Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 3 GWNEUD CAIS AM GYMORTH A RHOI GWYBODAETH

Ceisiadau am gymorth

9.—(1) Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

Terfynau amser

10.—(1) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.

(2) Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (1) yn gymwys —

(a) os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 14 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd;

(b) os yw'r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 21 neu reoliad 22 neu fenthyciad at gyfraniad at ffioedd o dan reoliad 20 neu fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 38 neu fenthyciad at ffioedd coleg o dan reoliad 52 ac Atodlen 4 neu os yw'n ceisio am swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 21(6) neu 21(8), swm ychwanegol o fenthyciad at gyfraniad at ffioedd o dan reoliad 20(5), neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 22(3), neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 50(3) neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd coleg o dan reoliad 52 ac Atodlen 4 paragraff 9(2) ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi;

(c) os yw'r ceisydd yn gwneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gyfraniad at ffioedd o dan reoliad 20(4) neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 50(1), ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r cais yn cyfeirio ati neu o fewn cyfnod o un mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y caiff y ceisydd hysbysiad ynglŷn â'r uchafswm wedi'i gynyddu, p'un bynnag yw'r olaf;

(ch) os yw'r ceisydd yn gwneud cais am grant o dan reoliad 24, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;

(d) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddo.

Gwybodaeth

11.—(1) Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.

RHAN 4 GRANTIAU A BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

PENNOD 1 DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Cymorth at ffioedd yn gyffredinol

12.—(1) Ni chaiff cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.

(2) Er mwyn derbyn benthyciad o dan y Rheoliadau hyn rhaid i'r myfyriwr ymrwymo i gontract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol ar delerau i'w penderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3) At ddibenion cyfrifo swm y cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon, nid yw sefydliad sy'n darparu cyrsiau a ddynodir gan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Dawnsio a Drama) 1999(39) i'w ystyried yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am ddim rheswm ond am ei fod yn derbyn cyllid cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992(40).

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

13.  Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 14 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —

(a) caiff myfyriwr fod â hawl i gael grantiau a benthyciadau o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b) nid yw'r grantiau a'r benthyciadau hyn ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

Digwyddiadau

14.  Y digwyddiadau yw —

(a) bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b) bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c) bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(ch) bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(d) bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(dd) bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(e) bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir.

PENNOD 2 GRANTIAU AT FFIOEDD

Grantiau at ffioedd: Amodau'r hawl ar gyfer myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

15.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd(41) am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2) Pennir swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 16 neu 17.

(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn perthynas â blwyddyn academaidd —

(a) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

(b) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

(c) os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS(42) ac —

(i) bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a

(ii) bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(ch) os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-radd hyblyg.

Swm y grant at ffioedd mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ac mewn sefydliad preifat ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus: myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

16.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant at ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw'r swm lleiaf o'r isod—

(a) £1,225; a

(b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (7), swm y grant at ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn yr achosion ym mharagraff (3) yw'r lleiaf o'r canlynol—

(a) £610, a

(b) y swm sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(3) Y canlynol yw'r achosion—

(a) blwyddyn derfynol y cwrs os yw fel rheol yn ofynnol i'r flwyddyn honno gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;

(b) mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd —

(i) pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos; neu

(ii) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;

(c) mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs sy'n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos;

(ch) mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad dros y môr, blwyddyn academaidd—

(i) pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu

(d) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir gan Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis(43) a ddechreuodd cyn 1 Medi 2001.

(4) Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,195.

(5) Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £4,445.

(6) Caniateir didynnu swm o'r grant at ffioedd y penderfynir arno o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 54.

(7) Swm sylfaenol y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad cyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £1,150 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—

(a) os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;

(b) os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

(c) os nad yw unrhyw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys.

(8) Swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad cyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £610 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—

(a) os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;

(b) os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

(c) os bod un neu fwy o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys.

(9) Pan gyfrifir cyfraniad sy'n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o swm y grant at ffioedd a benderfynir o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 54.

Swm y grant at ffioedd ar gyfer cwrs mewn sefydliad preifat: myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

17.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw'r lleiaf o'r canlynol—

(a) £1,150; a

(b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(2) Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw £2,905.

Grantiau newydd at ffioedd

18.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am grant newydd at ffioedd o swm nad yw'n fwy na'r uchafswm sydd ar gael (yn unol â pharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig cymhwysol, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2) Nid oes grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd —

(a) os yw'r myfyriwr yn gymwys mewn perthynas â'r flwyddyn honno i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

(b) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

(c) os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS ac —

(i) bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a

(ii) bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(ch) os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-radd hyblyg.

(3) Uchafswm y grant sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i geisydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig cymhwysol os nad yw'r un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys yw £1,845 neu y gwahaniaeth rhwng £1,225 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.

(4) Uchafswm y grant sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o'r fath o dan y rheoliad hwn i geisydd os yw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys yw £925 neu y gwahaniaeth rhwng £610 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, p'un bynnag yw'r lleiaf.

(5) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd” (“student who qualifies for a new fee grant”), mewn perthynas â chwrs dynodedig cymhwysol, yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd-sy'n berson y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs dynodedig ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(6) Yn y Rheoliadau hyn, nid yw myfyriwr a grybwyllir ym mharagraff (5) yn gymwys ar gyfer grant newydd at ffioedd os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod oddi tano yw paragraff 9.

(7) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr y mae ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd, yw cwrs dynodedig sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad a ariannir yn gyhoeddus yng Nghymru.

PENNOD 3 BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau at ffioedd

19.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig o dan y Rhan hon ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan y paragraff canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7.

(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd —

(a) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

(b) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

(c) os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS ac —

(i) bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a

(ii) bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(ch) os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-radd hyblyg.

Benthyciadau at gyfraniad at ffioedd (i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn)

20.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig—

(a) os yw'n gymwys i gael grant at ffioedd mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno neu os byddai wedi bod yn gymwys pe byddai wedi gwneud cais am y grant (hyd yn oed pe byddai'r swm wedi bod yn ddim); ac

(b) os darperir y cwrs dynodedig gan neu ar ran sefydliad a oedd yn cael ei ariannu'n gyhoeddus ar 1 Awst 2005.

(2) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais am grant at ffioedd ac am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd, swm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na'r swm a ddidynnwyd o'i grant at ffioedd yn unol â rheoliad 54.

(3) Os benthyciad at gyfraniad at ffioedd yw'r unig gymorth at ffioedd y mae myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, swm y benthyciad hwnnw mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano, a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na £1,225 neu, os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys, £610.

(4) Caiff myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gyfraniad at ffioedd —

(i) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd (gan gynnwys rhoi swm pan na roddwyd dim ynghynt) sydd wedi'i hysbysu i'r myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr neu fel arall; a

(ii) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn —

(aa) methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd y mae ganddo hawl i'w gael; neu

(bb) rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.

(5) Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (4), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.

(6) Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wedi gwneud cais am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

Benthyciadau at ffioedd: Myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes ganddynt hawl i gael grant newydd at ffioedd

21.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2) Rhaid i swm benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol —

(a) £3,070 neu, os oes un o'r amgylchiadau ym mharagraff (3) yn gymwys, £1,535; a

(b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(3) Yn yr achosion a bennir yn rheoliad 16(3), uchafswm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,535.

(4) Os caiff statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys ei drosglwyddo o un cwrs dynodedig i un arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo iddo.

(5) Yr amgylchiadau yw —

(a) bod y ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr wedi trosglwyddo ohono; a

(b) nad yw blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn dechrau ar ddyddiad diweddarach na blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr wedi trosglwyddo oddi arno.

(6) Os yw paragraff (5)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr hwnnw'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm sy'n hafal i'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno, llai swm unrhyw fenthyciad at ffioedd y mae'r myfyriwr hwnnw wedi'i godi mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae wedi trosglwyddo oddi arni.

(7) Os yw paragraff 5(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol —

(a) £3,070 neu, os oes un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys, £1,535; a

(b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(8) Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

(9) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr os oes ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd a bod y cwrs yn gwrs dynodedig cymhwysol.

Benthyciadau at ffioedd: Myfyrwyr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd

22.—(1) Caiff myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am fenthyciad mewn perthynas â mynychu'r cwrs dynodedig cymhwysol.

(2) Uchafswm y benthyciad sydd ar gael o dan y rheoliad hwn yw'r lleiaf o'r canlynol —

(a) £1,225 neu, pan fydd unrhyw un neu rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys, £610; a

(b) gweddill y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr a swm sy'n hafal i'r grant newydd at ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn honno neu mewn cysylltiad â hi fel arall wedi i ddidynnu oddi wrtho.

(3) Os yw'r myfyriwr wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm hwnnw.

(4) Os yw statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys yn cael ei drosglwyddo o gwrs dynodedig cymhwysol i gwrs dynodedig cymhwysol arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

(5) Yr amgylchiadau yw —

(a) bod y ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys wedi trosglwyddo ohono; a

(b) nad yw blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo yn dechrau ar ddyddiad diweddarach na blwyddyn academaidd y cwrs y mae wedi trosglwyddo ohono.

(6) Pan fo paragraff (5)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys ei fenthyg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm hafal i'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno llai swm unrhyw fenthyciad at ffioedd y mae wedi'i gymryd ac/neu unrhyw grant newydd at ffioedd y mae wedi'i dderbyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae wedi trosglwyddo ohoni.

(7) Pan fo paragraff (5)(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys ei fenthyg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

(a) £3,070 neu, pan fo un o'r amgylchiadau yn rheoliad 16(3) yn gymwys, £1,535; a

(b) gweddill y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr llai swm hafal i'r grant newydd at ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi fel arall.

(39)

O.S. 1999/2263, a ddiwigiwyd gan O.S. 2001/2893. Back [39]

(40)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27. Back [40]

(41)

Diffinnir ffioedd (“fees”) yn adran 28(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30). Back [41]

(42)

Mae ERASMUS yn rhan o raglen weithredu SOCRATES y Gymuned Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t1. Back [42]

(43)

Enw blaenorol Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis oedd y Sefydliad Prydeinig ym Mharis. Back [43]