62.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi.
(2) Mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig —
(a) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wrth iddo asesu cais y myfyriwr am gymorth yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a
(b) os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).
(3) Nid yw person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys —
(a) os rhoddwyd neu os talwyd i'r person hwnnw mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs rhan-amser —
(i) bwrsari gofal iechyd p'un a yw swm y bwrsari hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person neu beidio;
(ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992(60); neu
(iii) lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person hwnnw neu beidio;
(b) os yw'r person hwnnw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c) os yw'r person hwnnw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;
(ch) os yw'r person hwnnw, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth; neu
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw'n garcharor sy'n bwrw dedfryd o gaethiwed.
(4) Nid yw paragraff (3)(d) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu'n cael ei ryddhau o'r carchar ar ôl bwrw dedfryd o'r fath.
(5) At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(6) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud —
(a) cyn 25 Medi 1991, a
(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y bydd paragraff 3(c) yn gymwys.
(7) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 65(1)(b) neu reoliad 66 os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.
(8) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth —
(a) o dan reoliad 65(1)(a) oni bai ei fod yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yng Nghymru neu Loegr; neu
(b) o dan reoliad 65(1)(b) neu 66 oni bai ei fod yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yn y Deyrnas Unedig.
(9) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 65 os yw wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser am gyfanswm o wyth mlynedd academaidd a'i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (10).
(10) Y benthyciadau a'r grantiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9) yw —
(a) benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi'i roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b) benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi'i roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser gan yr Adran Cyflogi a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(61); neu
(c) benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser a roddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(62).
(11) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 65 os oes ganddo radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.
(12) At ddibenion paragraff (11), nid yw gradd yn cael ei thrin fel gradd gyntaf —
(a) os yw'n radd (heblaw gradd anrhydedd) sydd wedi'i dyfarnu i fyfyriwr rhan-amser cymwys sydd wedi cwblhau'r modiwlau, yr arholiadau neu'r dulliau asesu eraill sy'n angenrheidiol at gwrs ei radd gyntaf;
(b) os ymgymerwyd â'r cwrs mewn sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig; ac
(c) os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i gofrestru i barhau â'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ar ôl i'w radd gael ei dyfarnu er mwyn sicrhau gradd anrhydedd pan gwblheir y modiwlau, yr arholiadau neu'r dulliau asesu eraill sy'n angenrheidiol.
(13) Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (15) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —
(a) gall myfyriwr fod â hawl i gael grant mewn perthynas â ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b) nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(14) Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e) neu (f) o baragraff (15) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —
(a) gall myfyriwr fod â hawl i gael grant at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a
(b) nid oes grant at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(15) Y digwyddiadau yw —
(a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig;
(b) bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(c) bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;
(ch) bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;
(d) bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(dd) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(e) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(f) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir.
(16) Er gwaethaf paragraff (2), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (17) neu (18).
(17) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—
(a) bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs rhan-amser dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(b) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) nad yw statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i derfynu.
(18) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—
(a) bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu o'r blaen fod y person —
(i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig; neu
(ii) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig heblaw'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol;
(b) bod statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(c) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (a); ac
(ch) nad yw statws y person fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.
(19) Os bydd—
(a) y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs rhan-amser presennol; a
(b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(20) Os bydd—
(a) y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs rhan-amser presennol; a
(b) y cyfnod y caniateir i'r person â hawl i ddod i mewn neu i aros aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ac, ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd honno, os na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(21) Nid yw paragraffau (19) a (20) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys neu'n fyfyriwr cymwys, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.
(22) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl, ar unrhyw un adeg, i gael cymorth—
(a) at fwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig;
(b) at gwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig;
(c) at gwrs rhan-amser dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig.
63.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs rhan-amser yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 62 —
(a) os yw'n gwrs a grybwyllir yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon;
(b) os yw'n para am o leiaf un flwyddyn academaidd;
(c) os yw fel arfer yn bosibl gorffen y cwrs mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod y mae fel arfer ei angen i gwblhau cwrs amser-llawn cyfatebol;
(ch) os yw'n cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac
(d) nad yw wedi'i ddynodi gan neu o dan reoliad 5.
(2) Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs rhan-amser dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
(3) Nid yw cwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gwrs rhan-amser dynodedig.
(4) At ddibenion paragraff (1) —
(a) mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;
(b) bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac
(c) ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(63).
(5) At ddibenion paragraff (1)(c)—
(a) ystyr “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs dan sylw;
(b) ystyr “cyfnod sy'n ofynnol fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw—
(i) os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol pe rhoddid iddo 120 o bwyntiau credyd ym mhob blwyddyn academaidd;
(ii) os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, y cyfnod y byddai myfyriwr amser-llawn safonol yn ei gymryd i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;
(c) “myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr y cymerir—
(i) ei fod wedi dechrau cwrs amser-llawn cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs o dan sylw;
(ii) nad yw wedi'i esgusodi rhag dilyn unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol;
(iii) nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol; a
(iv) nad yw wedi bod yn absennol o'r cwrs amser-llawn cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.
(6) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 62(1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi gan baragraff (1).
64.—(1) Mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig hyd onid yw'r statws yn dod i ben yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliadau 4 a 6.
(2) Y cyfnod y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws yw'r “cyfnod cymhwystra”.
(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”) ym mharagraff (2) yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.
(4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr rhan-amser cymwys —
(a) yn tynnu'n ôl o'i gwrs rhan-amser dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu lle na fydd yn trosglwyddo neu yn trosi ei statws o dan reoliad 69 neu 70; neu
(b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs rhan-amser dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(5) Mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd berthnasol pan na all y myfyriwr rhan-amser cymwys gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 69(1)(c).
(6) At ddibenion paragraff (5) ystyr “blwyddyn academaidd berthnasol” (“relevant academic year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae'n dod yn amhosibl i'r myfyriwr yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 69(1)(c) hyd yn oed os bydd yn dwysáu ei astudiaethau.
(7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(8) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —
(a) terfynu'r cyfnod cymhwystra;
(b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;
(c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordal y caniateir ei adennill o dan reoliad 73.
(9) Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben—
(a) cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau'r cwrs rhan-amser dynodedig ynddi; a
(b) ac eithrio o dan baragraff (5),
caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu, neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y mae'n penderfynu arno.
65.—(1) At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw —
(a) grant mewn perthynas â ffioedd nad yw'n fwy na'r lleiaf o'r symiau canlynol —
(i) y grant sylfaenol, a
(ii) y “ffioedd gwirioneddol” (“actual fees”), sef swm y ffioedd a godir mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs rhan-amser dynodedig; a
(b) grant nad yw'n fwy na £1,000 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig.
(2) Mae'r grant sylfaenol yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw'r astudio.
Cyfrifir pa mor ddwys yw'r astudio fel a ganlyn a'i fynegi fel canran
No math image to display
os
PT yw nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu uned arall sydd i'w dyfarnu i'r myfyriwr rhan-amser cymwys gan yr awdurdod academaidd os bydd yn cwblhau'n llwyddiannus y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi;
FT yw—
os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, 120;
os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu uned arall y byddai'n ofynnol i fyfyriwr amser-llawn safonol eu hennill ym mhob blwyddyn academaidd er mwyn iddo gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol o fewn y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs hwnnw.
(3) At ddibenion paragraff (2)—
(a) mae “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) a “myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) i'w dehongli; ac
(b) mae “y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“the period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) i'w gyfrifo
yn unol â rheoliad 70.
(4) Y “grant sylfaenol” (“basic grant”) yw —
(a) £605 os yw dwysedd yr astudio yn llai na 60 y cant (“lefel 1”);
(b) £725 os yw dwysedd yr astudio yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant (“lefel 2”);
(c) £905 os yw dwysedd yr astudio yn 75 y cant neu'n fwy (“lefel 3”).
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), mae swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn —
(a) mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ei bartner hawlogaeth ar ddyddiad ei gais —
(i) o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(64) i gael cymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor; neu
(ii) o dan Ran 1 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995(65) i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(66) i gael lwfans y fargen newydd;
(b) os yw'r incwm perthnasol yn llai na £15,715, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;
(c) os yw'r incwm perthnasol yn £15,715, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai nag uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a);
(ch) os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £15,715 ond yn llai na £23,700, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw'r swm a bennir yn unol â pharagraff (6);
(d) os yw'r incwm perthnasol yn £23,700, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw £50;
(dd) os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £23,700 ond yn llai na £24,315, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ac nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a);
(e) os yw'r incwm perthnasol yn £24,315 neu fwy ond yn llai na £26,260, nid oes cymorth ar gael o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw'r swm sy'n weddill ar ôl didynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) £1 am bob £2.00 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £24,315;
(f) os yw'r incwm perthnasol yn £26,260, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw £50;
(ff) os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £26,260, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1).
(6) Os yw paragraff (5)(ch) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) drwy ddidynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) un o'r symiau canlynol —
(a) £50 plws £1 arall am bob £15.92, £12.79 neu £9.94 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £15,715 yn ôl a yw dwysedd yr astudio ar lefel 1, 2 neu 3, yn y drefn honno; neu
(b) os yw'r grant sylfaenol yn fwy na'r ffioedd gwirioneddol, swm sy'n hafal i'r hyn sy'n weddill ar ôl didynnu o'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng y grant sylfaenol a'r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn Rhif negyddol ac os felly mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) yn daladwy).
(7) At ddibenion y rheoliad hwn —
(a) ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;
(b) ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;
(c) ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
(ch) ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi;
(d) ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw geisiadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;
(dd) mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (8);
(e) yn ddarostyngedig i is-baragraff (f), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol —
(i) priod myfyriwr rhan-amser cymwys;
(ii) partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi ac os dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(f) nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (e) yn cael ei drin fel partner —
(i) os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhoi'r gorau i fyw gyda'i gilydd fel arfer; neu
(ii) os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser;
(ff) mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;
(8) At ddibenion y rheoliad hwn —
(a) yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys yn hafal i'w adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai —
(i) £2,000 mewn perthynas â'i bartner;
(ii) £2,000 mewn perthynas â'r unig blentyn neu'r plentyn hynaf sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner; a
(iii) £1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner;
(b) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na'i adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu fwy, caiff asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw o dan is-baragraff (a) drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol;
(c) ystyr adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys mewn blwyddyn ariannol yw cyfanswm ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â chyfanswm yr incwm am y flwyddyn honno sydd gan unrhyw berson sydd ar ddyddiad y cais am gymorth yn bartner i'r myfyriwr.
(9) Yn y rheoliad hwn ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig a bennir” (“specified designated part-time course”) yw'r cwrs y mae'r person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad o'r statws hwnnw neu fwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o gwrs rhan-amser (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir yw'r cwrs cychwynnol.
66.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl yn unol â'r Rhan hon i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei ysgwyddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.
(2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol —
(a) £9,325 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(b) £4,910 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
(c) y gwariant ychwanegol sy'n cael ei ysgwyddo —
(i) yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad;
(ii) yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu er mwyn bod yn bresennol yn Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis;
(ch) £1,230 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.
67.—(1) Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs rhan-amser dynodedig drwy gwblhau ffurflen gais ar y cyfryw ffurf ag y byddo'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani a'i chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid anfon gyda'r cais—
(a) datganiad a gwblhawyd gan yr awdurdod academaidd; a
(b) y cyfryw ddogfennaeth ychwanegol ag y byddo'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani.
(3) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.
(4) Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (2) yn gymwys —
(a) os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (15) o reoliad 62 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda'r dyddiad y mae'r digwyddiad yn digwydd;
(b) os yw'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan reoliad 66, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; neu
(c) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddo.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.
68.—(1) Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r awdurdod academaidd priodol, ar gais y ceisydd, gwblhau'r datganiad y cyfeirir ato yn rheoliad 67 (2) ar y ffurf y gofynnir amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Nid yw'n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw'n gallu rhoi'r cadarnhad gofynnol.
(4) Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—
(a) pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—
(i) sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
(ii) sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy o wythnosau o'r cwrs rhan-amser dynodedig;
(b) mewn unrhyw achos arall, datganiad—
(i) sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
(ii) sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—
(a) swm y ffioedd a godir mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi;
(b) pa mor ddwys yw'r astudio; a
(c) nodyn ardystio gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn—
(i) mai cwrs rhan-amser dynodedig yw'r cwrs;
(ii) y bydd yn bosibl i'r ceisydd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 63(5)(b) .
(6) At ddibenion paragraff (5)(c)(ii) rhaid i'r awdurdod academaidd roi sylw i—
(a) unrhyw gynnydd ym mha mor ddwys y byddai angen astudio er mwyn i'r ceisydd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 63(5)(b);
(b) unrhyw rannau o'r cwrs y mae wedi bod yn ofynnol i'r ceisydd eu hailadrodd.
69.—(1) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys i'r cwrs hwnnw —
(a) os caiff gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny;
(b) os yw wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac
(c) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(2) Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —
(a) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig arall yn y sefydliad;
(b) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn sefydliad arall; neu
(c) ar ôl iddo ddechrau cwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.
(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno wneud cais am grant arall o dan reoliad 65(1)(b) neu reoliad 66 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.
(6) Os yw myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 65(1)(a) mewn perthynas â'r blynyddoedd academaidd y mae'n trosglwyddo iddynt neu oddi wrthynt yw swm y cymorth at ffioedd sydd ar gael mewn cysylltiad â'r cwrs mwyaf dwys o ran ei astudio fel y diffinnir yn rheoliad 65.
70.—(1) Os yw myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo —
(a) os caiff gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny; a
(b) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(2) Os yw'r myfyriwr, cyn cwblhau'r cwrs dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 63(1)(b) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr yn para am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi arno.
(3) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) —
(a) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr o dan reoliad 24 mewn rhandaliadau o bryd i'w gilydd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;
(b) mae uchafswm y grant y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 66 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr o'r fath mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno;
(c) os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr o dan reoliad 24 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliad 66 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 24, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac
(ch) os oedd y myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais, am fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu'r uchafswm wedi'i gynyddu yr oedd ganddo hawlogaeth i'w gael, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu'r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) mae uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad hwnnw am y flwyddyn academaidd yn cael ei ostwng yn unol â'r paragraff hwnnw.
(4) Os yw'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hi, mae uchafswm y benthyciad neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad (yn ôl fel y digwydd) yn cael ei ostwng o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ystod ail chwarter y flwyddyn honno mae'r swm hwnnw'n cael ei ostwng o un traean.
(5) Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo —
(a) os caiff gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a
(b) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401. Back [60]
O.S. 1998/1760 (G.I. 14). Back [61]
1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr (Yr Alban) 2001 (dsa6), adran 3(2). Mewnosodwyd adran 73B gan adran 29(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunan-lywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46). Back [62]
1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27. Back [63]
1992 p. 4; diwygiwyd Rhan VII gan Ddeddf Tai 1991 (p. 52), Atodlen 19, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), Atodlen 9 ac Atodlen 14, Deddf Ceisio Gwaith 1995 (p. 18), Atodlen 2 ac Atodlen 3, Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 8 a Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2 ac Atodlen 3 a'r Ddedff Partneriaeth Sifil 2004 (p.33), Atodlen 24. Back [64]
1995 p. 18; diwygiwyd Rhan I gan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18), Atodlen 1, Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p. 14), Atodlenni 7 ac 8, Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlenni 7, 8 a 13, Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2, Deddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2002 (p. 19), Atodlen 1 a Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 18), Atodlen 6 and the Civil Partnership Act 2004 (c. 33), Atodlen 24.. Back [65]
1973 p. 50; diwygiwyd adran 2 fel y'u hamnewidiwyd gan Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p. 19) gan Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p. 38), Atodlen 7. Mewnosodwyd is-adrannau (3A) a (3B) gan Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p. 19), adran 47 mewn perthynas â'r Alban yn unig. Back [66]