Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 10 TALIADAU

Talu grantiau neu fenthyciadau at ffioedd

55.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael i'r sefydliad y mae'r myfyriwr yn atebol i'w dalu pan gaiff y Cynulliad Cenedlaethol gais am daliad oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol.

(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd i'r awdurdod academaidd —

(a) nid cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd; ac, yn achos grant yn unig,

(b) nid hwyrach na 10 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod yn is-baragraff (a), neu yn ddi-oed ar ôl i gais dilys am daliad ddod i law, os yw hynny yn hwyrach.

(3) Os yw asesu cyfraniad y myfyriwr neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad dros dro.

(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad at ffioedd mewn rhandaliadau.

(5) Os yw asesu cyfraniad myfyriwr o dan yr hen drefn neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad a thaliad dros dro.

(6) Ni chaniateir talu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

(a) os bydd y myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b) os yw'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas â hi neu o gwbl.

Talu grantiau at gostau byw

56.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan Ran 5 yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae o'r farn eu bod yn briodol

(2) Mae'n ofynnol i sefydliad anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol.

(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth o dan Ran 5 mewn rhandaliadau, rhaid iddo beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 i fyfyriwr cymwys cyn i'r cadarnhad ddod i law onid oes eithriad yn gymwys.

(4) Mae eithriad yn gymwys—

(a) pan fo lwfans myfyrwyr anabl yn daladwy, ac yn yr achos hwnnw caniateir talu'r grant arbennig hwnnw cyn i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b) pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y byddai'n briodol oherwydd amgylchiadau eithriadol i wneud taliad a chadarnhad o bresenoldeb heb eto ddod i law.

(5) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 5.

(6) Mae taliadau cymorth o dan Ran 5 i'w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn briodol a chaiff y Cynulliad ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar ei gyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

(7) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.

(8) Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu—

(a) swm pob grant at gostau byw a chostau eraill y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael ac a fyddai'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol pe na byddai cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys wedi dod i ben (y “cyfanswm”); a

(b) faint o'r cyfanswm sy'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod sy'n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys i ben (y “swm rhannol”).

(9) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(10) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi talu grant at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys i ben a bod taliad yn fwy na swm rhannol y grant hwnnw—

(a) caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin y tâl dros ben fel gordal o'r grant hwnnw

(b) os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny caiff estyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chaiff benderfynu bod cyfanswm y grant yn ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

(11) Os yw taliad grant at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i'w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y'i telir, swm y grant hwnnw sy'n ddyledus yw'r swm rhannol onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod yn briodol i estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol neu'n briodol i benderfynu bod cyfanswm y grant hwnnw'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

(12) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn ddyledus mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn yr amgylchiadau i gyd i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.

(13) Wrth benderfynu p'un a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (12) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na fyddai'r cymorth yn cael ei dalu.

(14) Nid ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu mynychu oherwydd salwch ac os nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.

(15) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl iddo wneud unrhyw daliad o gymorth o dan Ran 5 neu Ran 6, yn penderfynu swm y grant at gostau byw a chostau eraill y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—

(a) os penderfyniad i gynyddu swm y grant hwnnw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael yw'r penderfyniad rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r swm ychwanegol yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn eu bod yn briodol;

(b) os penderfyniad i ostwng swm y grant hwnnw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael yw'r penderfyniad rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dynnu i ffwrdd swm y gostyngiad o swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu;

(c) os yw swm y gostyngiad yn fwy na swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim a chaiff y balans ei dynnu i ffwrdd o unrhyw grant arall at gostau byw a chostau eraill y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd;

(ch) gellir adennill unrhyw ordal sy'n weddill yn unol â rheoliad 60 .

Talu Benthyciadau — amodau hawlogaeth i gael taliad

57.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o ran unrhyw fenthyciad fod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

(2) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gosod amod o dan baragraff (1), rhaid iddo beidio â gwneud unrhyw daliad o ran y benthyciad i'r myfyriwr cymwys cyn iddo gael ei fodloni bod y myfyriwr wedi cydymffurfio â'r amod hwnnw.

(3) Er gwaethaf paragraff (2), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw wedi'i fodloni y byddai'n briodol iddo wneud taliad o'r fath o achos amgylchiadau eithriadol, wneud taliad benthyciad i fyfyriwr cymwys heb fod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â'r amod a osodwyd o dan baragraff (1).

(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i geisydd, fyfyriwr cymwys ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy fodd arbennig.

(5) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gofyn am gytundeb o ran y modd yr ad-delir o dan y rheoliad hwn, caiff gadw unrhyw daliad benthyciad yn ôl hyd oni fo'r person yn darparu yr hyn y gofynnwyd amdano.

Gofynion o ran gwybodaeth

58.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ofyn i geisydd am wybodaeth y mae o'r farn ei bod yn ofynnol ar gyfer adennill benthyciad.

(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw adeg ofyn i geisydd am gael gweld ei gerdyn adnabod dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae'n un o'i dinasyddion neu ei dystysgrif geni.

(3) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gofyn am wybodaeth neu ddogfennau o dan y rheoliad hwn, caiff gadw'n ôl unrhyw daliad benthyciad hyd oni fydd y person yn darparu'r hyn y gofynnwyd amdano neu hyd onid yw'n darparu eglurhad boddhaol am beidio â chydymffurfio â'r cais.

Talu benthyciadau at gostau byw a chostau eraill

59.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan Ran 8 mewn rhandaliadau.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan Ran 6 ar y cyfryw adegau ag y mae o'r farn eu bod yn briodol.

(3) Mae'n ofynnol i sefydliad anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol.

(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf, neu pan fydd wedi penderfynu peidio â thalu cymorth o dan Ran 6 drwy randaliadau, wneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 i'r myfyriwr cymwys hyd oni fydd cadarnhad o bresenoldeb wedi dod i law oddi wrth y sefydliad perthnasol onid oes eithriad yn gymwys.

(5) Mae eithriad yn gymwys os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y byddai'n briodol, o achos amgylchiadau eithriadol, iddo wneud taliad heb i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law.

(6) Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gan y myfyriwr, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 6.

(7) Mae taliadau cymorth o dan Ran 6 i'w gwneud yn y cyfryw fodd ag y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn briodol a chaiff ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod y rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar ei gyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

(8) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 5 neu o dan Ran 6 a bod myfyriwr sy'n gymwys i gael benthyciad at gostau byw o dan Ran 6 yn gwneud cais am fenthyciad o'r fath neu'n gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad hwnnw neu'r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae o'r farn eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i gais boddhaol ddod i law.

(9) Yn ddarostyngedig i reoliad 8, nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.

(10) Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn ddyledus mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod rhan ohono, oni fyddai'n briodol, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn yr holl amgylchiadau, i gymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.

(11) Wrth benderfynu p'un a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (10) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddynt yn cynnwys y rhesymau am absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol y byddai peidio â thalu'r myfyriwr yn ei achosi.

(12) Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu mynychu oherwydd salwch ac os nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.

(13) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl iddo wneud unrhyw daliad benthyciad at gostau byw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o dan Ran 6, yn gwneud penderfyniad bod y swm o fenthyciad at gostau byw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael yn llai na'r swm a benderfynwyd yn flaenorol naill ai drwy adolygiad o asesiad dros dro neu fel arall —

(a) rhaid iddo dynnu i ffwrdd o unrhyw swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i'w dalu y cyfryw swm ag y mae ei angen er mwyn sicrhau nad yw'r myfyriwr yn benthyg swm o fenthyciad at gostau byw sy'n fwy na'r swm y mae'n gymwys i'w gael;

(b) os yw'r swm sydd i'w dynnu i ffwrdd yn fwy na'r swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i'w dalu, gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim;

(c) gellir adennill unrhyw ordal yn unol â rheoliad 60.

Gordaliadau

60.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordal o grant neu fenthyciad at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2) Rhaid i fyfyriwr cymwys, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm a delir i'r myfyriwr o dan Ran 5 neu 6 ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na'r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth arno o dan Ran 5 neu 6.

(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adennill gordal o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill onid yw o'r farn nad yw'n briodol iddo wneud hynny.

(4) Mae taliad o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordal os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.

(5) Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (6) neu (7), mae gordal o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.

(6) Yr amgylchiadau yw—

(a) mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr cymwys;

(b) mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben neu fe'i terfynir o dan reoliad 6 ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c) nid yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i'w gyfnod cymhwystra ddod i ben neu cyn iddo gael ei derfynu.

(7) Yr amgylchiadau yw—

(a) mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys yn dod i ben neu fe'i terfynir o dan reoliad 6 ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b) gwneir taliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben neu iddo gael ei derfynu.

(8) Os oes gordal o grant at gostau byw myfyrwyr anabl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordal os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny.

(9) Caniateir adennill unrhyw ordal o unrhyw grant o dan Ran 5 ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau —

(a) drwy dynnu i ffwrdd y gordal o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b) drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordal ag sydd ar gael iddo.

(10) Caniateir adennill unrhyw ordal o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd os ym marn y Cynulliad Cenedlaethol —

(a) bod y gordal wedi digwydd o ganlyniad i fethiant ar ran y myfyriwr i ddarparu'n brydlon wybodaeth a allai effeithio ar b'un a yw'n gymwys ai peidio i gael benthyciad neu ar y swm o fenthyciad y mae'n gymwys i'w gael; neu

(b) bod unrhyw wybodaeth y mae'r myfyriwr wedi'i ddarparu yn anghywir mewn manylyn perthnasol; neu

(c) bod y myfyriwr wedi methu â darparu gwybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.

(11) Pan fo modd adennill gordal o fenthyciad at gostau byw yn unol â pharagraff (4), caniateir ei adennill ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau —

(a) drwy dynnu i ffwrdd y gordal o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b) drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordal ag sydd ar gael iddo.

(12) Pan na fo modd adennill gordal o dan baragraff (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu i ffwrdd y gordal o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o'r Ddeddf.

(13) Yn y rheoliad hwn “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

Taliadau — dehongli

61.—(1) Yn y Rhan hon—

(a) ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yw—

(i) cadarnhad gan y sefydliad fod y myfyriwr wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—

(aa) pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;

(bb) pan fo gan y myfyriwr anabledd; ac

(cc) pan fo'r myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs ond nad yw'n mynychu'r cwrs (ni waeth a yw'r rheswm am beidio â mynychu'n ymwneud â'i anabledd ai peidio);

(ii) cadarnhad gan y sefydliad fod y myfyriwr wedi ymgyflwyno yn y sefydliad ac wedi dechrau mynychu'r cwrs—

(aa) pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;

(bb) pan na fo'r myfyriwr wedi cael ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad; ac

(cc) pan na fo is-baragraff (i)(cc) yn gymwys;

(iii) cadarnhad gan y sefydliad fod y myfyriwr wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—

(aa) pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig a hynny heb fod am y tro cyntaf; neu

(bb) pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf ar ôl iddo gael ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o gwrs arall yn yr un sefydliad;

(b) ystyr “cyfnod talu” (“payment period”) yw cyfnod y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn talu mewn perthynas ag ef y cymorth perthnasol o dan Ran 5 neu Ran 6 neu y byddai wedi talu'r cyfryw gymorth pe na bai cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys wedi dod i ben.