Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 2 CYMHWYSTRA

Myfyrwyr cymwys

4.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2) Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig —

(a) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, wrth asesu cais y person am gymorth, yn penderfynu ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b) os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).

(3) Ni fydd person yn fyfyriwr cymwys —

(a) os oes hen ddyfarniad wedi'i roi i'r person hwnnw mewn perthynas â phresenoldeb y person ar y cwrs;

(b) os yw'r person yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs o dan Ddeddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990 neu Orchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990;

(c) os rhoddwyd neu os talwyd i'r person mewn perthynas â'i bresenoldeb ar y cwrs —

(i) bwrsari gofal iechyd nad yw ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person; neu

(ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992(36);

(ch) os yw'r person wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(d) os yw'r person wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu

(dd) os yw'r person, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(4) At ddibenion paragraffau (3)(ch) a (3)(d), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a roddwyd o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(5) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud —

(a) cyn 25 Medi 1991, a

(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur

y mae paragraff 3(d) yn gymwys.

(6) Rhaid i fyfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn perthynas ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000 beidio, ar unrhyw un adeg, â bod â hawl i gael cymorth —

(a) at fwy nag un cwrs dynodedig;

(b) at gwrs dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

(c) at gwrs dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig.

(7) Er gwaethaf paragraff (3), ac yn ddarostyngedig i baragraffau (12) a (13), mae person yn fyfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw'n bodloni'r gofynion ym mharagraff (8), (9) neu (10).

(8) Yr amodau yn y paragraff hwn yw —

(a) bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol; ac

(c) nad yw statws y person wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

(9) Yr amodau yn y paragraff hwn yw —

(a) bod y cwrs presennol yn gwrs penben y mae'r person yn ei ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

(b) bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;

(c) mai dim ond ar y sail bod y myfyriwr wedi cwblhau'r cwrs y daeth y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r cwrs yn is-baragraff (b) i ben; ac

(ch) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b).

(10) Yr amodau yn y paragraff hwn yw —

(a) bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu o'r blaen fod y person —

(i) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig; neu

(ii) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig heblaw'r cwrs presennol,

(b) bod statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (a); ac

(ch) nad yw statws y person fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.

(11) Mae person y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon ei fod yn dod o fewn paragraff 4 neu 5 o Ran 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2006 yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ac nad yw wedi'i hepgor gan baragraff (3) uchod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig (o fewn ystyr y Rheoliadau hyn), er nad yw'n dod o fewn y ddarpariaeth gyfatebol a geir ym mharagraff 4 neu 5 o Ran 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

(12) Os bydd—

(a) y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i ffoadur—

(i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef neu mewn cysylltiad â chais mewn perthynas â chwrs rhan-amser dynodedig y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol;

(ii) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)(37),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13) Os bydd—

(a) y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson â hawl i ddod i mewn neu i aros neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i'r cyfryw berson—

(i) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef neu mewn cysylltiad â chais mewn perthynas â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol; neu

(ii) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b) y cyfnod y caniateir i'r person â hawl i ddod i mewn neu i aros aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ac, ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd honno, na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(14) Nid yw paragraffau (12) a (13) yn gymwys pan fydd y myfyriwr wedi cychwyn ar y cwrs y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn fyfyriwr cymwys neu'n fyfyriwr cymhwysol, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

Cyrsiau dynodedig

5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 4 os yw —

(a) wedi'i grybwyll yn Atodlen 2;

(b) yn un o'r canlynol —

(i) cwrs amser-llawn;

(ii) cwrs rhyngosod; neu

(iii) cwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(c) yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac

(ch) yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

(2) Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

(3) At ddibenion paragraff (1) —

(a) mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

(b) bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

(c) ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(38).

(4) Bernir bod cwrs y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol hyd yn oed —

(a) os yw'r cwrs yn arwain at ddyfarnu gradd neu gymhwyster arall cyn y radd neu'r cymhwyster cyfatebol; a

(b) os yw rhan o'r cwrs yn ddewisol.

(5) Mae paragraff (4) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy'n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirluniau, dylunydd tirluniau, rheolwr tirluniau, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

(6) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 4(1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

6.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd oni fydd y statws yn dod i ben yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 4.

(2) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”) yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs dynodedig ynddi.

(3) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i OD+R+1 y mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac nad yw wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys.

(4) Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (6), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (OD+R+1)−PC y mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac sydd wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys, ac eithrio—

(a) nad oes unrhyw ddidyniad sy'n cyfateb i PC yn gymwys yn achos myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon; a

(b) bod un flwyddyn ychwanegol yn cael ei hadio yn achos myfyriwr cymwys na chwblhaodd yn llwyddiannus y cwrs blaenorol diweddaraf oherwydd rhesymau personol anorchfygol.

(5) Mae paragraff (6) yn gymwys —

(a) i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs penben o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2;

(b) i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd —

(i) sydd wedi cwblhau cwrs amser-llawn a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2;

(ii) sydd ar gwrs gradd gyntaf amser-llawn (heblaw gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a

(iii) nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol;

(c) i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd —

(i) sydd wedi cwblhau gradd sylfaenol amser-llawn;

(ii) sydd ar gwrs gradd anrhydedd amser-llawn na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; a

(iii) nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; ac

(ch) i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n fyfyriwr ar gwrs penben o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2.

(6) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd neu grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (D + X) − Pr C y mae myfyriwr cymwys y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gymwys.

(7) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n parhau yn gymwys.

(8) Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (9), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo yn gymwys.

(9) Dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs pellach am y nifer o flynyddoedd sy'n hafal i (A+R+1)−Y−Z y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo ac sy'n dechrau blwyddyn academaidd lawn gyntaf cwrs pellach y mae'n trosglwyddo iddo o dan reoliad 8 ar ôl 1 Medi 2007 yn gymwys.

(10) Mewn unrhyw achos lle mae nifer y blynyddoedd academaidd y mae grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw ar gael ar eu cyfer yn unol â'r rheoliad hwn yn llai na nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol, blynyddoedd diweddaraf y cwrs presennol yw'r blynyddoedd academaidd y mae'r myfyriwr yn gymwys ynddynt i gael grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw.

(11) Yn y rheoliad hwn —

(a) A yw nifer y blynyddoedd academaidd o 31 Awst 2006 sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol neu, yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, y cwrs blaenorol;

(b) D yw 3 neu nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio cyfnod arferol y cwrs, p'un bynnag yw'r mwyaf;

(c) OD yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol;

(ch) PC yw nifer y blynyddoedd y bu'r myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs blaenorol;

(d) X yw 1 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn llai na thair blynedd a 2 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn dair blynedd;

(dd) R yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n cael eu hailadrodd ar y cwrs presennol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a'r rheini'n gyfnodau o ailadrodd y blynyddoedd academaidd blaenorol nad oedd y myfyriwr cymwys yn gallu eu cwblhau'n llwyddiannus oherwydd rhesymau personol anorchfygol;

(e) PrC yw'r nifer o flynyddoedd academaidd a dreuliodd y myfyriwr ar y cwrs rhagarweiniol ac eithrio unrhyw flynyddoedd yn ailadrodd astudiaethau am resymau personol anorchfygol;

(f) Y yw nifer blynyddoedd y cwrs presennol, neu'r cwrs blaenorol yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, ac y penderfynwyd mewn perthynas â'r cwrs hwnnw cyn 1 Medi 2006 o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd cymorth ar gael;

(ff) Z yw nifer y blynyddoedd academaidd a dreuliwyd ar gwrs blaenorol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

(g) ystyr “myfyriwr sy'n parhau” (“continuing student”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn a ddechreuodd y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006;

(ng) ystyr “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” (“teacher training student”) yw myfyriwr sy'n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr yn athro neu athrawes gymwysedig.

(h) ystyr “myfyriwr sy'n trosglwyddo” (“transferring student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau'r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2007 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf oddi ar gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr hwnnw arno cyn 1 Medi 2007.

(12) Wrth gyfrifo nifer y blynyddoedd at ddibenion y rheoliad hwn, trinnir presenoldeb am ran o flwyddyn academaidd fel blwyddyn academaidd gyfan.

(13) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y bydd yn penderfynu arno.

(14) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymhwystra i gael grantiau a benthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw heblaw yn unol â pharagraffau (3) i (11).

(15) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr cymwys —

(a) yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosi neu lle na fydd yn trosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 70(1); neu

(b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(16) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(17) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —

(a) terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth; neu

(c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordal y caniateir ei adennill o dan reoliad 60.

(18) Yn y rheoliad hwn cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd amser-llawn (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon) neu gwrs gradd sylfaenol yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd anrhydedd amser-llawn, yn ôl y digwydd, yw “cwrs rhagarweiniol” (“preliminary course”).

Astudio blaenorol

7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol neu gwrs rhan-amser dynodedig hawl i gael grant na benthyciad at ffioedd.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol neu gwrs rhan-amser dynodedig.

(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod arferol y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod arferol cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr cymwys yn athro neu athrawes gymwysedig.

(4) Os bernir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(4) a 5(5) a'i fod yn arwain at ddyfarnu gradd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig i fyfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu'r cymwysterau cyfatebol, nid yw'r myfyriwr cymwys yn cael ei rwystro rhag bod â hawl i gael cymorth o dan baragraff (1) neu (2) mewn perthynas ag unrhyw ran o'r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith iddo gael y radd anrhydedd honno.

(5) Nid yw paragraff (2) yn gymwys —

(a) os yw'r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol;

(b) os yw'r myfyriwr cymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm neu lwfans gofal iechyd yr Alban y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs presennol; neu

(c) os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.

(6) At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6, mae cwrs blaenorol yn unrhyw gwrs y bu'r myfyriwr yn bresennol arno cyn y cwrs presennol ac sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff (7).

(7) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) yw bod y cwrs yn gwrs addysg uwch a ddarparwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig ac —

(a) bod y sefydliad hwnnw'n cael ei ariannu'n gyhoeddus pan ddarparwyd y cwrs; neu

(b) bod unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarniad o unrhyw ddisgrifiad a oedd ar gael mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs i dalu ffioedd wedi'i dalu o'r cronfeydd cyhoeddus neu o gronfeydd a oedd i'w priodoli i'r cronfeydd cyhoeddus gan unrhyw berson neu gorff, cyhoeddus neu breifat.

(8) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 6, ystyr “cyfnod arferol y cwrs” (“ordinary duration of the course”) yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau'r cwrs dynodedig ac ystyr “myfyriwr safonol” (“standard student”) yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un —

(a) sydd wedi dechrau'r cwrs dynodedig ar yr un dyddiad â'r myfyriwr cymwys o dan sylw;

(b) nad yw wedi'i esgusodi o unrhyw ran o'r cwrs am ei fod wedi bod yn bresennol ar gwrs arall;

(c) na fydd yn ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs; ac

(ch) nad yw'n absennol o'r cwrs heblaw yn ystod gwyliau.

(9) Yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig, mae paragraffau (7) ac (8) o reoliad 23 yn estyn i'r grantiau at gostau byw y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny ddarpariaethau'r rheoliad hwn sy'n ymwneud â'r hawl i gael benthyciadau at ffioedd a grantiau at ffioedd.

Trosglwyddo statws

8.—(1) Os yw myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i'r cwrs hwnnw —

(a) os caiff gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;

(b) os yw wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

(2) Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a) bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau bod yn bresennol ar gwrs arall yn y sefydliad;

(b) bod y myfyriwr cymwys yn dechrau bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall gyda chydsyniad awdurdod academaidd y sefydliad hwnnw;

(c) ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;

(ch) ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd (heblaw gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu

(d) ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo iddo, y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo'r hawl i'w gael, mewn perthynas â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo oddi arno, am weddill y flwyddyn academaidd y bydd yn trosglwyddo ynddi.

(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.

(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu'r cymorth a roddir mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo ohono ond yn gwneud hynny cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo, am grant neu fenthyciad arall o'r math y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ohono oni ddarperir fel arall.

(36)

O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401. Back [36]

(38)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27. Back [38]