Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2007
Yn dod i rym
29 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129, 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 29 Mawrth 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y diffiniad o “NHS sight test fee” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2)—
(a) yn lle “£50.77” rhodder “£52.04”; a
(b) yn lle “£18.39” rhodder “£18.85”;
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 er mwyn cyfeirio at gynnydd o 2.5% yn ffioedd prawf golwg y GIG.