(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diffinio “corff GIG” a “triniaeth feddygol sylweddol” at ddibenion darpariaethau penodol yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 (“y Ddeddf”) sy'n ymdrin ag Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol (“EAGMau”). Mae'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaeth hefyd ynghylch pwy y gellir ei benodi i weithredu fel EAGM ac ynghylch swyddogaethau EAGM pan fo wedi'i gyfarwyddo i gynrychioli person mewn achos penodol. Mae'r darpariaethau ynglyn â phenodiad a swyddogaethau EAGM yn gymwys pan fo'r EAGM wedi'i gyfarwyddo o dan adrannau 37 i 39 o'r Ddeddf neu o dan reoliadau a wnaed yn rhinwedd adran 41 o'r Ddeddf.
2. Mae rheoliad 3 yn diffinio “corff GIG”. Defnyddir y term hwn yn adrannau 37 a 38 o'r Ddeddf. Mae'r adrannau hynny yn gosod rhwymedigaeth ar gyrff GIG i gyfarwyddo EAGM o dan amgylchiadau penodol sy'n cynnwys gweithredoedd neu benderfyniadau sy'n ymwneud â thriniaeth feddygol sylweddol neu â llety.
3. Mae rheoliad 4 yn diffinio “triniaeth feddygol sylweddol”. O dan adran 37 o'r Ddeddf, rhaid i gorff GIG gyfarwyddo EAGM pan fo'r corff GIG yn bwriadu darparu triniaeth o'r fath, neu'n sicrhau bod triniaeth o'r fath yn cael ei darparu.
4. Mae rheoliad 5 yn darparu—
(a) bod rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol (“BILl”) wneud trefniadau i drefnu bod EAGMau ar gael i breswylwyr yn ei ardal (rheoliad 5(1));
(b) y caiff BILl, wrth iddo wneud trefniadau o'r fath, wneud trefniadau gyda darparydd gwasanaethau eirioli (rheoliad 5(2));
(c) na chaiff neb weithredu fel EAGM onid yw wedi'i gymeradwyo gan y BILl neu'n cael ei gyflogi gan ddarparydd gwasanaethau eirioli i weithredu fel EAGM (rheoliad 5(3));
(ch) bod rhaid i BILl, cyn iddo gymeradwyo person i weithredu fel EAGM, fod wedi'i fodloni bod y person hwnnw'n bodloni'r gofynion penodi o ran profiad, hyfforddiant, cymeriad da ac annibyniaeth (rheoliad 5(6));
(d) bod tystysgrifau cofnod troseddol yn ofynnol i benderfynu a yw person yn gweddu i'r gofynion penodi o ran cymeriad da (rheoliad 5(8)).
5. Mae rheoliad 6 yn nodi'r camau y mae'n rhaid i EAGM eu cymryd pan fo wedi'i gyfarwyddo i weithredu mewn achos penodol. Rhaid i'r EAGM gael gafael ar wybodaeth am y person y mae wedi'i gyfarwyddo i'w gynrychioli (“P”) ac am ddymuniadau, teimladau, credoau neu werthoedd P a chloriannu'r wybodaeth honno. Rhaid i'r EAGM roi adroddiad wedyn i'r sawl a'i gyfarwyddodd.
6. Mae rheoliad 7 yn darparu y caiff EAGM, sydd wedi'i gyfarwyddo i gynrychioli P ynglyn ag unrhyw fater, herio penderfyniad a wneir ar y mater hwnnw ynghylch P, gan gynnwys unrhyw benderfyniad o ran a yw P yn berson sydd â diffyg galluedd. At ddibenion herio, ymdrinnir â'r EAGM yn yr un modd ag unrhyw berson arall sy'n gofalu am P neu sy'n ymddiddori yn ei les.
7. Mae rheoliad 8 yn darparu y caiff corff GIG neu awdurdod lleol, pan fo'r naill neu'r llall wedi gwneud trefniadau ynglyn â llety P ac wedyn yn bwriadu adolygu'r trefniadau hynny, gyfarwyddo EAGM. Dim ond pan nad yw P yn meddu ar y galluedd i gymryd rhan yn yr adolygiad, neu pan nad oes neb arall y gellir ymgynghori ag ef ynghylch materion sy'n effeithio ar beth fyddai orau er lles P, y caniateir i EAGM gael ei gyfarwyddo o dan reoliad 8.
8. Mae rheoliad 9 yn darparu, pan honnir bod P yn cael neu wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso gan berson arall neu fod P yn cam-drin neu wedi cam-drin person arall ac y mae mesurau amddiffyn i'w cymryd gan gorff GIG neu awdurdod lleol, neu y bwriedir i'r mesurau hynny gael eu cymryd gan y naill neu'r llall, y caiff corff GIG neu awdurdod lleol gyfarwyddo EAGM i gynrychioli P. “Camau Gwarchodol” yw'r mesurau hynny a gymerir yn unol â chanllawiau a ddyroddir o dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970. “Mewn Dwylo Diogel” oedd enw'r canllawiau a oedd yn gyfredol adeg gwneud y Rheoliadau hyn.