Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/149 (Cy.19)) (“Rheoliadau 2003”). Mae Rheoliadau 2003 yn gwneud darpariaethau ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Byrddau Iechyd Lleol gan gynnwys eu gweithdrefnau a'u trefniadau gweinyddol. Mae'r Rheoliadau'n diwygio Rheoliadau 2003 i wneud darpariaeth i awdurdodau lleol benodi personau i'w cynrychioli ar y Bwrdd. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer deiliadaeth holl benodiadau Bwrdd ac ar gyfer terfynu penodiadau aelodau Bwrdd.

2.  Mae'r Rheoliadau—

(a) yn gwneud diwygiadau i reoliad 2 o Reoliadau 2003 er mwyn cynnwys Ymddiriedolaethau Sefydledig y GIG yn y diffiniad o gorff gwasanaeth iechyd (rheoliad 3);

(b) yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2003 i'w gwneud yn glir bod gwahaniaeth, at ddiben y Rheoliadau hynny, rhwng cadeirydd neu is-gadeirydd a benodir gan y Cynulliad ac aelodau eraill o'r Bwrdd (rheoliad 4);

(c) yn darparu bod pob aelod sy'n cynrychioli'r awdurdod lleol ar gyfer ardal y Bwrdd yn cael ei benodi gan yr awdurdod lleol (rheoliad 5(3);

(ch) yn darparu, pan fydd sedd wag ar Fwrdd, bod yn rhaid i'r Bwrdd hwnnw wneud pob ymdrech resymol i lenwi'r sedd wag honno (rheoliad 5(4));

(d) yn dileu darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol ar gyfer penodi aelodau cyntaf y Bwrdd. Gan fod y Byrddau eisoes wedi'u sefydlu nid oes angen y ddarpariaeth hon mwyach (rheoliad 6);

(dd) yn darparu ar gyfer penodi aelodau nad ydynt yn swyddogion am ddim mwy na phedair blynedd, ac yn darparu, pan fydd aelod nad yw'n swyddog yn gwasanaethu ar Fwrdd am fwy na deng mlynedd, bod yn rhaid i'r Bwrdd geisio cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol ar gyfer aelodau presennol (rheoliad 8);

(e) yn gwneud darpariaeth, pan fydd person wedi'i benodi gan awdurdod lleol, y caiff yr awdurdod lleol hwnnw derfynu'r penodiad ar unrhyw adeg (rheoliad 9);

(f) yn darparu bod penodiad cadeirydd neu is-gadeirydd yn cael ei derfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 10); ac

(ff) yn darparu, pan fydd is-gadeirydd wedi'i benodi gan y Bwrdd ond bod ei benodiad yn cael ei derfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol, bod y person hwnnw'n parhau'n aelod nad yw'n swyddog (rheoliad 11).