50.—(1) Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw —
(a) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gostau byw sydd wedi'i hysbysu i'r myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd (gan gynnwys cynnydd i fyny o ddim byd) o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr neu fel arall; a
(b) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys —
(i) methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad neu swm y benthyciad y mae ganddo hawl i'w gael; neu
(ii) rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.
(2) Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (1), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.
(3) Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn ei achos ef.
51.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd a fydd yn arwain at gyfradd ganrannol flynyddol o dâl a bennir yn unol â Rheoliadau Credyd Defnyddwyr (Cyfanswm y Tâl am Gredyd) 1980(58) sy'n hafal i'r cynnydd canrannol rhwng y mynegai prisiau manwerthu pob eitem a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Mawrth 2006 a'r mynegai a gyhoeddwyd ganddi ar gyfer Mawrth 2007.
(2) Os yw'r gyfradd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn fwy na'r gyfradd sydd am y tro wedi'i phennu at ddibenion unrhyw esemptiad sydd wedi'i roi yn rhinwedd adran 16(5)(b) o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974(59) mae benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd sydd wedi'i phennu felly.
(3) Cyfrifir llog ar y prifswm sy'n weddill bob dydd ac mae'n cael ei ychwanegu at y prifswm bob mis.
(4) Y mynegai prisiau y mae adran 22(8) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddo wrth ragnodi cyfradd llog benthyciadau yw'r mynegai prisiau manwerthu pob eitem a grybwyllir ym mharagraff (1).
52. Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael i fyfyriwr cymwys yn unol ag Atodlen 4.
53.—(1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 5, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) At ddibenion arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Ddeddf a'r rheoliadau a wnaed odani, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o bryd i'w gilydd unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr.
54.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i swm sy'n hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan Atodlen 5 gael ei gymhwyso nes ei ddihysbyddu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn —
(a) yn gyntaf, i ostwng GFF;
(b) yn ail, i ostwng ADG;
(c) yn drydydd, i ostwng CCG;
(ch) yn bedwerydd, i ostwng PLA;
(d) yn bumed, i ostwng LLC i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;
(dd) yn chweched, i ostwng GFT.
(2) Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn —
(a) pan fo'r grant at ffioedd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 16(1) a 16(7),
(i) mae GFF yn £1,225; a
(ii) y swm sy'n weddill ar ôl didynnu'r cyfraniad o GFF yw swm y grant at ffioedd sy'n daladwy;
(b) pan fo rheoliad 16(3)(a) neu (c) yn gymwys
(i) GFF yw £610; a
(ii) y swm sy'n weddill ar ôl didynnu'r cyfraniad o GFF yw swm y grant at ffioedd sy'n daladwy;
(c) pan fo rheoliad 16(3)(b), (ch) neu (d) yn gymwys neu fod yr amgylchiadau cyfatebol o dan reoliad 17(3) yn gymwys—
(i) GFF yw £610; a
(ii) gostyngir £610 ar y cyfraniad cyn iddo gael ei gymhwyso yn erbyn GFF;
(ch) pan fo'r cwrs dynodedig yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs ar gyfer gradd gyntaf) —
(i) GFF yw dim;
(ii) nid oes gostyngiad ar swm y grant at ffioedd a gyfrifir o dan reoliadau 16 a 17; a
(iii) mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG;
(d) Pan nad oes gan y myfyriwr hawl i gael grant at ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd yn rhinwedd y ffaith ei fod yn cymryd rhan yn y rhaglen ERASMUS —
(i) GFF yw dim;
(ii) gostyngir £1,225 ar y cyfraniad; a
(iii) mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG;
(dd) pan nad oes gan y myfyriwr hawl i gael grant at ffioedd am unrhyw reswm arall, GFF yw dim ac mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG.
(3) Yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, GFF yw dim ac mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG.
(4) Yn y rheoliad hwn —
(a) ADG yw swm y grant dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 26;
(b) CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 27;
(c) PLA yw swm y lwfans dysgu rhieni, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir o dan reoliad 28 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans);
(ch) LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys, heblaw myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng, hawl i'w gael o dan Ran 6;
(d) GFT yw swm y grant at deithio y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliad 31, os oes unrhyw swm o gwbl;
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw —
(a) £2,620, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;
(b) £4,740, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;
(c) £4,035, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;
(ch) £4,035, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;
(d) £3,385, yn achos myfyriwr yng nghategori 5;
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os yw'r flwyddyn academaidd o dan sylw yn flwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs carlam, y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw —
(a) £2,370, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;
(b) £4,315, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;
(c) £3,510, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;
(ch) £3,510, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;
(d) £3,135, yn achos myfyriwr yng nghategori 5.
(7) Os oes categorïau gwahanol yn gymwys o dan reoliad 42 ar gyfer gwahanol chwarteri o'r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (5) a (6) yw cyfanswm y symiau a bennir o dan baragraff (8) ar gyfer pob un o'r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.
(8) Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter o dan y paragraff hwn yw traean o'r swm ym mharagraff (5) neu (6) sy'n cyfateb i'r gyfradd sy'n gymwys ar gyfer y chwarter.
(9) Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £610 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £38,810.
(10) Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £1,225 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £38,810.
(11) Mae i gategorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 49.