Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
ANIFEILIAID, CYMRU
ATAL CREULONDEB
Wedi'u gwneud
27Mawrth 2007
Yn dod i rym
28 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2 o Ddeddf Amaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ef.
Yn unol ag adran 2(1) o'r Ddeddf honno, mae'r Cynulliad wedi ymgynghori â'r personau hynny yr ymddengys iddo ef eu bod yn cynrychioli'r buddiannau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwynt, fel y gwêl yn briodol.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2007. Maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.
2. Mae'r offerynnau a ddisgrifir yn y golofn gyntaf a'r ail golofn o'r Atodlen yn cael eu dirymu i'r graddau a bennir yn y drydedd golofn o'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
Rheoliad 2
| Yr offeryn a ddirymir | Y Cyfeirnod | Graddau'r Dirymu |
|---|---|---|
| Rheoliadau Lles Da Byw (Llawdriniaethau a Waherddir) 1982 | O.S. 1982/ 1884 | Y cyfan o'r Rheoliadau. |
| Rheoliadau Lles Da Byw (Llawdriniaethaua Waherddir) (Diwygio) 1987 | O.S. 1987/ 114 | Y cyfan o'r Rheoliadau. |
| Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 | O.S. 2001/ 2682 | Paragraffau 8 a 9 o Atodlen 3D(3); a Pharagraffau 19 i 26 o Atodlen 6 (4). |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen, o ganlyniad i ddisodli eu sylwedd gan Reoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) 2007.
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1968 p. 34. Gweler adrannau 8(4) a 50 am y dehongliad o “the Ministers”. Cafodd swyddogaethau'r Gweinidogion, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672. Back [1]
1998 p.38. Back [2]
Mewnosodwyd Atodlen 3D gan O.S. 2002/1898 (yn rheoliad 2(8)). Back [3]
Amnewidwyd Atodlen 6 gan O.S. 2003/1726 (yn rheoliad 3(4)). Back [4]