Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
27 Mawrth 2007
Yn dod i rym
28 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 76, 77 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2007 a deuant i rym ar 28 Mawrth 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(2) wedi'u diwygio yn unol â'r ddarpariaeth a ganlyn yn y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 10(1) (y Datganiad) —
ar ddiwedd rheoliad 10(1)(b) mewnosoder —
“A determination may provide that allowances to be paid in respect of continuing education and training by ophthalmic medical practitioners and opticians other than corporate opticians may be paid in respect of a period beginning on a date earlier than the date of the determination if, taking the determination as a whole, it is not detrimental to the persons to whose remuneration it relates.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) er mwyn darparu, pan fo dyfarniad yn cael ei wneud am lwfansau sydd i'w talu mewn perthynas â thaliadau addysg barhaus a hyfforddiant, gellir gwneud taliadau o ran cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad cynt na dyddiad y dyfarniad.