Offerynnau Statudol
ANIFEILIAID, CYMRU
LLES ANIFEILIAID
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2007
Yn dod i rym
28 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef o ran Cymru, yr awdurdod cenedlaethol priodol at ddibenion arfer y pwerau a roddwyd gan 5(4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny.
Yn unol ag adran 5(5) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi ymgynghori â'r personau hynny sydd yn ei farn ef yn briodol am eu bod yn cynrychioli buddiannnau y mae a wnelo'r Rheoliadau hyn â hwy.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007. Maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “a ffermir” (“farmed”) yw, o ran anifail, a fegir neu a gedwir at gynhyrchu bwyd, gwlân neu groen neu at ddibenion ffermio eraill;
mae “ceffylau” (“horses”) yn cynnwys merlod, asynnod, a mulod;
ystyr “dadimpio” (“disbudding”) yw tynnu impiadau cyrn gwartheg, geifr neu ddefaid;
ystyr “dofednod” (“poultry”) yw ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, ffesantod a phetrisod;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lles Anifeiliaid 2006;
ystyr “ffowlyn domestig” (“domestic fowl”) yw aelod dof o'r rhywogaeth Gallus gallus;
ystyr “gwartheg” (“cattle”) yw pob anifail o'r rhywogaeth fuchol gan gynnwys bison a byfflo;
ystyr “triniaeth waharddedig” (“prohibited procedure”) yw triniaeth sy'n cynnwys ymyrryd â meinweoedd sensitif neu strwythur esgyrn yr anifail heblaw at ddibenion ei drin yn feddygol;
ystyr “iâr ddodwy” (“laying hen”) yw iâr o'r rhywogaeth Gallus gallus sydd wedi cyrraedd aeddfedrwydd dodwy ac sy'n cael ei chadw i gynhyrchu wyau na fwriedir iddynt ddeor;
ystyr “offeryn addas” (“suitable instrument”) yw, o ran unrhyw driniaeth, offeryn sydd mewn cyflwr da ac sydd wedi'i ddylunio at roi'r driniaeth honno neu a ddefnyddir yn gyffredin at roi'r driniaeth honno;
ystyr “torri crib” (“dubbing”) yw tynnu crib ffowlyn domestig;
ystyr “torri crogrib” (“desnooding”) yw tynnu crogrib twrci;
ystyr “yn bwrw eu melfed” (“in velvet”) yw o ran cyrn carw, y broses sy'n cynnwys y melfed yn raflio hyd nes i'r rhan fwyaf ohono gael ei fwrw.
3. Nid yw adran 5(1) a (2) o'r Ddeddf yn gymwys i driniaeth a restrir yn Atodlen 1, ar yr amod y rhoddir y driniaeth—
(a) yn unol ag unrhyw ofyniad perthnasol yn Atodlenni 2 i 9;
(b) mewn dull sy'n cadw lefel y boen a'r dioddefaint i'r anifail i leiafswm;
(c) mewn amgylchiadau hylan; ac
(ch) yn unol ag arferion da.
4.—(1) Nid yw adran 5(1) a (2) o'r Ddeddf yn gymwys pan fo triniaeth waharddedig yn cael ei rhoi mewn argyfwng er mwyn arbed bywyd yr anifail a warchodir(2) neu er mwyn lledfu ei boen.
(2) Rhaid i unrhyw driniaeth a roddir o dan baragraff (1) gael ei rhoi yn unol â rheoliad 3, i'r graddau y mae'n ymarferol o dan yr holl amgylchiadau.
5.—(1) Nid oes caniatâd i unrhyw driniaeth a ganiateir o dan reoliad 3 gael ei rhoi ond gan filfeddyg neu gan unrhyw berson arall y mae caniatâd iddo roi'r driniaeth honno o dan Ddeddf Milfeddygon 1996(3) neu Orchymyn Milfeddygon (Esemptiadau) 1962(4).
(2) Nid yw'r cyfyngiad ym mharagraff (1) yn gymwys i—
(a) tocio cynffonnau, neu
(b) ysbaddu
moch nad ydynt yn hyn na 7 niwrnod oed.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
Rheoliad 3
Triniaethau Adnabod:
Clipio clustiau.
Bylchu clustiau.
Tagio clustiau.
Rhewfrandio.
Microsglodynnu.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Caglu embryonau neu'u trosglwyddo drwy ddull llawfeddygol.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Trosglwyddo ofa, gan gynnwys casglu ofa drwy ddull llawfeddygol.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Digornio.
Dadimpio.
Modrwyo trwynau .
Tynnu tethi ychwanegol.
Triniaethau Adnabod:
Clipio clustiau.
Bylchu clustiau.
Tagio clustiau.
Microsglodynnu.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Modrwyo trwynau (cwirso).
Tocio cynffonnau.
Lleihau dannedd.
Tocio ysgithrau.
Triniaethau Adnabod:
Microsglodynnu.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Ofidectomi.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Tocio pig dofednod.
Torri crogrib.
Tynnu bysedd traed ffowls domestig a thyrcwn.
Torri crib.
Laparosgopi.
Tocio blaenau adennydd.
Triniaethau Adnabod:
Clipio clustiau.
Bylchu clustiau.
Tagio clustiau.
Microsglodynnu.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Digornio.
Dadimpio.
Tynnu blaen ansensitif y corn.
Tocio cynffonnau.
Triniaethau Adnabod:
Clipio clustiau.
Bylchu clustiau.
Tagio clustiau.
Microsglodynnu.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Digornio.
Dadimpio.
Tynnu blaen ansensitif y corn.
Triniaethau Adnabod:
Rhewfrandio.
Poethfrandio.
Microsglodynnu.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Fasdoriad.
Triniaethau Adnabod:
Clipio clustiau.
Bylchu clustiau.
Tagio clustiau.
Microsglodynnu.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Tynnu cyrn pan na fydd ceirw yn bwrw eu melfed.
Triniaethau Adnabod:
Clipio clustiau.
Bylchu clustiau.
Torri blaen clust chwith cathod lledwyllt.
Gosod dyfeisiau olrhain o dan y croen.
Tagio.
Brandio pysgod yn gemegol.
Rhewfrandio pysgod.
Microsglodynnu.
Tynnu neu dyllu rhannau o adennydd psygod, adennydd brasterog pysgod neu belydrau adennydd pysgod.
Tatwio.
Dulliau eraill o adnabod anifeiliaid sy'n cynnwys anffurfiad sy'n ofynnol gan y gyfraith.
Triniaethau ar gyfer Rheoli Atgenhedlu.
Ysbaddu.
Caglu embryonau neu'u trosglwyddo drwy ddull llawfeddygol.
Gosod dyfais atal cenhedlu o dan y croen.
Trosglwyddo ofa, gan gynnwys casglu ofa drwy ddull llawfeddygol.
Disbaddu.
Fasdoriad.
Triniaethau Rheoli Eraill:
Laparosgopi.
Tynnu corewinedd cŵn.
Tynnu cen pysgod.
2006 p.45 Mae i “anifail a warchodir” yr ystyr a rhoddir I “protected animal” yn adran 2 o'r Ddeddf Back [2]
1966 p.36; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1988/526, 1991/1412, 2002/1479. Back [3]
O.S. 1962/2557; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1982/1627, 2002/1646. Back [4]