anifail yn ffit i barhau ar ei daith).

(3)

OJ L 3, 5.1.2005 t.1. Back [3]

(4)

OJ L 174, 2.7.97 t.1. Back [4]