Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

(6) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5) —

(a) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr yn unol â rheoliad 66 mewn rhandaliadau o bryd i'w gilydd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys;

(b) rhaid i unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ynddi gael ei anwybyddu wrth bennu swm y cymorth y gall fod ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c) mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 7 neu 8 y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr o'r fath mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno; ac

(ch) os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr yn unol â rheoliad 66 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo o dan reoliad 24 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 66 ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.

Talu cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys

71.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan reoliad 66 ac o dan reoliad 65(1)(b) a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff, os nad oes modd gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, wneud asesiad dros dro o'r cymorth sy'n daladwy.

(2) Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr rhan-amser cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, beidio â gwneud unrhyw daliad grant at lyfrau, teithio a gwariant arall neu'r grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 cyn i'r datganiad y cyfeirir ato yn rheoliad 67(2) ddod i law onid oes eithriad yn gymwys.

(4) Mae eithriad yn gymwys—

(a) os yw grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 yn daladwy ac yn yr achos hwnnw caniateir talu'r grant arbennig hwnnw cyn i'r datganiad ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol;

(b) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y byddai'n briodol o achos amgylchiadau eithriadol iddo wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.

Talu grantiau at ffioedd

72.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant mewn perthynas â ffioedd y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael o dan reoliad 65(1)(a) i'r awdurdod academaidd priodol ar ôl i gais dilys am daliad ddod i law.

(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau y mae'n credu eu bod yn addas.

(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y mae'n credu eu bod yn briodol.

Gordaliadau

73.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordal grant mewn perthynas â ffioedd o dan reoliad 65(1)(a) oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl i'w gael o dan y Rhan hon.

(3) Caniateir i unrhyw ordal grant o dan y Rhan hon gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau —

(a) drwy dynnu'r gordal o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b) drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordal sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(4) Mae taliad o grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordal os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.

(5) Y “dyddiad perthnasol (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(6) Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (7) neu (8), ceir gordal o grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.

(7) Yr amgylchiadau yw—

(a) mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant myfyriwr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(b) mae cyfnod cymhwystra myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(c) nid yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(8) Yr amgylchiadau yw—

(a) mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol;

(b) gwneir taliad grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66 mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.

(9) Pan fo gordal o grant myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 66, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordal os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny.

RHAN 12 CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys

74.—(1) Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol iddo ei ysgwyddo mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.

(2) Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw'r person hwnnw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi'i hepgor gan baragraff (4).

(3) Yr amodau yw —

(a) bod y Cynulliad Cenedlaethol, wrth asesu cais person am gymorth, wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs ôl-radd dynodedig fod y person yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b) bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r person ysgwyddo gwariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.

(4) Nid yw person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys —

(a) os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs —

(i) bwrsari gofal iechyd;

(ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992(67);

(iii) unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil;

(iv) unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan ei sefydliad sy'n cynnwys unrhyw daliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a dynnwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu

(v) unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(68) sy'n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a dynnwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu

(b) os yw wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c) os yw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;

(ch) os yw'r person hwnnw, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(5) At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau myfyrwyr.

(6) Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud —

(a) cyn 25 Medi 1991; a

(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y bydd paragraff 4(c) yn gymwys.

(7) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.

(8) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â'i gwrs yn y Deyrnas Unedig.

(9) Er gwaethaf paragraffau (3)(a) a (4), mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3)(b) a pharagraff (10) neu (11)—

(10) Yr amodau yw —

(a) bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs ôl-radd dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf ac nad yw'r statws hwnnw wedi dod i ben neu wedi'i derfynu;

(b) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd dynodedig presennol; ac

(c) nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.

(11) Yr amodau yw —

(a) bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu o'r blaen fod y person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig heblaw'r cwrs ôl-radd dynodedig presennol;

(b) bod statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c) bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs yn is-baragraff (a); ac

(ch) nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.

(12) Os bydd—

(a) y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs ôl-radd presennol; a

(b) ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13) Os bydd—

(a) y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs ôl-radd presennol; a

(b) y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i'r person â hawl i ddod i mewn neu i aros aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben, ac na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(14) Nid yw paragraffau (12) a (13) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau'r cwrs y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn 1 Medi 2007.

(15) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol —

(a) mwy nag un cwrs ôl-radd dynodedig;

(b) cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dynodedig;

(c) cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.

(16) Os digwydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (17) yn ystod blwyddyn academaidd—

(a) caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b) nid oes grant o'r math sydd ar gael o dan y Rhan hon ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd yn dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(17) Y digwyddiadau yw—

(a) mae cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;

(b) cydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu mae'n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c) mae'r wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn un o'i dinasyddion yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd pan fo'r myfyriwr wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd trwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch) mae'r myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(d) daw'r myfyriwr yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Ran 2 o Atodlen 1; neu

(dd) daw'r myfyriwr yn blentyn i un o ddinasyddion y Swistir.

Cyrsiau ôl-radd dynodedig

75.  Mae cwrs ôl-radd yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 74 —

(a) os yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu'n uwch i gael mynediad iddo fel rheol;

(b) os yw'n gwrs —

(i) sy'n para am o leiaf un flwyddyn academaidd; a

(ii) yn achos cwrs rhan-amser, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau'r cwrs mewn nid mwy na dwywaith y cyfnod sydd fel arfer yn ofynnol ar gyfer cwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;

(c) os yw'n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac

(ch) nad yw'n gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon neu gwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

(2) At ddibenion paragraff (1) —

(a) mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

(b) bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

(c) ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(69).

(3) At ddibenion paragraff (1)(b)(ii)—

(a) ystyr “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs o dan sylw;

(b) ystyr y “ cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw—

(i) os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol pe rhoddid iddo 120 o bwyntiau credyd ym mhob blwyddyn academaidd;

(ii) os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;

(4) ystyr “myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un —

(i) sydd wedi dechrau'r cwrs amser-llawn cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs o dan sylw;

(ii) nad yw wedi'i esgusodi o unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn gyfatebol;

(iii) nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol; ac

(iv) nad yw wedi bod yn absennol o'r cwrs amser-llawn cyfatebol heblaw yn ystod gwyliau.

(5) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 74, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

76.—(1) Mae myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys hyd oni therfynir y statws yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliadau 4 a 6.

(2) Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw'r statws yw'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig.

(4) Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys —

(a) yn tynnu'n ôl o'i gwrs ôl-radd dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosglwyddo neu lle na fydd yn trosglwyddo ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 77; neu

(b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs ôl-radd dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(6) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau —

(a) terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant;

(c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordal y caniateir ei adennill o dan reoliad 82.

(7) Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar y dyddiad y daw'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y bydd yn penderfynu arnynt.

Trosglwyddo statws

77.—(1) Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo i gwrs ôl-radd arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i'r cwrs hwnnw —

(a) os caiff gais oddi wrth y myfyriwr ôl-raddedig cymwys am wneud hynny;

(b) os yw wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

(2) Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —

(a) bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn y sefydliad; neu

(b) bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall gyda chydsyniad awdurdod academaidd y sefydliad hwnnw.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau i gael, mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi.

(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.

(5) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno wneud cais am grant arall o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

Ceisiadau am gymorth

78.—(1) Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-radd dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

(2) Rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael grant a swm y grant sy'n daladwy, os oes grant yn daladwy o gwbl.

(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd

(a) pa un a oes gan y ceisydd hawl i gael grant neu beidio;

(b) os oes gan y ceisydd hawl, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl; ac

(c) sut y dyrennir y swm hwnnw rhwng y mathau o wariant cymwys.

Gwybodaeth

79.  Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.

Swm grantiau

80.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), grant o dan y Rhan hon yw unrhyw swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, i gynorthwyo gydag un neu fwy o fathau o wariant cymwys.

(2) Rhaid i'r grant beidio â bod yn fwy na £5,920 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.

(3) At ddibenion y Rhan hon, y canlynol yw'r “mathau o wariant cymwys” —

(a) gwariant ar gynorthwyydd nad yw'n gynorthwyydd meddygol;

(b) gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; a

(c) gwariant ychwanegol a dynnir—

(i) o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben mynychu sefydliad;

(ii) o fewn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi at ddiben mynychu, fel rhan o'r cwrs, unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion mynychu Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis.

Talu grantiau

81.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grant y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael.

(2) Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

Gordaliadau

82.—(1) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon.

(2) Caniateir i unrhyw ordal grant o dan y Rhan hon gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau —

(a) drwy dynnu'r gordal o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b) drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordal sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(3) Mae taliad grant o dan y Rhan hon a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordal os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.

(4) Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(5) Yn yr amgylchiadau ym mharagraffau (6) a (7), mae gordal o grant o dan y Rhan hon onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu fel arall.

(6) Yr amgylchiadau yw—

(a) mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant o dan y Rhan hon i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr ôl-raddedig cymwys;

(b) mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c) nid yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(7) Yr amgylchiadau yw—

(a) mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b) gwneir taliad grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(8) Pan fo gordal o grant o dan y Rhan hon, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordal os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(70)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007

(67)

O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401. Back [67]

(69)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27. Back [69]