1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2007 ac maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “a ariennir yn gyhoeddus” (“publicly-funded”) yw yn cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau ailadroddus o'r cronfeydd cyhoeddus, ac mae ymadroddion perthynol i'w dehongli yn unol â hyn;
mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr ystyr a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002(2);
ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;
ystyr “benthyciad” (“loan”), ac eithrio lle nodir fel arall, yw benthyciad yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, gan gynnwys y llog sy'n crynhoi ar y benthyciad ac unrhyw gosbau neu daliadau sy'n codi mewn cysylltiad ag ef;
ystyr “benthyciad at ffioedd coleg” (“college fee loan”) yw benthyciad yn unol â rheoliadau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 22 o'r Ddeddf mewn perthynas â'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt;
ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad o dan Ran 6 o'r Rheoliadau hyn;
ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person y mae benthyciad wedi'i roi iddo;
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw'r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;
ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(3) neu Erthygl 44 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(4);
ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian sy'n cael ei ddarparu gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys cronfeydd sy'n cael eu darparu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “cwrs addysg uwch” (“higher education course”) yw cwrs y cyfeirir ato yn Atodlen 2 neu gwrs i ôl-raddedigion neu gwrs arall y mae ei safon yn uwch na safon cwrs gradd gyntaf;
mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf oni nodir yn wahanol ac nid yw'n cynnwys cynllun hyfforddi athrawon wedi'i seilio ar gyflogaeth;
ystyr “cwrs carlam” (“accelerated course”) yw cwrs y mae'r sefydliad sy'n ei ddarparu yn ei gwneud yn ofynnol fel rheol i'r personau sy'n ei gymryd fod yn bresennol (boed ar fangre'r sefydliad ynteu mewn man arall) am gyfnod o 40 wythnos o leiaf yn y flwyddyn derfynol, a hwnnw'n gwrs sy'n para am ddwy flwyddyn academaidd;
ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs dynodedig amser-llawn a ddarperir gan Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt ac —
sydd wedi'i restru yn rheoliad 5(5);
sy'n arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol; neu
y mae gan fyfyriwr hawl, mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs, i gael taliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr neu fwrsari gofal iechyd yn yr Alban y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr;
ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”) yw cwrs a ddynodwyd gan rheoliad 5 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 5;
ystyr “cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion” (“flexible postgraduate ITT course”) yw cwrs ôl-radd o hyfforddiant cychwynnol athrawon, y mae ei hyd a'i batrwm yn cael eu pennu drwy gyfeirio at brofiad ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr cymwys ac sydd wedi'i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion(5);
ystyr “cwrs ôl-radd dynodedig” (“designated postgraduate course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi o dan reoliad 75 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 75;
ystyr “cwrs ôl-radd presennol” (“present postgraduate course”) yw'r cwrs ôl-radd dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef;
ystyr “cwrs penben” (“end-on course”) yw —
cwrs gradd gyntaf amser-llawn (heblaw cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs amser-llawn sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac y mae'r myfyriwr wedi cael dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005 neu 2006 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o'r rhain ar ei gyfer;
cwrs gradd anrhydedd amser-llawn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaenol amser-llawn ac y mae'r myfyriwr wedi cael dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005 neu 2006 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o'r rhain ar ei gyfer;
cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2006 nad yw'n para am fwy na dwy flynedd (gan fynegi hyd cwrs rhan-amser mewn modd sy'n gyfartal i hyd y cwrs amser-llawn sy'n cyfateb iddo) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd gyntaf ac y mae'r myfyriwr wedi cael dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005 neu 2006 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o'r rhain ar ei gyfer;
ystyr “cwrs presennol” (“present course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef;
ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig” (“designated part-time course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi gan reoliad 63 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 63;
ystyr “cwrs rhan-amser presennol” (“present part-time course”) yw'r cwrs rhan-amser dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef;
mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004(6) ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud ac i fyw'n ddilyffethair yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;
ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw —
cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy'n gysylltiedig ag astudiaethau amser-llawn mewn sefydliad ond mewn man y tu allan i'r sefydliad hwnnw;
cyfnodau pryd y caiff myfyriwr ei gyflogi ac y bydd yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae'r myfyriwr yn ei hastudio at ei gwrs (ar yr amod bod y cyfnod o breswylio yn y wlad honno yn un o ofynion ei gwrs a bod astudio un neu fwy o ieithoedd modern yn cyfrif am nid llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);
ystyr “cyfraniad” (“contribution”) yw cyfraniad myfyriwr cymwys wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 53 ac Atodlen 5;
ystyr “Cyngor Ymchwil” (“Research Council”) yw unrhyw un o'r cynghorau ymchwil canlynol —
Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau,
Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol,
Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol,
Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol,
Y Cyngor Ymchwil Feddygol,
Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol,
Cyngor Ymchwil Ffiseg Ronynnol a Seryddiaeth;
ystyr “cymorth” (“support”) yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad sy'n cael eu rhoi gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
ystyr “cyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd” (“former Metropolitan Police District”) yw —
Llundain Fwyaf, heb gynnwys dinas Llundain, y Deml Fewnol a'r Deml Ganol;
yn sir Essex, yn nosbarth Epping Forest —
ardal cyn ddosbarth trefol Chigwell,
plwyf Waltham Abbey;
yn sir Hertfordshire —
ym mwrdeistref Broxbourne, ardal cyn ddosbarth trefol Cheshunt,
dosbarth Hertsmere,
yn nosbarth Welwyn Hatfield, plwyf Northaw; ac
yn sir Surrey —
ym mwrdeistref Elmbridge, ardal cyn ddosbarth trefol Esher,
bwrdeistrefi Epsom ac Ewell a Spelthorne,
yn nosbarth Reigate a Banstead, ardal cyn ddosbarth trefol Banstead;
ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion rheoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(7) sy'n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro neu athrawes gymwysedig tra bo'n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno —
sy'n dechrau ar 1 Ionawr ac sy'n diweddu ar 31 Mawrth;
sy'n dechrau ar 1 Ebrill ac sy'n diweddu ar 30 Mehefin;
sy'n dechrau ar 1 Gorffennaf ac sy'n diweddu ar 31 Awst; neu
sy'n dechrau ar 1 Medi ac sy'n diweddu ar 31 Rhagfyr;
ystyr “Deddf 1962” (“the 1962 Act”) yw Deddf Addysg 1962(8);
ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd y Ddeddf neu Ddeddf 1962, neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs sy'n cael ei dalu o'r cronfeydd cyhoeddus;
ystyr “dyfarniad trosiannol” (“transitional award”) yw dyfarniad a wnaed o dan Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 1998(9) heblaw hen ddyfarniad;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(10), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(11), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed o dan y Deddfau hynny neu'r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(12) a rheoliadau a wnaed o dan y Gorchymyn hwnnw neu'r Ddeddf a rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno;
mae i “ffioedd” yr ystyr a roddir i “fees” yn adran 41(1) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac eithrio mewn cyfeiriadau at ffioedd coleg;
ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(13) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(14) ac mae unrhyw gyfeiriad at blentyn i ffoadur yn cynnwys cyfeiriad at lysblentyn;
ystyr “grant at gostau byw” (“grant for living costs”) (heb ddim mwy) yw grant o dan unrhyw rai o ddarpariaethau Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn;
ystyr “grant newydd at ffioedd” (“new fee grant”) yw grant o dan reoliad 18;
ystyr “y Gymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw tiriogaeth Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o bryd i'w gilydd;
ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n deillio o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
mae “hen ddyfarniad” (“old award”) yn ddyfarniad o fewn ystyr “award” yn Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003(15);
mae i “incwm yr aelwyd”, “incwm aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir iddynt yn Atodlen 5;
ystyr “lwfans gofal iechyd yr Alban” (“Scottish healthcare allowance”) yw unrhyw lwfans o dan adrannau 73(f) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(16) a roddwyd mewn perthynas â pherson sy'n bresennol ar gwrs sy'n arwain at gymhwyster mewn proffesiwn gofal iechyd heblaw fel doctor meddygol neu ddeintydd;
ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd —
wedi'i ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi'i gysylltu yn rhesymegol â hwy; a
yn honni ei fod wedi'i ymgorffori neu wedi'i gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i sefydlu bod y cyfathrebiad neu'r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu'r data yn gyflawn, neu'r ddau;
mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;
ystyr “myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd” (“new system eligible student”) yw myfyriwr cymwys—
nad yw'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen
drefn; a
(b) sydd naill ai—
(i) yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac yn parhau i fynychu'r cwrs ar ôl 31 Awst 2007; neu
(ii) yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2007.
ystyr “myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn” (“old system eligible student”) yw myfyriwr cymwys —
a ddechreuodd ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006 ac sy'n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2007,
sy'n fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd mewn perthynas â'r cwrs presennol,
a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 os yw'r cwrs hwnnw yn gwrs penben (ac eithrio cwrs o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (c) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn y rheoliad hwn) sy'n dilyn ymlaen ar ôl cwrs
y dechreuodd arno cyn 1 Medi 2006; neu
y dechreuodd arno cyn 1 Medi 2007 ac yr oedd, mewn perthynas â'r cwrs, yn fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd, neu
a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, oddi ar gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno
cyn 1 Medi 2006; neu,
cyn 1 Medi 2007 ac yr oedd, mewn perthynas â'r cwrs, yn fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd;
ystyr “myfyriwr cymhwysol” (“qualifying student”) yw person sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff 2 o Atodlen 4;
ystyr “myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 1 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi yn 6 wythnos o leiaf ond yn llai na 10 wythnos;
ystyr “myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 2 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi yn 10 wythnos neu fwy;
y mae i “myfyriwr ôl-raddedig cymwys” (“eligible postgraduate student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 74;
mae i “myfyriwr rhan-amser cymwys” (“eligible part-time student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 62;
ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person
a hysbyswyd gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei adnabod fel ffoadur;
y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny (ac na ddirymwyd y cyfryw ganiatâd); ac
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan roddwyd iddo ganiatâd i ddod i mewn ac i aros;
ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1998(17);
ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1999(18);
ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000(19);
ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2001(20);
ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2002(21);
ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002(22) fel y'u diwygiwyd dim ond gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2003(23) a Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Chymorth i Fyfyrwyr) (Y Swistir) 2003(24);
ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau 2003 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2004(25), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 2) 2004(26), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 3) 2004(27), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 4) 2004(28)) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2005(29)) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Rhif 2) 2005(30));
ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005(31)) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) 2005, Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Rhif 2) 2005, Rheoliadau Mabwysiadu a Phlant (Diwygiadau Amrywiol) 2005(32)) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) 2006(33));
ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006(34) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006(35);
ystyr “sefydliad preifat” (“private institution”) yw sefydliad nad yw'n cael ei ariannu'n gyhoeddus;
ystyr “un o wladolion y GE” yw un o wladolion un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd;
ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw; ac
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir.
(2) Yn y Rheoliadau hyn —
(a) mae cwrs yn “gwrs rhyngosod”(“sandwich course”) —
(i) os nad yw'n gwrs y cyfeirir ato ym mharagraff 4 o Atodlen 2;
(ii) os yw'n cynnwys cyfnodau o astudio amser-llawn mewn sefydliad am yn ail â chyfnodau o brofiad gwaith; a
(iii) gan gymryd y cwrs yn ei gyfanrwydd, os yw'r myfyriwr yn bresennol ar y cyfnodau o astudio amser-llawn am nid llai na 18 wythnos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd;
(b) er mwyn cyfrifo presenoldeb y myfyriwr, trinnir y cwrs fel pe bai'n dechrau gyda'r cyfnod cyntaf o astudio amser-llawn ac yn diweddu gyda'r cyfnod olaf o'r fath; ac
(c) os ceir cyfnodau o astudio amser-llawn am yn ail â phrofiad gwaith yn ystod unrhyw wythnos ar y cwrs, mae'r dyddiau o astudio amser-llawn yn cael eu hadio at ei gilydd ac at unrhyw wythnosau o astudio amser-llawn wrth bennu nifer yr wythnosau o astudio amser-llawn ym mhob blwyddyn.
(3) Ac eithrio yn achos rheoliad 31 (grant at deithio), mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “bresenoldeb” myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn cynnwys ymgymryd â chwrs drwy ddysgu o hirbell os nad yw'r myfyriwr cymwys yn gallu bod yn bresennol yn gorfforol am ei fod yn anabl.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd” (“gap-year student”) yw myfyriwr cymwys y mae paragraffau (5) neu (6) yn gymwys iddo ac sy'n dechrau ar gwrs dynodedig (“y cwrs presennol”) ar neu ar ôl 1 Medi 2006.
(5) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys —
(a) a oedd wedi cael cynnig lle, ar neu cyn 1 Awst 2005, p'un ai yn amodol ar ennill cymwysterau penodedig ai peidio, ar y cwrs presennol neu gwrs tebyg, a
(b) sy'n dechrau ar flwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.
(6) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys —
(a) a oedd wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (p'un ai yn yr un sefydliad â'r cwrs presennol ai peidio) y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw yn dechrau cyn 1 Medi 2006,
(b) na allai dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd iddo gymhwyster penodedig neu safon benodedig;
(c) a apeliodd yn erbyn y penderfyniad i beidio dyfarnu'r cymhwyster neu'r safon iddo;
(ch) os caniatawyd yr apêl ar ôl y dyddiad diwethaf y gallai'r myfyriwr fod wedi derbyn y cynnig,
(d) os cafodd gynnig lle ar y cwrs presennol o ganlyniad i ganiatáu'r apêl honno, ac
(dd) os dechreuodd blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs perthnasol ar ôl 31 Awst 2006 ond cyn 1 Medi 2007.
(7) At ddibenion paragraff (5)(a) mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn debyg i'r cwrs presennol —
(a) os yw'n ymddangos i gorff llywodraethu'r sefydliad sy'n darparu'r cwrs presennol fod cynnwys y cwrs, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yr un fath â chynnwys y cwrs gwreiddiol, a
(b) ac eithrio pan nad yw'r cwrs gwreiddiol yn cael ei ddarparu mwyach, os yw'r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fyddai wedi darparu'r cwrs gwreiddiol.
(8) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y cwrs dynodedig a bennir” (“specified designated course”) yw'r cwrs presennol yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10).
(9) Os yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs presennol o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol oddi ar gwrs (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, y cwrs cychwynnol yw'r cwrs dynodedig a bennir.
(10) Os yw'r cwrs presennol yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef (“y cwrs blaenorol”). Os yw'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben mewn perthynas ag ef.
(11) Yn y Rheoliadau hyn, mae'r ymadrodd “myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd” (“student who qualifies for a new fee grant”) mewn perthynas â chwrs dynodedig ac unrhyw gyfeiriad at fyfyriwr nad oes ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd, i'w dehongli yn unol â rheoliad 18.
(12) Yn y Rheoliadau hyn, mae i'r ymadrodd “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd, yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 18.
(13) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o'r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—
(a) y cwrs presennol; neu
(b) a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn syth cyn ymgymryd â'r cwrs presennol,
i'w ystyried yn berson sy'n preswylio'n arferol yn y lle y mae wedi symud ohono.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), dirymir y Rheoliadau canlynol mewn perthynas â Chymru ar 1 Medi 2007 —
(a) Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006; a
(b) Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006.
(2) Mae Rheoliadau 2003 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.
(3) Mae Rheoliadau 2004 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.
(4) Mae Rheoliadau 2005 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.
(5) Mae Rheoliadau 2006 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.
(6) At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i'w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at —
(a) y Cynulliad Cenedlaethol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o'r Ddeddf; neu
(b) y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o'r Ddeddf
(7) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2007.
(8) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn —
(a) os yw person yn bresennol ar gwrs y rhoddwyd dyfarniad trosiannol iddo mewn perthynas ag ef; neu
(b) os na roddwyd dyfarniad o dan Ddeddf 1962 mewn perthynas â'r cwrs ond y byddai dyfarniad trosiannol wedi'i roi i'r person pe bai wedi gwneud cais am ddyfarniad o dan Ddeddf 1962 a phe na bai ei adnoddau wedi bod yn fwy na'i anghenion,
mae'r person yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4 a 5 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai'r dyfarniad (a roddwyd neu a fyddai wedi'i roi o dan Ddeddf 1962) wedi'i drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf cwrs, ond oni bai bod paragraff (9) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf benthyciad o dan Ran 6 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau'r hawl i gael cymorth o dan y Rhan honno.
(9) Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, os cafodd unrhyw berson fenthyciad neu os oedd yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998, mae'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 6 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu ag unrhyw gwrs dynodedig dilynol y bydd yn dechrau arno (gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn union ar ôl rhoi'r gorau i'r cwrs hwnnw, ond oni bai bod paragraff (8) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf grant o dan Rannau 4 a 5 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau perthnasol yr hawl i gael cymorth o dan Rannau 4 a 5.
1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, Rheoliadau Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn (Rhif 2) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480), erthygl 6 a Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) 2004 (O.S. 2004/957), yr Atodlen. Back [3]
O.S. 1972/1265 (G.I. 14). Back [4]
Sefydlwyd y corff hwn yn wreiddiol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994 (p. 30) fel yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon. Mae'n parhau mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ond ei enw fydd yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion. Back [5]
OJ L158, 30.04.2004, t.77-123. Back [6]
O.S. 2004/1729 (Cy.173). Back [7]
1962 p. 12; amnewidiwyd adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 gan y darpariaethau a nodwyd yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p. 20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p. 11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodwyd yng Ngorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3. Back [8]
O.S. 1998/1166, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1972. Back [9]
1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4. Back [10]
O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/1274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a'r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6. Back [11]
O.S. 1998/1760 (G.I. 14). Back [12]
Cmnd. 9171. Back [13]
Cmnd. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG). Back [14]
O.S. 2003/1994, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1038 ac O.S. 2004/1792. Back [15]
1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunan-lywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46). Back [16]
O.S. 1998/2003. Back [17]
O.S. 1999/496, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2266 ac O.S. 2000/1120. Back [18]
O.S. 2000/1121, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1490, O.S. 2000/2142 ac O.S. 2000/2912. Back [19]
O.S. 2001/951, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1730, O.S. 2001/2355 ac O.S. 2002/174. Back [20]
O.S. 2002/195, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1318, O.S. 2002/2088 ac O.S. 2002/3059. Back [21]
O.S. 2002/3200. Back [22]
O.S. 2003/1065. Back [23]
O.S. 2003/3280. Back [24]
O.S. 2004/161. Back [25]
O.S. 2004/1602. Back [26]
O.S. 2004/2041. Back [27]
O.S. 2004/2598. Back [28]
O.S. 2005/5. Back [29]
O.S. 2005/2084. Back [30]
O.S. 2005/52 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/1341 ac O.S. 2005/2084. Back [31]
O.S. 2005/3482. Back [32]
O.S. 2006/955. Back [33]
O.S. 2006/126 (Cy.19). Back [34]
O.S. 2006/1863 (Cy.196). Back [35]