Rheoliad 3
Pan roddir triniaeth i ddafad, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.
1. Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r ceillgwd, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.
Pan ddefnyddir dull arall, rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 mis oed neu'n hŷn na hynny.
2. Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.
3. Rhaid rhoi anesthetig.
4. Rhaid rhoi anesthetig.
5. Ym mhob achos, rhaid cadw digon o'r gynffon i guddio llawes goch dafad fenyw neu anws dafad wryw.
Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber neu ddyfais arall i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r gynffon, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.
Pan ddefnyddir dull arall rhaid rhoi anesthetig.
Rheoliad 3
Pan roddir triniaeth i afr, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.
1. Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r ceillgwd, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.
Pan ddefnyddir dull arall, rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 2 fis oed neu'n hŷn na hynny.
2. Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.
3. Rhaid rhoi anesthetig.
4. Rhaid rhoi anesthetig.
Rheoliad 3
Pan roddir triniaeth i geffyl, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.
1. Rhaid rhoi anesthetig.
2. Rhaid rhoi anesthetig.
Rheoliad 3
Pan roddir triniaeth i garw, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.
1. Rhaid rhoi anesthetig.
2. Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i geirw a ffermir.
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.
3. Rhaid rhoi anesthetig.
4. Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i geirw a ffermir neu ar geirw a gedwir ar dir yn yr un dull ag fel petaent yn geirw a ffermir.
Ni chaniateir tynnu ond y rhan ansensitif o'r cyrn.
Rheoliad 3
Pan roddir triniaeth i anifail heblaw un yr ymdrinnir ag ef yn unrhyw un o Atodlenni 2 i 8, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.
1. Rhaid rhoi anesthetig.
2. Rhaid rhoi anesthetig.
3. Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.
Rhaid rhoi anesthetig.
4. Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.
Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.
5. Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.
Rhaid rhoi anesthetig.
6. Rhaid rhoi anesthetig.
7. Rhaid rhoi anesthetig.
8. Pan na fo'r anifail y mae'r driniaeth i'w rhoi iddo yn ymlusgiad, ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.
Yn y naill achos neu'r llall, rhaid rhoi anesthetig.
9. Rhaid rhoi anesthetig ac eithrio pan fo'r ci yn gi bach nad yw ei lygaid wedi agor eto.
10. Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond at ddibenion canfod oed.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Yn ôl adrannau 5 (1) a (2) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p.45) (“y Ddeddf”) tramgwydd yw gwneud y canlynol i anfeiliaid sy'n cael eu gwarchod o dan y Ddeddf honno:
(a) rhoi triniaeth waharddedig;
(b) peri rhoi triniaeth waharddedig; neu
(c) o dan amgylchiadau penodedig, ganiatáu i berson arall roi triniaeth waharddedig.
Ystyr “rhoi triniaeth waharddedig” yw gwneud rhywbeth sy'n cynnwys ymyrryd â meinweoedd sensitif (e.e. croen) neu strwythur esgyrn yr anifail heblaw at ei drin yn feddygol (gweler adran 5(3) o'r Ddeddf).
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r triniaethau nad ydynt yn dramgwyddau yn ôl adran 5(1) a 5(2). Gan ddibynnu ar yr anifeiliaid y mae'r triniaethau i'w rhoi iddynt, caiff y triniaethau hynny gynnwys triniaethau at:
(a) adnabod yr anifeiliaid (fel tagiau clust);
(b) rheoli atghenhedlu (fel ysbaddu, cyweirio neu dorri ar anifail, a fasdoriad (hynny yw, fasectomi)); ac
(c) triniaethau at ddibenion eraill (fel laparosgopi) (Atodlen 1).
Am rai o'r triniaethau hyn, ac unwaith eto gan ddibynnu ar yr anifeiliaid y mae caniatâd i'w rhoi iddynt, mae Atodlenni 2 i 9 yn gosod cyfyngiadau ar roi'r driniaeth (fel pennu oedran y mae'n rhaid i'r anifail fod ynddo, neu bennu bod rhaid rhoi anesthetig).
O ran triniaethau penodol y caniateir eu rhoi i foch, mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu paragraff 8 o Bennod I o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/630/EEC sy'n gosod y safonau gofynnol ar gyfer gwarchod moch (OJ Rhif L340, 11.12.1991, t.33), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/88/EC, OJ Rhif L316, 1.12.2001, t.1), Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/93/EC (OJ Rhif L316, 1.12.2001, t.36) a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1). O ran tocio pig ieir dodwy, mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu paragraff 8 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC sy'n gosod y safonau gofynnol ar gyfer gwarchod ieir dodwy (OJ Rhif L203, 3.8.1999, p.53, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1).
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau ohono oddi wrth Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.