Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliad 3

ATODLEN 2 GWARTHEG: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR

Pan roddir triniaeth i wartheg, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

Ysbaddu

1.  Os y dull a ddefnyddir yw defnyddio modrwy rwber i gyfyngu ar rediad y gwaed i'r ceillgwd, ni ellir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

Pan ddefnyddir dull arall, rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 2 fis oed neu'n hyn na hynny.

Caglu embryonau neu'u trosglwyddo drwy ddull llawfeddygol

2.  Rhaid rhoi anesthetig.

Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen

3.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Trosglwyddo ofa, gan gynnwys casglu ofa drwy ddull llawfeddygol

4.  Rhaid rhoi anesthetig.

Fasdoriad

5.  Rhaid rhoi anesthetig.

Digornio

6.  Rhaid rhoi anesthetig.

Dadimpio

7.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 6 mis oed.

Os serio cemegol yw'r dull a ddefnyddir, ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

Pan ddefnyddir dull arall rhaid rhoi anesthetig.

Tynnu tethi ychwanegol.

8.  Rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 fis oed neu'n hyn na hynny.

Rheoliad 3

ATODLEN 3 MOCH: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR

Pan roddir triniaeth i fochyn, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

Ysbaddu

1.  Rhaid i'r dull a ddefnyddir beidio â chynnwys rhwygo meinweoedd.

Rhaid rhoi anesthetig ac analgesia estynedig ychwanegol pan fo'r anifail yn 7 niwrnod oed neu'n hŷn na hynny.

Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen

2.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i anifail a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Fasdoriad

3.  Rhaid rhoi anesthetig.

Modrwyo trwynau (cwirso)

4.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifal nas cedwir yn barhaus mewn system hwsmona dan do.

Tocio cynffonnau

5.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond os cymerwyd camau yn gyntaf i wella amgylchiadau amgylcheddol neu systemau rheoli er mwyn atal brathu cynffonnau, ond y mae tystiolaeth o hyd i ddangos bod y moch wedi'u hanafu gan frathu cynffonnau.

Rhaid i'r dull a ddefnyddir gynnwys torri'r gynffon yn gyflym ac yn llwyr.

Rhaid rhoi anesthetig ac analgesia estynedig ychwanegol pan fo'r anifail yn 7 niwrnod oed neu'n hŷn na hynny.

Lleihau dannedd

6.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond i anifail nad yw'n hŷn na 7 niwrnod oed.

Rhaid i'r driniaeth gynnwys y canlynol yn unig, sef lleihau'r dannedd cornel drwy naill ai eu rhygnu neu eu clipio gan adael arwyneb llyfn cyfan.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond os cymerwyd camau yn gyntaf i wella amgylchiadau amgylcheddol neu systemau rheoli er mwyn atal brathu cynffonnau ac arferion drwg eraill, ond y mae tystiolaeth o hyd i ddangos bod tethi hychod neu glustiau neu gynffonnau moch eraill wedi'u hanafu drwy frathu.

Tocio ysgithrau

7.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth hon ond pan fo tystiolaeth i ddangos ei bod yn angenrheidiol er mwyn atal anifeiliaid eraill rhag cael eu hanafu neu am resymau diogelwch.

Rheoliad 3

ATODLEN 4 ADAR: GOFYNION WRTH ROI TRINIAETHAU PENODOL A GANIATEIR

Pan roddir triniaeth i aderyn, a honno'n driniaeth sydd yn y rhestr isod, rhaid iddi gael ei rhoi yn unol â'r amod neu'r amodau a bennir ar gyfer y driniaeth honno.

Ysbaddu

1.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Rhaid rhoi anesthetig.

Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen

2.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Ofidectomi.

3.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Rhaid rhoi anesthetig.

Fasdoriad

4.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

Ni chaniateir rhoi'r driniaeth ond fel rhan o raglen fridio at ddibenion cadwraeth.

Rhaid rhoi anesthetig.

Tocio pig dofednod

5.  Rhaid rhoi'r driniaeth gan ddefnyddio offeryn addas, ac ar—

(a) y big isaf a'r big uchaf fel ei gilydd, heb fwy na thraean wedi'i dynnu, neu

(b) y big uchaf yn unig, heb fwy na thraean wedi'i dynnu.

Rhaid atal unrhyw waedlif sy'n dod o'r big yn sgil hynny drwy ei serio.

Ar ddofednod y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy ac a gedwir mewn sefydliadau gyda 350 neu ragor o ieir dodwy, ni chaniateir i'r driniaeth—

(i) ond gael ei rhoi er mwyn atal pigo plu neu ganibaliaeth;

(ii) ond gael ei rhoi cyn 1 Ionawr 2011;

(iii) gael ei rhoi i ddofednod y bwriedir iddynt fod yn ieir dodwy (neu sy'n ieir dodwy) ac sy'n 10 niwrnod oed neu'n hyn.

Torri crogrib

6.  Pan na fo'r twrci yn hŷn na 21 o ddiwrnodau oed, caniateir rhoi'r driniaeth naill ai drwy ei phinsio allan â llaw neu drwy ddefnyddio offeryn addas.

Tynnu bysedd traed ffowls domestig a thyrcwn

7.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i aderyn sy'n 3 diwrnod oed neu'n hyn onibai bod llawfeddyg yn barnu ei bod yn angenrheidiol ei rhoi.

Rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 diwrnod oed neu'n hyn na hynny.

Torri crib

8.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i aderyn sy'n 3 diwrnod oed neu'n hŷn onibai bod llawfeddyg yn barnu ei bod yn angenrheidiol ei rhoi.

Rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 3 diwrrnod oed neu'n hŷn na hynny.

Laparosgopi

9.  Rhaid rhoi anesthetig.

Tocio blaenau adennydd

10.  Ni chaniateir rhoi'r driniaeth i adar a ffermir.

Rhaid rhoi anesthetig pan fo'r anifail yn 10 niwrrnod oed neu'n hŷn na hynny.