Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004 (O.S 2004/3280 (Cy. 284)). Mae'r Rheoliadau hynny yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi traws-gydymffurfio o dan Reoliad (EC) Rhif 1782/2003 (OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1) (“Rheoliad y Cyngor ”) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 (OJ Rhif L141, 30.04.2004, t.18) (“Rheoliad y Comisiwn”) mewn perthynas â'r gyfundrefn o gynlluniau cymorth incwm a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2005.

Mae'r Rheoliadau hyn:

(a) yn diffinio'r rhestr o ymrwymiadau amaeth-amgylchedd (sy'n cael blaenoriaeth dros safonau a gofynion traws-gydymffurfio) i gynnwys pob ymrwymiad perthnasol (rheoliad 3(a));

(b) yn diwygio'r diffiniad o “authorised person” (rheoliad 3(b));

(c) yn diweddaru'r diffiniadau o Reoliadau'r Cyngor a'r Comisiwn i gymryd ystyriaeth o ddiwygiadau i'r Rheoliadau hynny, ac yn ychwanegu diffiniad o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2006 (rheoliad 3(c — e));

(ch) yn diwygio'r darpariaethau dehongli fel bod cyfeiriad at offeryn Cymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y dichon gael ei ddiwygio ar unrhyw adeg yn y dyfodol (rheoliad 4),

(d) yn dynodi'r Ysgrifennydd Gwladol fel yr awdurdod rheolaethu cymwys mewn perthynas â gofynion rheoli statudol Rhif 16 i 18 o Atodiad III o Reoliad y Cyngor ar les anifeiliaid (rheoliad 5);

(dd) yn ychwanegu at bwerau arolygwyr er mwyn darparu ar gyfer arolygiadau mewn perthynas â gofynion lles anifeiliaid sy'n gymwys i ffermwyr o 1 Ionawr 2007 (rheoliad 5);

(e) yn diwygio'r darpariaethau ynghylch rheoli tir ar ôl cynhaeaf (rheoliad 6).

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer yr offeryn hwn. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.