Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
20 Mawrth 2007
Yn dod i rym
1 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 13(2) a (3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraffau 4(1) a (2) o Atodlen 2 iddi ac sy'n arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2007; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
2. Diwygir Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003(2) (“y prif Reoliadau”) yn unol â rheoliadau 3 i 15.
3. Yn rheoliad 2 (Dehongli)
(a) dileer y diffiniad o “aelodau cyntaf” (“first members”);
(b) yn y diffiniad o “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) ar ôl “Ymddiriedolaeth GIG” mewnosoder y geiriau —
“, un o Ymddiriedolaethau Sefydledig y GIG”;
(c) yn y diffiniad o “aelod awdurdod lleol” (“local authority member”) yn lle “enwebu” rhodder—
“benodi”;
(ch) yn y diffiniad o “aelod” (“member”) dileer y canlynol —
“, aelodau cyswllt ac aelodau cyfetholedig”;
(d) yn y diffiniad o “aelod sy'n swyddog” (“officer member”) yn lle “rheoliad 3(3)” rhodder y canlynol —
“rheoliad 3(2)”;
(dd) yn y diffiniad o “aelod nad yw'n swyddog” (“non-officer member”)
(i) yn lle “nad yw'n” dal unrhyw swydd”rhodder y canlynol —
“sy'n dod a fewn categori”; a
(ii) ar y diwedd mewnosoder—
“.”; ac
(e) dileer y diffiniad o “aelod cysgodol” (“shadow member”).
4.—(1) Diwygir rheoliad 3 (aelodaeth o Fyrddau Iechyd Lleol) o'r prif Reoliadau yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn lle rheoliad 3(1) rhodder y canlynol —
“3.—(1) Bydd aelodau'r Bwrdd fel a ganlyn—
(a) cadeirydd a benodwyd gan y Cynulliad;
(b) os yw'r Cynulliad o'r farn bod hynny'n briodol, is-gadeirydd a benodwyd gan y Cynulliad;
(c) aelodau sy'n swyddogion; ac
(ch) aelodau nad ydynt yn swyddogion.”;
(3) Yn rheoliad 3(3)
(i) dileer paragraffau (a) a (b);
(ii) ym mharagraff (c) dileer “hyd at” ac yn lle “bedwar” rhodder “pedwar”;
(iii) ym mharagraff (h) dileer “a”;
(iv) ym mharagraff (i) dileer “.” ac ychwaneger “; a”; a
(v) ar ôl paragraff (i) mewnosoder
“(j) aelodau cyfetholedig.”.
(4) Dileer rheoliad 3(4).
5. Diwygir rheoliad 4 (Penodi Aelodau Byrddau Iechyd Lleol) o'r prif Reoliadau yn unol â'r rheoliad hwn.
(1) Dileer paragraff (1);
(2) Ym mharagraff (3)
(i) ar ôl “is-gadeirydd” dileer “a'r” a mewnosoder “a benodwyd o dan baragraff (2),”;
(ii) ar ôl “aelodau cyfetholedig” mewnosoder “ac aelodau awdurdod lleol”; a
(iii) dileer “yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cynulliad”.
(3) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder y canlynol —
“(3A) Mae pob aelod awdurdod lleol i'w benodi gan yr awdurdod lleol ar gyfer ardal y Bwrdd.”.
(4) Ym mharagraff (4) —
(a) yn lle “Penodir” rhodder y canlynol —
“Caniateir penodi”
(b) ar ôl “dro ynghylch penodiadau” mewnosoder
“ac Atodlen 1A”.
(c) ym mharagraff (5) —
(i) yn lle “baragraff (3)” rhodder y canlynol —
“baragraffau (3) a (3A)”; a
(ii) yn lle “Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn” rhodder y canlynol —
“Atodlen 1 neu Atodlen 1A (lle y bônt yn gymwys)”;
(ch) ar ôl paragraff (5), mewnosoder y canlynol —
“(5A) Rhaid i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am wneud unrhyw benodiad o dan baragraffau (3) a (3A) wneud pob ymdrech resymol i benodi aelodau i lenwi unrhyw sedd aelod o'r Bwrdd sy'n wag.”.
6. Dileer rheoliad 5 (Trefniadau trosiannol ar gyfer penodi aelodau cyntaf Bwrdd Iechyd Lleol).
7. Yn rheoliad 6 (Gofynion i fod yn gymwys i fod yn aelod o Fwrdd Iechyd Lleol) —
(a) Dileer y canlynol —
“sy'n gwneud cais i fod yn aelod o Fwrdd”; a
(b) Ar ôl “gael ei benodi'n aelod” mewnosoder —
“a rhaid iddo barhau i gyflawni'r gofynion perthnasol tra bo'r person hwnnw'n dal swydd”.
8. Ar ôl rheoliad 7 (Cyfnod penodiad aelodau cyfetholedig) mewnosoder y rheoliad a ganlyn —
7A.—(1) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, mae person yn dal swydd ac yn gadael swydd fel aelod Bwrdd yn unol â thelerau penodi'r person hwnnw.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 7, 7B, 8 a 9, penodir person i ddal swydd fel aelod nad yw'n swyddog am nid mwy na phedair blynedd.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) caiff person, pan ddaw ei dymor mewn swydd i ben, fod yn gymwys i'w ailethol.
(4) Ni chaiff person ddal swydd fel aelod nad yw'n swyddog ar Fwrdd heb gymeradwyaeth y Cynulliad ymlaen llaw os yw'r person hwnnw wedi dal swydd ar y Bwrdd hwnnw am gyfnod sy'n gyfanswm o ddeng mlynedd neu fwy.
7B.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd person wedi'i benodi cyn 1 Ebrill 2007.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fydd person wedi'i benodi i ddal swydd am dymor penodedig, gweddill y tymor hwnnw fydd tymor mewn swydd y person hwnnw ond ni fydd, o dan unrhyw amgylchiadau, yn hwy na phedair blynedd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff 4, pan fydd person wedi'i benodi i ddal swydd ond na phennwyd tymor, bydd y person hwnnw'n dal swydd am ddim mwy na phedair blynedd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007.
(4) Pan fydd aelod awdurdod lleol wedi'i benodi, caiff yr awdurdod lleol derfynu deiliadaeth swydd y person hwnnw drwy roi rhybudd ysgrifenedig i'r person hwnnw.”
9. Yn rheoliad 9 (Terfynu penodiad ac atal dros dro aelodau nad ydynt yn swyddogion) o'r prif Reoliadau ar ôl paragraff (2) mewnosoder y canlynol —
“(2A) Pan fydd person wedi'i benodi gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 4(3A) caiff yr awdurdod lleol derfynu deiliadaeth swydd y person hwnnw drwy roi rhybudd ysgrifenedig iddo.”.
10. Ar ôl rheoliad 9 (Terfynu penodiad ac atal dros dro aelodau nad ydynt yn swyddogion) o'r prif Reoliadau mewnosoder y canlynol —
9A.—(1) Os bydd y Cynulliad yn penderfynu—
(a) nad yw'n fuddiol i'r gwasanaeth iechyd yn yr ardal y mae Bwrdd yn gweithredu drosti; neu
(b) nad yw'n gydnaws â rheoli'r Bwrdd yn dda,
bod person a benodwyd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd Bwrdd yn parhau i ddal y swydd honno, caiff y Cynulliad symud y person hwnnw o'r swydd honno.
(2) Os daw i sylw'r Cynulliad bod person a benodwyd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd bellach yn anghymwys i'w benodi o dan Ran I o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, caiff y Cynulliad symud y person hwnnw o'r swydd honno.
(3) Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad bod person a benodwyd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 15, caiff y Cynulliad symud y person hwnnw o'r swydd honno.
(4) Os bydd person a benodwyd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd wedi methu â mynychu cyfarfod o'r Bwrdd am gyfnod o dri mis, caiff y Cynulliad derfynu aelodaeth y person hwnnw onid yw wedi'i fodloni—
(a) bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b) y bydd y person yn gallu mynychu'r cyfryw gyfarfodydd o fewn y cyfryw gyfnod ag y bydd y Cynulliad o'r farn ei fod yn rhesymol.
(5) Pan fydd person wedi'i benodi'n is-gadeirydd yn unol â rheoliad 10 a bod y person hwnnw wedi'i symud o'r swydd honno o dan unrhyw un neu rai o'r paragraffau uchod caiff y person barhau i fod yn aelod nad yw'n swyddog oni fydd y Bwrdd yn terfynu ei aelodaeth fel arall.
(6) Cyn gwneud penderfyniad i derfynu aelodaeth cadeirydd neu is-gadeirydd o dan unrhyw un neu rai o'r paragraffau uchod, caiff y Cynulliad atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd hwnnw am y cyfryw gyfnod ag y bydd o'r farn ei fod yn rhesymol.
(7) Ni chaiff cadeirydd neu is-gadeirydd y mae ei aelodaeth wedi'i hatal dros dro o dan baragraff (5) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod o'r Bwrdd.
9B. Caiff unrhyw aelod ymddiswyddo o fod yn aelod drwy hysbysu'r Bwrdd yn ysgrifenedig ond yn ddarostyngedig i delerau penodi'r person hwnnw.”.
11.—(1) Diwygir rheoliad 10 (Penodi is-gadeirydd) o'r prif Reoliadau yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 10(1) ar ôl “aelod sy'n swyddog” mewnosoder y canlynol—
“, yn aelod cyfetholedig neu'n aelod cyswllt”.
(3) Ar ôl rheoliad 10(1), mewnosoder y paragraff canlynol —
“(1A) Pan fydd aelod nad yw'n swyddog wedi'i benodi'n is-gadeirydd o dan y rheoliad hwn bydd yr aelod hwnnw'n parhau i fod yn aelod nad yw'n swyddog at ddiben y Rheoliadau hyn.
(1B) Pan fydd y Bwrdd yn penodi is-gadeirydd rhaid iddo wneud hynny'n unol ag Atodlen 1A”.
12. Yn rheoliad 13 (Cyfarfodydd a thrafodion) o'r prif Reoliadau ar ôl paragraff (3) mewnosoder —
“(3A) Ni fydd y ffaith bod sedd aelod o'r Bwrdd yn wag neu unrhyw ddiffyg ym mhenodi person yn aelod yn peri bod trafodion y Bwrdd yn annilys.”.
13. Yn rheoliad 16 (Trefniadau gan Fyrddau ar gyfer arfer eu swyddogaethau) o'r prif Reoliadau
(a) ym mharagraff (1)(c)(iv) dileer “neu”; a
(b) ar ôl paragraff (1)(c)(iv) mewnosoder —
“(v) Bwrdd arall; neu”.
14.—(1) Diwygir Atodlen 1 o'r prif Reoliadau yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1) —
(a) ar ôl “is-gadeirydd” yn lle “,” rhodder “a'r”; a
(b) dileer “a'r aelodau cyntaf”.
(3) Ym mharagraff (2) yn lle “i'r Bwrdd” rhodder y canlynol —
“i'r person sy'n gyfrifol am wneud unrhyw benodiad o dan reoliad 4(3), (3A) a (4)”.
15. Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder y canlynol —
(1) Mae'r Atodlen hon yn gymwys i ddewis a phenodi —
(a) aelodau cyfetholedig a benodir o dan reoliad 4(4); a
(b) is-gadeiryddion a benodir o dan reoliad 10.
(2) Rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle ar gyfer dewis a phenodi personau'n aelodau cyfetholedig ac yn is-gadeiryddion a rhaid i'r trefniadau hynny roi sylw i —
(a) y gofyniad bod dewis a phenodi aelodau'n agored ac yn dryloyw; a
(b) yr angen am sicrhau bod aelod sydd i'w benodi'n bodloni'r gofynion cymhwystra a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 a bod yr aelod yn bodloni 'r meini prawf dewis a'r safonau hyfedredd a gymhwysir gan y Bwrdd i aelodau eraill nad ydynt yn swyddogion.”
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mawrth 2007