Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007. Maent yn cydgrynhoi, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006.

Mae'r Rheoliadau yn dirymu Rheoliadau 2006 a'r Rheoliadau diwygio. Mae rheoliad 3 yn nodi rhychwant y dirymiad. Mae'r newidiadau sylweddol a wneir yn y Rheoliadau hyn (heblaw cyfraddau grantiau a benthyciadau) wedi'u nodi isod.

Mae'r gwahaniaeth rhwng myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn a myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd (a gyflwynwyd gan Reoliadau 2006) o ran cymorth ariannol i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau amser-llawn yn cael ei gadw (rheoliad 2(1)).

Mae myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn yn fyfyrwyr cymwys sy'n mynychu cyrsiau a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 a myfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd sy'n dechrau cyrsiau cyn 1 Medi 2007, a chategorïau penodol eraill o fyfyrwyr. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn yn ddarostyngedig i'r amodau penodedig —

  • · grant at ffioedd (Rhan 4);

  • · benthyciad at gyfraniad at ffioedd (rheoliad 20);

  • · grant at gostau byw myfyrwyr anabl (rheoliad 24);

  • · grant ar gyfer dibynyddion (rheoliadau 25 i 30);

  • · grant at deithio (rheoliad 31);

  • · grant addysg uwch (rheoliad 35); a

  • · benthyciadau at gostau byw (Rhan 6).

Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac nad yw'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd, yn ddarostyngedig i'r amodau penodedig —

  • · grantiau at ffioedd newydd (rheoliad 18);

  • · benthyciadau at ffioedd (rheoliadau 21 a 22);

  • · grant at gostau byw myfyrwyr anabl (rheoliad 24);

  • · grant ar gyfer dibynyddion (rheoliadau 25 i 30);

  • · grant at deithio (rheoliad 31);

  • · grant cynhaliaeth (rheoliad 36);

  • · grant cymorth arbennig (rheoliad 37); a

  • · benthyciadau at gostau byw (Rhan 6).

I fod â hawl i gael cymorth ariannol, rhaid i fyfyriwr fod yn “fyfyriwr cymwys”. Yn fras, mae person yn fyfyriwr cymwys os yw'n dod o fewn un o'r categorïau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 a'r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2 o'r Rheoliadau. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ble bynnag y bônt yn astudio ar gwrs dynodedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o ganlyniad i symud o unrhyw un o'r ardaloedd hyn er mwyn ymgymryd â'i gwrs yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd ohono (Atodlen 1, paragraff 1(3)). Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd unrhyw ofynion mewn mannau eraill yn y Rheoliadau; yn enwedig felly y gofynion penodol sy'n gymwys i bob math o gymorth ariannol. O ran y grantiau “newydd” at ffioedd ar gyfer myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd y cyfeirir atynt yn y rhestr uchod, gweler isod.

Dim ond ar gyfer cyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliadau 5, 63 ac Atodlen 2 y mae cymorth ar gael o dan y Rheoliadau.

Mae'r Rheolau ar astudio blaenorol heb eu newid (rheoliadau 6 a 7). Yn gyffredinol, mae myfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 yn gymwys i gael cymorth at ffioedd a grantiau cynhaliaeth am hyd arferol eu cwrs ac am un flwyddyn ychwanegol. Gostyngir nifer y blynyddoedd pryd y mae cymorth ar gael ar sail nifer y blynyddoedd y rhoddwyd cymorth at addysg uwch eisoes. Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs cyn 1 Medi 2006, bydd cymorth ar gael am hyd arferol eu cwrs. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu estyn cymhwystra os oes rhesymau personol anorchfygol dros wneud hynny mewn perthynas â'r myfyriwr o dan sylw. Mae benthyciadau cynhaliaeth ar gael drwy gydol y cyfnod cymhwystra, sy'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn gorffen y cwrs dynodedig. Bydd myfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n parhau llai na dwy flynedd yn esempt rhag y rheolau ar astudio blaenorol.

Ni fydd myfyrwyr sydd â chymhwyster gradd anrhydedd oddi wrth sefydliad addysg uwch yn y DU yn gymwys fel arfer i gael cymorth o dan y Rheoliadau, ond bydd myfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs ail radd sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirlun, dylunydd tirlun, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref yn dal yn gymwys i gael benthyciad cynhaliaeth.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 9), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 10) ac mae rheoliad 11 ac Atodlen 3 yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i geiswyr ei darparu.

Mae Pennod 1 o Ran 4 o'r Rheoliadau yn darparu i fyfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd fod â hawl i gael cymorth o dan Ran 4.

Mae Pennod 2 o Ran 4 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer grant at ffioedd. O 2007 ymlaen, mae grant (uwch) newydd at ffioedd yn cael ei gyflwyno ar gyfer myfyrwyr sy'n gymwys o dan y drefn newydd (rheoliad 18). Rhaid i fyfyrwyr, os gwladolion y DU ydynt, fod wedi bod yn preswylio fel arfer yng Nghymru ers tair blynedd cyn dechrau'r cwrs, ond nid yw hyn yn gymwys i wladolion Aelod-wladwriaethau'r GE. Dim ond i fyfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau mewn sefydliadau a ariannir yn gyhoeddus yng Nghymru ar neu ar ôl 1 Medi 2006 y mae'r grant yn gymwys. Mae grant llai at ffioedd yn dal ar gael i fyfyrwyr sy'n gymwys o dan yr hen drefn.

Mae Pennod 3 o Ran 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciadau at ffioedd. Mae rheoliad 22 yn cyflwyno benthyciad llai newydd at ffioedd i'r myfyrwyr hynny sydd â hawl i gael y grant (uwch) newydd at ffioedd. Uchafswm y benthyciad yw £1,225 neu £610 o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 16(3). Mae rheoliad 20 yn parhau i ddarparu ar gyfer benthyciadau at gyfraniad at ffioedd heb fod yn fwy na £1225 am bob blwyddyn academaidd i fyfyrwyr sy'n gymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â mynychu cyrsiau dynodedig. £610 yw'r terfyn o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 16(3). Mae rheoliad 21 yn parhau i ddarparu ar gyfer benthyciad at ffioedd hyd at fwyafswm o £3,070 am bob blwyddyn academaidd i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes ganddynt hawl i gael y grant newydd at ffioedd mewn perthynas â ffioedd sy'n daladwy ganddynt mewn perthynas â mynychu cyrsiau dynodedig. £1535 yw'r terfyn o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 16(3).

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer grantiau at gostau byw. Mae'r grant cynhaliaeth a'r grant cymorth arbennig o dan brawf modd a gyflwynwyd gan Reoliadau 2006 yn parhau. Nid yw'r grant arbennig i fyfyrwyr sy'n ymadael â gofal ar gael mwyach. Erbyn hyn, mae'r grant at ofal plant ar gael ar gyfer unrhyw fath o ofal plant sy'n cyfrif fel gofal plant at ddibenion credydau treth o dan reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Credydau Treth 2002 (gan gynnwys, yn benodol, gofal plant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon).

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciadau at gostau byw. Bydd myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth yn parhau i fod yn gymwys i gael benthyciad cynhaliaeth a thelir hyd at £1,225 o'r grant yn lle elfen o'r benthyciad myfyriwr. Parheir i ostwng yr hawl i gael benthyciad cynhaliaeth o £1 am bob £1 o'r grant sy'n daladwy hyd at uchafswm o £1,225. Un darn bach o resymoli yw y bydd myfyriwr sy'n mynychu sefydliad dros y môr yn perthyn i “gategori 3” at ddibenion cyfrifo hawliau.

Mae Rhan 8 ac Atodlen 4 yn parhau i wneud darpariaeth ar gyfer “benthyciadau at ffioedd coleg” (a gyflwynwyd gan Reoliadau diwygio 2006). Benthyciadau yw'r rhain mewn perthynas â'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt mewn perthynas â phresenoldeb myfyriwr cymhwysol ar gwrs cymhwysol.

Mae Rhan 9 ac Atodlen 5 yn parhau i wneud darpariaeth ar gyfer prawf modd i fyfyrwyr sy'n cymryd cyrsiau amser-llawn dynodedig. Cyfrifir cyfraniad gan y myfyriwr ar sail incwm yr aelwyd. Mae'r cyfraniad i'w gymhwyso at grantiau a benthyciadau penodedig hyd nes iddo gael ei ddiddymu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr hawl i'w cael.

Mae Rhan 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau a benthyciadau.

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyrsiau rhan-amser.

Mae Rhan 12 yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.