Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Deddfwriaeth flaenorol

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ail-lunio i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru ddarpariaethau —

(a) Gorchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995(30);

(b) Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(31);

(c) Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg 1998(32);

(ch) Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) 2000(33).

ynghyd â'r diwygiadau i'r offerynnau hynny.

Y prif newidiadau

Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn:

Mae'r Rheoliadau yn awr yn caniatáu bod bison yn cael ei dagio hyd at 9 mis ar ôl ei eni (paragraff 1(3) o Atodlen 1).

Maent yn creu tramgwydd o drosglwyddo tagiau clust rhwng anifeiliaid (paragraff 4(5) o Atodlen 1).

Nid ydynt mwyach yn caniatáu'r defnydd o basbortau lloi dros dro.

Maent yn caniatáu cofrestru gwartheg yn electronig (paragraff 2(3) o Atodlen 2).

Maent yn newid y ffi o £50 am basbort o'r newydd yn lle hen un i ffi sy'n adlewyrchu gwir gost dyroddi (paragraff 4 o Atodlen 3).

Maent yn symleiddio'r darpariaethau ar gofnodion (Atodlen 5).

Y Rheoliadau

Mae'r Rheoliadau gorfodi—

  • Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor (sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cynhyrchion cig eidion a diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(34));

  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran cymhwyso nifer lleiaf posibl o sancsiynau yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol(35);

  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 (sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran tagiau clust, pasbortau a chofrestrau daliadau(36));a

  • Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005 (sy'n awdurdodi system adnabod arbennig ar gyfer anifeiliaid buchol a gedwir at ddibenion diwylliannol a hanesyddol mewn mangreoedd a gymeradwywyd fel a ddarperir yn Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor(37)).

Maent yn darparu ar gyfer hysbysiad o ddaliad i'r Cynulliad Cenedlaethol os cedwir gwartheg yno (rheoliad 3).

Maent yn darparu ar gyfer tagiau clust (rheoliad 4 ac Atodlen 1), cofrestru gwartheg (rheoliad 5 ac Atodlen 2), pasbortau (rheoliad 6 ac Atodlen 3) a hysbysiad o symud a marwolaeth (rheoliad 7 ac Atodlen 4).

Maent yn darparu i gofnodion gael eu cadw yn y ffurf a bennir yn Atodlen 5.

Maent yn darparu ar gyfer gorfodi'r Rheoliadau (Rhan 4). Gorfodir hwy gan yr awdurdod lleol (rheoliad 16).

Mae torri'r Rheoliadau'n dramgwydd, drwy gosb—

(a) ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau;

(b) ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

Mae Arfarniad Rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ac ar y sector gwirfoddol ar gael o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(30)

O.S. 1995/12. Back [30]

(31)

O.S. 1998/871. Back [31]

(32)

O.S. 1998/1796. Back [32]

(33)

O. S. 2000/3339 (Cy.217). Back [33]

(34)

OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1. Back [34]

(35)

OJ Rhif L60, 28.2.1998, t. 78. Back [35]

(36)

OJ Rhif L 163, 30.4.2004, t. 63. Back [36]

(37)

OJ Rhif L 107, 28.4.2005, t. 18. Back [37]