23.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod —
(a) nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a
(b) bod y myfyriwr yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'n gwneud cais amdano.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd —
(a) pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr;
(b) pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu
(c) ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn, gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu, yn llai na 6 wythnos.
(4) Nid yw paragraff (3)(c) yn gymwys at ddibenion rheoliad 24.
(5) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.
(6) At ddibenion paragraff (5), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw —
(a) gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;
(b) gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy'n ymwneud â gofal plant a phersonau ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu sy'n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;
(c) gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;
(ch) ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr sy'n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu
(d) gwasanaeth di-dâl gydag —
(i) Awdurdod Iechyd neu Awdurdod Iechyd Strategol a sefydlwyd yn unol ag adran 8 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(44) (“Deddf 1977”) neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o'r Ddeddf honno(45) neu yn unol ag adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(46) neu Fwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 16BA o Ddeddf 1977(47) neu yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Fwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 16 BA Ddeddf 1977;
(ii) Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(48); neu
(iii) Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (49).
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliad 35, 36 neu 37 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.
(8) Nid yw paragraff (7) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol yw —
(a) ei fod yn cymryd rhan yng nghynllun gweithredu'r Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS a bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(b) bod y cwrs gradd yn gwrs HCA hyblyg.
(9) Ym mharagraff (7) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliad 35, yw grant at ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliad 36 neu 37, benthyciad at ffioedd.
(10) Os daw myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (11), caiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(11) Y digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (10) yw —
(a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
(b) bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(c) bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(ch) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
(d) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
(dd) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir.
24.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei ysgwyddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig.
(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol—
(a) £12,425 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
(b) £4,910 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;
(c) y gwariant ychwanegol sy'n cael ei ysgwyddo —
(i) yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad,
(ii) yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu er mwyn bod yn bresennol yn Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis;
(ch) £1,645 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.
(5) Os yw'r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â'r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (4)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.
(6) Uchafswm y grant o dan baragraffau (4)(a) a (4)(ch) yw £9,325 a £1,230, yn y drefn honno —
(a) os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon; a
(b) os yw cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn llai na 6 wythnos.
25.—(1) Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol —
(a) grant dibynyddion mewn oed;
(b) grant gofal plant;
(c) lwfans dysgu rhieni.
(2) Nodir amodau'r hawl i gael pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 26 i 29.
(3) Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliad 54.
26.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â dibynnydd i fyfyriwr cymwys sydd naill ai —
(a) yn bartner i'r myfyriwr cymwys; neu
(b) yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net yn fwy na £3,615.
(3) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 29, a'r swm sylfaenol yw —
(a) £2,515; neu
(b) os yw'r person y mae'r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,515 sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan reoliad 29 yn cael ei ostwng o hanner —
(a) os yw partner y myfyriwr cymwys —
(i) yn fyfyriwr cymwys; neu
(ii) yn dal dyfarniad statudol; a
(b) os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw â hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
27.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant mewn perthynas â chostau gofal plant sy'n gostau rhagnodedig a dynnir mewn perthynas â phob plentyn dibynnol yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant gofal plant mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae'n tynnu costau gofal plant rhagnodedig ynddi a hynny ar gyfer —
(a) plentyn sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd; neu
(b) plentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(50) a'i fod o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(51).
(4) Nid yw myfyriwr cymwys yn gymwys i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r costau gofal plant rhagnodedig y mae'n eu tynnu'n cael eu talu neu os ydynt i'w talu gan y myfyriwr i'w bartner mewn perthynas â—
(a) ei blentyn; neu
(b) plentyn ei bartner.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw —
(a) ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau gofal plant rhagnodedig, hyd at uchafswm o £153 yr wythnos; neu
(b) ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau gofal plant rhagnodedig, hyd at uchafswm o £259.25 yr wythnos,
ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n syrthio o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.
(6) Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant —
(a) mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a
(b) os yw wythnos y caiff costau gofal plant rhagnodedig eu tynnu mewn perthynas â hi yn syrthio'n rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan iddi, mae uchafswm wythnosol y grant yn cael ei gyfrifo drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (4) â chyfrannedd y nifer o ddyddiau yn yr wythnos honno sy'n syrthio o fewn y flwyddyn academaidd o'i chymharu â nifer y dyddiau mewn wythnos.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “costau gofal plant rhagnodedig” (“prescribed childcare charges”) yw costau gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002(52).
28.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o blant dibynnol.
(2) Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 29, a'r swm sylfaenol yw £1,435.
29.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliadau 26 i 28 yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben, swm sy'n hafal i (A — B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol —
(a) i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 26;
(b) i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 27; ac
(c) i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 28.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A — B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.
(4) Rhaid gostwng swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 26(4).
(5) Rhaid gostwng swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 27(6).
(6) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.
(7) Yn y rheoliad hwn —
(a) A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a
(b) B yw
(i) £1,000 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol;
(ii) £3,300 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
(iii) £4,405 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;
(iv) £4,405 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn;
(v) £5,510 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
(8) Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd —
(a) bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;
(b) bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr cymwys neu'n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;
(c) bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;
(ch) bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 23(11).
(9) Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhieni yn daladwy, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol —
(a) faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;
(b) pwy yw'r dibynyddion hynny;
(c) a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.
(10) Swm y grant ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.
(11) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.
(12) Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw —
(a) yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(ch), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd heblaw chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol;
(b) fel arall, chwarter heblaw'r chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
30.—(1) Yn rheoliadau 25 i 29 —
(a) ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;
(b) ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
(c) ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner neu gyn bartner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil nad yw'n preswylio fel arfer gyda'r myfyriwr);
(ch) mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);
(d) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (f), (ff) ac (g) ac (ng) ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol —
(i) priod myfyriwr cymwys;
(ii) partner sifil myfyriwr cymwys;
(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod i'r myfyriwr hwnnw os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 5 a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r myfyriwr cymwys os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 5 a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(dd) mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto os yw'r plant hynny'n dibynnu ar y myfyriwr;
(e) ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;
(f) nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (d) yn cael ei drin fel partner —
(i) os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr cymwys, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhoi'r gorau i fyw gyda'i gilydd fel arfer; neu
(ii) os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;
(ff) at ddibenion is-baragraff (c), mae person yn cael ei drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (d) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 5; ac
(g) at ddibenion is-baragraffau (dd) a (e), mae person yn cael ei drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (d) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar ei gwrs neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 5.
(ng) at ddibenion rheoliad 27 —
(aa) nid yw is-baragraff (ff) yn gymwys; a
(bb) mae person i'w drin fel pe bai'n bartner pe byddai'n bartner o dan is-baragraff (f) pe na bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'n byw gydag ef yn arferol yn dod o fewn paragraff (2)(1)(a) o Atodlen 5.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu —
(a) unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
(b) budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(53);
(c) unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(54);
(ch) unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
(d) yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(55);
(dd) unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno; ac
(e) unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002.
(3) Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl —
(a) swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu
(b) unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) At ddibenion paragraff (2), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn.
31.—(1) Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy'n mynychu cwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae rhan hanfodol ohono'n gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol) mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n orfodol iddo ei dynnu mewn blwyddyn academaidd at ddiben mynychu mewn cysylltiad â'i gwrs unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw'n rhan o'r sefydliad) lle y darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol a hynny ac eithrio gwariant a dynnir at ddiben cyfnod o astudio preswyl heb fod yn y sefydliad.
(2) Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy'n mynychu sefydliad tramor neu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis fel rhan o'i gwrs mewn perthynas â'r costau teithio y mae'n orfodol iddo eu tynnu ym mhob chwarter cymhwysol.
32.—(1) Mae swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 31(1) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i'r gwariant rhesymol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ei dynnu at y dibenion a nodir yn y rheoliad hwnnw llai £290.
(2) Swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 31(2) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfanswm y costau teithio y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys eu tynnu ym mhob chwarter cymhwysol llai £290.
(3) Mae myfyriwr cymwys—
(a) sy'n gymwys i gael grant o dan reoliad 31(2); a
(b) sy'n rhesymol yn tynnu unrhyw wariant wrth yswirio yn erbyn atebolrwydd o ran cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig i unrhyw salwch neu anaf corfforol a gaiff ei beri neu y dioddefir ohono yn ystod y cyfnod y mae'r myfyriwr yn mynychu'r sefydliad tramor neu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis,
yn gymwys i gael grant ychwanegol o dan y rheoliad hwn sy'n hafal i'r swm a dynnir.
33. Caniateir gwneud didyniad o grant o dan reoliadau 30 i 32 yn unol â Rhan 9.
34. At ddibenion y Rhan hon—
(a) o ran unrhyw gyfeiriad at wariant a dynnir at ddiben mynychu sefydliad neu gyfnod o astudio—
(i) mae'n cynnwys gwariant cyn ac ar ôl mynychu felly; a
(ii) nid yw'n cynnwys unrhyw wariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan reoliad 24.
(b) ystyr “chwarter cymhwysol” (“qualifying quarter”) yw chwarter y mae myfyriwr cymwys yn treulio o leiaf hanner cyfnod y chwarter hwnnw yn mynychu, fel rhan o'i gwrs, sefydliad tramor neu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis;
(c) ystyr “costau teithio” (“travel expenses”) yw gwariant rhesymol ar deithio o fewn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi at ddibenion mynychu fel rhan o gwrs dynodedig sefydliad tramor neu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis.
35.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant addysg uwch mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu hysgwyddo er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael grant addysg uwch oni bai ei fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004.
(3) Uchafswm y grant addysg uwch sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,000.
(4) Mae gan fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant addysg uwch hawlogaeth i gael swm fel a ganlyn —
(a) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £16,355 neu lai, mae ganddo hawlogaeth i gael uchafswm y grant sydd ar gael;
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £16,355 ac nad yw'n fwy na £22,340, mae'r myfyriwr yn cael swm sy'n hafal i M-A, pan fo M yn £1,000 ac A yn £1 am bob £6.30 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £16,355; ac
mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy nag £22,340, nid oes grant yn daladwy o dan y rheoliad hwn.
36.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cynhaliaeth mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cynhaliaeth os oes ganddo hawl i gael grant cymorth arbennig.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant cynhaliaeth oni bai ei fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006.
(4) Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw —
(a) yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,380;
(b) yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,765; ac
(c) yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,765.
(5) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno —
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,920 neu lai, mae'n cael £1,380;
(b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £17,920 ond heb fod yn fwy na £27,160, mae'n cael swm sy'n hafal i M-(A/2) pan fo M yn £1,380 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,920; ac
(c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,160, mae'n cael £610.
(6) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,920 neu lai, mae'n cael £2,765;
(b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £17,920 ond heb fod yn fwy na £27,160, mae'n cael swm sy'n hafal i M-A pan fo M yn £2,765 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,920; ac
(c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,160, mae'n cael £1,225.
(7) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,920 neu lai, mae'n cael £2,765;
(b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £17,920 ond heb fod yn fwy na £27,160, mae'n cael swm sy'n hafal i M-A pan fo M yn £2,765 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,920; ac
(c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,160 ond heb fod yn fwy na £38,325, mae'n cael swm sy'n hafal i RM-A, pan fo RM yn £1,225 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,160;
(ch) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £38,325 nid oes grant cynhaliaeth yn daladwy.
37.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cymorth arbennig mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu cost llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu hysgwyddo er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(2) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw'n syrthio o fewn categori rhagnodedig o berson at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(56), neu os ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau mewn perthynas ag annedd a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno(57).
(3) Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—
(a) yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,380;
(b) yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,765; ac
(c) yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,765.
(4) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,920 neu lai, mae'n cael £1,380;
(b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £17,920 ond heb fod yn fwy na £27,160, mae'n cael swm sy'n hafal i M-(A/2) pan fo M yn £1,380 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,920; ac
(c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,160, mae'n cael £615.
(5) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno —
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,920 neu lai, mae'n cael £2,765;
(b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £17,920 ond heb fod yn fwy na £27,160, mae'n cael swm sy'n hafal i M-A pan fo M yn £2,765 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,920; ac
(c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,160, neu os yw'r myfyriwr wrth wneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae'n cael £1,225.
(6) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd heblaw myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno —
(a) os yw incwm yr aelwyd yn £17,920 neu lai, mae'n cael £2,765;
(b) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £17,920 ond heb fod yn fwy na £27,160, mae'n cael swm sy'n hafal i M-A pan fo M yn £2,765 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,920;
(c) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,160 ond heb fod yn fwy na £38,325, mae'n cael swm sy'n hafal i RM-A, pan fo RM yn £1,225 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,160;
(ch) os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £38,325, nid oes grant cymorth arbennig yn daladwy.
1977 p. 49; diwygiwyd adran 8 gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), adran 1(2). Back [44]
Diwygiwyd adran 11 gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), adran 2 ac Atodlen 1, paragraff 2 a Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, paragraff 6. Back [45]
Mewnosodwyd adran 16BA gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002, adran 6(1). Back [47]
1978 p. 29. Back [48]
O.S. 1972/1265 (G.I. 14). Back [49]
1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraff 56. Back [50]
Mae Rheoliad 14 o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth ac Uchafsymiau) 2002 (O.S. 2002/2005, fel y'i diwygir gan O.S.2003/701, S.I. 2003/2815, S.I. 2004/762, S.I. 2004/1276, S.I. 2004/2663, S.I. 2005/769, S.I. 2005/2919, S.I. 2006/766) yn nodi'r costau a ragnodir, ac felly gostau gofal plant rhagnodedig, at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002. Back [52]
1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Plant 2004 (p.31), adran 49 (3). Back [55]
1992 p. 4. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1981; mae yna offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol. Back [56]
Y rheoliad perthnasol yw 48A o Reoliadau Bydd-dal Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971). Mewnosodwyd rheoliad 48A gan O.S. 1990/1549; mae O.S 1992/432, 1995/626, 1996/1510 a 1998/766 yn offerynnau diwygio perthnasol. Back [57]