(I'w gwblhau gan y milfeddyg sy'n ardystio'r ci)
1. Rwyf wedi'm bodloni bod math y ci a math ei fam wedi'u nodi ym mharagraff 4 a 5 yn eu trefn o Ran 1.
2. Rwyf wedi gweld y dystiolaeth a gyflwynwyd yn unol â paragraffau 7-9 o Ran 1 uchod, fod y ci yn debygol o gael ei ddefnyddio at waith mewn cysylltiad ag un o'r dibenion a bennir ym mharagraff 6 o Ran 1 uchod.
3. Yn unol ag adran 6(4) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 rwyf yn ardystio fod yr amodau yn adran 6(5) a (6) o'r Ddeddf wedi'u cyfarfod o ran y ci a gyflwynwyd i mi a pharthed yr hwn y cafodd rhan 1 uchod ei gwblhau.
Llofnod y Milfeddyg:
Enw:
Dyddiad:
Cyfeiriad Practis y Milfeddyg:
(I'w gwblhau gan y milfeddyg sydd wedi tocio cynffon y ci)
Rwyf yn cadarnhau fy mod ar [dyddiad] wedi tocio cynffon y ci parthed yr hwn y cafodd rhannau 1 a 2 o'r ffurflen hon eu cwblhau.
Llofnod y Milfeddyg:
Enw:
Dyddiad:
Cyfeiriad Practis y Milfeddyg:
(I'w gwblhau gan y person sy'n cyflwyno'r ci i'w ficrosglodynnu)
1. Enw a chyfeiriad y person sy'n cyflwyno'r ci i'w ddynodi:
2. Cysylltiad â'r ci (dileer yn ôl priodoldeb):
perchennog y ci;
person a awdurdodwyd i gynrychioli perchennog y ci
3. Rwyf yn cadarnhau mai'r un ci yw'r ci yr wyf yn ei gyflwyno heddiw i'w ficrosglodynnu â'r ci a gafodd docio ei gynffon ar [DYDDIAD] a pharthed yr hwn y cafodd rhannau 1 i 3 o'r dystysgrif hon eu cwblhau.
4. Rwyf yn ymwybodol ei bod yn drosedd rhoi gau wybodaeth yn ymwybodol i filfeddyg mewn cysylltiad â dyroddi tystysgrif at ddibenion adran 6 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
Llofnod perchennog y ci neu'r person a awdurdodwyd i'w gynrychioli:
Enw:
Dyddiad:
(I'w gwblhau ar y dyddiad y caiff y ci ei ficrosglodynnu gan y milfeddyg cyfrifol)
1. Rwyf yn cadarnhau i mi/i nyrs filfeddygol yn
gweithredu o dan fy ngoruchwyliaeth (dileer yn ôl priodoldeb) roi microsglodyn yn y ci a gyflwynwyd i'w ficrosglodynnu.
2. Rwyf wedi'm bodloni mai'r ci a gyflwynwyd i'w ficrosglodynnu yw'r un parthed yr hwn y cafodd rhannau 1— 4 o'r ffurflen hon eu cwblhau.
3. Cafodd y microsglodyn ei roi yn y ci ar: [dyddiad]
4. Y darlleniad ar y microsglodyn yw [MEWNOSODER Y DARLLENIAD AR Y MICROSGLODYN].
Llofnod:
Enw:
Cyfeiriad Practis y Milfeddyg:
Dyddiad:
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
O dan adran 6 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p.45), gellir esemptio cwn gwaith drwy reoliadau rhag y gwaharddiad ar dorri ymaith y cyfan o gynffon ci neu unrhyw ran ohoni, ac eithrio at ddibenion rhoi triniaeth feddygol iddo.
Mae rheoliad 3 yn gosod y gofynion sydd i'w cadw cyn y caiff milfeddyg ardystio fod y ci yn gi gwaith. Mae rheoliad 3(1)(a) ac Atodlen 1 yn pennu'r mathau o gi y gellir ei ardystio, ac mae rheoliad 3(1)(c) a 3(2) yn disgrifio'r dystiolaeth bellach (ynghylch y tebygolrwydd y bydd y ci yn cael ei ddefnyddio at waith penodol) y bydd yn ofynnol ei ddangos i'r milfeddyg er mwyn sicrhau tystysgrif o'r fath. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i filfeddyg ardystio'r ffaith ei fod wedi tocio cynffon ci. Mae rheoliad 5 yn rhagnodi'r modd y mae ci a gafodd docio ei gynffon i gael ei ddynodi drwy ficrosglodynnu. Mae Atodlen 2 yn rhagnodi'r ffurf y mae'r dystysgrif i'w rhoddi ynddi.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.