Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN III YSGOLION SYDD Å CHYMERIAD CREFYDDOL CATHOLIG RUFEINIG AC ANGLICANAIDD

AALl Rhif AALl Rhif yr Ysgol Enw'r Ysgol
Wrecsam
665 4602 Ysgol Uwchradd Gatholig Rufeinig ac Anglicanaidd Sant Ioseff

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 1 Mai 2007, yn dynodi ysgolion yng Nghymru sydd â chymeriad crefyddol yn unol ag adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“y Deddf”).

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn cymryd lle Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1814), a Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1734 (Cy.177)).

Gwneir y Gorchymyn hwn er mwyn adlewyrchu:—

(i) bod rhai ysgolion a restrir yn y Gorchmynion a wnaed yn 1999 ac yn 2004 wedi cau;

(ii) bod rhai ysgolion a restrir yn y Gorchmynion a wnaed yn 1999 ac yn 2004 wedi newid categori; a

(iii) bod rhai ysgolion wedi agor.

Mae dynodiad yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol yn berthnasol ar gyfer nifer o ddibenion o dan y Ddeddf, yn enwedig:—

(a) fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar ffurf yr addysg grefyddol sydd i'w darparu o dan Atodlen 19 i'r Ddeddf;

(b) fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar ffurf yr addoli ar y cyd sydd i'w ddarparu o dan Atodlen 20 i'r Ddeddf;

(c) fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar faterion staffio ysgol o dan adrannau 58 i 60 o'r Ddeddf;

  • (ch) at ddibenion penderfynu ar y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion o dan adran 89 o'r Ddeddf; a

(d) at ddibenion cael gwared ar asedau o dan baragraff 5 o Atodlen 3 i'r Ddeddf, er mwyn ailgyfeirio asedau er lles ysgolion o'r un crefydd neu o'r un enwad crefyddol.

Ni chaiff dynodiad yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol ei dderbyn fel tystiolaeth ddiwrthbrawf fod gwaddoliad wedi cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn rhannol neu'n gyfangwbl, mewn cysylltiad â'r darpariaethau o addysg grefyddol yn yr ysgol at ddibenion Adran 554(2) o Ddeddf Addysg 1996. Mae adran 554 yn galluogi awdurdodau priodol unrhyw enwad crefyddol neu unrhyw grefydd (ond fel arfer awdurdodau esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru) i wneud darpariaeth newydd ar gyfer gwaddoliadau sy'n cael eu dal neu eu defnyddio ar gyfer darparu addysg grefyddol. Mae hyn fel arfer yn digwydd o ganlyniad i fod ysgol yn cau. Wrth gadarnhau cymhwystra ar gyfer gorchymyn, byddid yn ystyried gweithredoedd yr ymddiriedolaeth a thystiolaeth ategol.

Nid yw dynodiad gan y Gorchymyn hwn ynddo'i hun yn fodd i ennill cymeriad crefyddol na newid cymeriad crefyddol. Cydnabod y mae dynodiad nodweddion presennol penodol yr ysgol neu ei chorff llywodraethu fel y disgrifir hwy yn Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Y Weithdrefn Ddynodi) 1998 (S.I. 1998/2535). O dan y Ddeddf rhaid i ysgol gau yn gyntaf os yw i ennill cymeriad crefyddol, onid oes ganddi un eisoes fel cwestiwn o ffaith, neu os yw i newid ei chymeriad crefyddol.

Yng Nghymru, yr unig grefydd y mae'n ofynnol, neu y gall fod yn ofynnol, darparu addysg grefyddol yn yr ysgol yn unol â'i daliadau yn unol ag Atodlen 19 i'r Ddeddf ar hyn o bryd yw'r grefydd Gristnogol. Yr enwadau crefyddol perthnasol o fewn Cristnogaeth yw'r Eglwys yng Nghymru a'r Eglwys Gatholig Rufeinig.

Nid yw datganiad yn y Gorchymyn mewn perthynas ag ysgol fod y grefydd neu'r enwad crefyddol y mae'n ofynnol, neu y gall fod yn ofynnol, darparu addysg grefyddol yn unol â'i ddaliadau yn yr ysgol yn unol ag Atodlen 19 i'r Ddeddf, yn Gatholig Rufeinig yn penderfynu a yw ysgol yn ysgol Eglwysig Gatholig Rufeinig neu beidio yn ôl cyfraith ganon.