(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 (“y rheoliadau gwybodaeth”) ac i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol 2003 (“y rheoliadau safonau”).
Caiff y rheoliadau gwybodaeth eu diwygio er mwyn eglurhau'r gofynion a osodir ar berchnogion ysgolion annibynnol ynglŷn â gwneud gwiriadau cofnodion troseddol a gwiriadau cysylltiedig gyda'r Swyddfa Cofnodion Troseddol ynghylch personau sy'n gweithio mewn ysgol annibynnol. Mae'r diwygiadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth bellach gael ei darparu ynglŷn ag aelodau corff corfforaethol sydd yn berchennog ysgol annibynnol, ac ynglŷn â'r nifer o blant yr edrychir ar eu hôl sy'n cael eu haddysgu mewn ysgol o'r fath.
Caiff y rheoliadau safonau hefyd eu diwygio er mwyn eglurhau gofynion ynglyn â gwiriadau cofnodion troseddol ac er mwyn pennu'r tystysgrifau cofnodion troseddol hynny y mae'n rhaid rhoi copi ohonynt i'r Cynulliad, sef yr awdurdod cofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru.