Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Erthygl 6

ATODLEN 2 ADDASIADAU I DDEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984

1.—(1) Caiff adran 46 ei haddasu fel a ganlyn.

(2) Hepgorir is-adran (1).

(3) Yn is-adran (1A) yn lle “Greater London” rhoddir “the parking area”.

2.—(1) Diwygir adran 55 fel a ganlyn.

(2) Yn lle is-adran (1) rhoddir—

(1) A local authority must keep an account of—

(a) their income and expenditure in respect of designated parking places for which they are the local authority and which are in the permitted parking area; and

(b) their income from additional parking charges (within the meaning of section 74(6) of the Road Traffic Act 1991) received by them in respect of vehicles found within the special parking area and the expenditure incurred by them in relation to that area by virtue of any provision of Part II of the Road Traffic Act 1991 as it applies in relation to that area.

(1A) As soon as reasonably possible after the end of each financial year the local authority must forward to the National Assembly for Wales a copy of the account for that year..

(3) Hepgorir is-adrannau (3A) a (3B).

3.  Yn adran 63A(4)—

(a) yn lle'r geiriau “in Greater London” rhoddir “in the parking area”; a

(b) yn lle'r geiriau “Greater London Authority” rhoddir “National Assembly for Wales”.

4.—(1) Caiff adran 101 ei haddasu fel a ganlyn.

(2) Hepgorir is-adran (4).

(3) Yn is-adran (4A) yn lle'r geiriau “Greater London” rhoddir “the parking area”.

(4) Hepgorir is-adran (5).

(5) Yn is-adran (5A) yn lle'r geiriau “Greater London” rhoddir “the parking area”.

5.—(1) Caiff adran 102 ei haddasu fel a ganlyn.

(2) Yn lle is-adran (1) rhoddir—

(1) If a vehicle is removed from the parking area in circumstances in which an offence would have been committed but for the provisions of paragraph 1(4) or 2(4) of Schedule 3 to the Road Traffic Act 1991, the local authority shall be entitled to recover from any person responsible, such charges in respect of the removal, storage and disposal of the vehicle, as they may require..

(3) Hepgorir is-adran (2).

(4) Yn lle is-adran (4) rhoddir—

(4) Without prejudice to subsection (3) above, where by virtue of subsection (1) above any sum is recoverable in respect of a vehicle by a local authority in whose custody the vehicle is, the local authority shall be entitled to retain custody of it until that sum has been paid..

(5) Hepgorir is-adran (7).

(6) Yn is-adran (8) hepgorir y diffiniad o “appropriate authority”.

(7) Hepgorir is-adran (9).

6.  Yn adran 142(1) cyn y diffiniad o “parking device” mewnosodir—

“parking area” means the area designated as a permitted parking area and as a special parking area by The Road Traffic (Permitted Parking Area and Special Parking Area (County of the Isle of Anglesey) Order 2007 and “permitted parking area” and “special parking area” are to be read accordingly;.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 yn darparu ar gyfer dynodi ardaloedd parcio a ganiateir ac ardaloedd parcio arbennig. Mae paragraff 1 (1) yn rhoi'r pwer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“Y Cynulliad Cenedlaethol”) ddynodi'r cyfan neu unrhyw ran o ardal cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru yn ardal barcio a ganiateir yn dilyn cais gan yr awdurdod lleol. Mae paragraff 2(1) yn rhoi pwer cyffelyb mewn perthynas ag ardaloedd parcio arbennig.

Gwneir y Gorchymyn hwn yn dilyn cais gan Gyngor Sir Ynys Môn (“yr awdurdod lleol”) ac ymgynghoriad statudol gyda Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru a'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd.

Effaith y Gorchymyn hwn yw dynodi'r cyfan o sir Ynys Môn ac eithrio hyd cyfan yr A55, gan gynnwys ei ffyrdd ymuno a'i ffyrdd ymadael, yn ardal barcio a ganiateir ac yn ardal barcio arbennig (“yr ardal barcio”). Unwaith y bydd y Gorchymyn mewn grym, mae amrywiol droseddau parcio o fewn yr ardal barcio wedi'u dad-droseddoli. Mae eu gorfodi yn peidio â bod yn gyfrifoldeb yr heddlu ac yn dod yn gyfrifoldeb yr awdurdod lleol. Rhoddir pwer i oruchwylwyr parcio a gyflogir gan yr awdurdod lleol (neu a gyflogir fel goruchwylwyr parcio gan berson y gwnaeth yr awdurdod lleol drefniant ag ef) osod rhybuddion tâl cosb ar gerbydau sy'n torri rheoliadau parcio a gallant, mewn achosion priodol, awdurdodi tynnu cerbydau ymaith neu osod llyffethair arnynt.

Yn rhinwedd y Gorchymyn, mae taliadau cosb yn yr ardal barcio i gael eu gosod gan yr awdurdod lleol gan roi ystyriaeth i ganllawiau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Y maent i'w hadennill gan yr awdurdod lleol fel dyledion sifil. Gwneir darpariaeth ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol pan osodir tâl cosb neu pan gaiff cerbyd ei dynnu ymaith neu pan osodir llyffethair ar gerbyd. Mae dyfarnu pan ddigwydd anghytundebau i gael ei drin gan ddyfarnwyr parcio a benodir gan gyd-bwyllgor a sefydlir yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 101(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.