(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3245 (Cy.293)).
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi mewn perthynas â Chymru Erthyglau 26 a 27 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau (OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1), i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n ei gwneud yn ofynnol i ffioedd gael eu casglu i dalu'r costau sy'n cael eu peri gan reolaethau swyddogol a gyflawnir, yn gyntaf, ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ L139, 30.4.2004, t.206; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83) ac yn ail, i wirhau cydymffurfedd â'r rheolau lles anifeiliaid a nodir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 93/119/EC (OJ Rhif L340, 31.12.93, t.21) i'r graddau y maent yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir mewn lladd-dai ar gyfer eu bwyta gan bobl.
3. Mae'r Rheoliadau hyn —
(a) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Asiantaeth hysbysu gweithredydd pob lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol ar y ffi sydd bellach i'w chodi o ran y rheolaethau swyddogol hynny (diffinnir y termau “lladd-dy”, “sefydliad trin anifeiliaid hela”, “safle torri”, “rheolaethau swyddogol” a “ffi rheolaethau swyddogol” oll yn rheoliad 2) (rheoliad 3);
(b) yn darparu bod unrhyw ffi rheolaethau swyddogol a hysbysir yn y modd hwnnw yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi (rheoliad 3);
(c) yn caniatáu i'r Asiantaeth wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol eraill mewn mangre benodol, er gwaethaf gorchymyn Llys yn ei gwneud yn ofynnol i weithredydd y fangre dalu ffi rheolaethau swyddogol y mae'n atebol amdani, os yw'r gweithredydd yn methu cydymffurfio â'r gorchymyn (rheoliad 4);
(ch) yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau—
(i) rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad yr wybodaeth honno y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol er mwyn cyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol neu hysbysu'r gweithredydd ohoni, a
(ii) rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad unrhyw wybodaeth y mae'n rhesymol iddi fynnu ei chael i wirhau'r wybodaeth honno (rheoliad 5);
yn darparu bod person sydd —
wrth ymateb i hawliad am wybodaeth neu dystiolaeth, yn rhoi gwybodaeth dwyllodrus neu gamarweiniol gan wybod hynny neu'n ei rhoi'n ddi-hid, neu
heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed am wybodaeth neu dystiolaeth,
yn euog o dramgwydd (rheoliad 5);
4. Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn nodi sut y mae'r ffi'r rheolaethau swyddogol i'w chyfrifo.
5. Mae arfarniad rheoliadol am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.