9.—(1) Pan symudir gwartheg oddi ar ddaliad, rhaid i'r ceidwad sicrhau bod y pasbort gwartheg wedi'i farcio â dyddiad y symud a rhaid iddo'i lofnodi yn y lle priodol.
(2) Rhaid iddo roi'r pasbort gwartheg wedi'i gwblhau'n briodol i'r cludwr cyn i'r gwartheg gael eu symud oddi ar y daliad.
(3) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
10.—(1) Rhaid i unrhyw un sy'n cludo gwartheg sicrhau bod pasbort gwartheg dilys gyda phob anifail drwy gydol y daith.
(2) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
(3) Ond, os nad y cludwr yw perchennog yr anifeiliaid, mae'n amddiffyniad iddo i brofi nad oedd unrhyw reswm ganddo i gredu nad oedd pasbort gwartheg dilys gydag anifail.
11.—(1) Pan symudir gwartheg i ddaliad, rhaid i'r cludwr roi pob pasbort gwartheg ar gyfer pob anifail i'r ceidwad newydd (neu, os yw'r symud yn digwydd drwy farchnad, rhaid iddo ei roi i weithredydd y farchnad, a rhaid iddo yntau wedyn ei roi i'r ceidwad newydd).
(2) Rhaid i'r ceidwad newydd neu weithredydd y farchnad sicrhau bod y pasbort gwartheg wedi'i farcio â'r canlynol—
(a) dyddiad y symud i'r daliad,
(b) enw a chyfeiriad y ceidwad (neu, yn achos marchnad, gweithredydd y farchnad) a Rhif y daliad, gan ddefnyddio os yw hynny'n ymarferol y cod bar a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol,
a rhaid iddo'i lofnodi.
(3) Rhaid iddo wneud hyn o fewn 36 o oriau ar ôl i'r anifail gyrraedd.
(4) Ni chaiff neb symud yr anifail oddi ar y daliad nes bod y pasbort wedi'i gwblhau yn unol â'r paragraff hwn.
(5) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
12.—(1) Yn achos gwartheg a ddygir i Gymru o'r tu allan i Brydain Fawr, caniateir symud yr anifail o'r fan y daeth i mewn i Gymru i'r daliad lle y mae'n rhaid ei gofrestru yn unol â pharagraff 4 neu 5 o Atodlen 2 gan ddefnyddio'i basbort (os oes un ganddo) neu ei ddogfen symud.
(2) Os oes ganddo basbort, rhaid i'w geidwad ei gwblhau yn unol â'r Atodlen hon, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
13.—(1) Pan fydd gwartheg yn cael eu hallforio i drydydd gwledydd rhaid i'r ceidwad anfon y pasbortau gwartheg at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn saith niwrnod, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
(2) Pan fydd gwartheg yn cael eu cludo'r tu allan i Brydain Fawr i gyrchfan yn yr Undeb Ewropeaidd, rhaid i'r cludwr sicrhau bod ei basport gyda phob anifail, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.
14.—(1) Mae gweithredydd marchnad neu grynhoad anifeiliaid arall yn cyflawni tramgwydd os derbynnir unrhyw wartheg heb basbort gwartheg dilys (neu, yn achos gwartheg a fewnforir, dogfennau'n caniatáu iddynt gael eu symud).
(2) Yn y paragraff hwn a'r paragraff canlynol ystyr “crynhoad anifeiliaid” yw achlysur pan fydd anifeiliaid yn cael eu casglu at ei gilydd at un neu fwy o'r dibenion canlynol—
(a) gwerthiant, sioe neu arddangosfa;
(b) llwyth ar ei daith ymlaen; neu
(c) archwiliad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol.
15. Caiff swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol (neu, yn achos anifail mewn marchnad, crynhoad anifeiliaid neu ladd-dy, caiff arolygydd) ddyroddi trwydded ar unrhyw adeg i symud gwartheg heb basbort gwartheg os yw wedi'i fodloni bod angen gwneud hynny ac nad yw'n ymarferol i gael gafael ar un.
Rheoliad 7
1.—(1) Rhaid i geidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn tri diwrnod o unrhyw symud o wartheg i ddaliad neu oddi arno—
(a) drwy ddefnyddio gwefan ryngweithiol y Cynulliad Cenedlaethol;
(b) drwy ddefnyddio meddalwedd a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol; neu
(c) yn ysgrifenedig, drwy ddefnyddio'r cerdyn symud a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol,
a rhaid darparu'r holl wybodaeth sy'n ofynnol.
(2) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
2.—(1) Pan gigyddir anifail mewn lladd-dy, rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu'r farwolaeth drwy lenwi manylion y farwolaeth yn y pasbort a'i roi i'r milfeddyg swyddogol neu i'w gynrychiolydd ar adeg y cigydda.
(2) Os cigyddir anifail y tu allan i ladd-dy ond ei fod yn cael ei anfon i ladd-dy er mwyn ei drin, rhaid i'r ceidwad lenwi'r manylion am y farwolaeth yn y pasbort a'i anfon gyda'r anifail i'r lladd-dy, a rhaid i feddiannydd y lladd-dy hysbysu'r farwolaeth drwy roi'r pasbort i'r milfeddyg swyddogol neu i'w gynrychiolydd pan fydd yr anifail yn cyrraedd y lladd-dy.
(3) Yn unrhyw achos arall, pan fydd anifail yn marw neu'n cael ei ladd, rhaid i'r ceidwad hysbysu'r farwolaeth drwy lenwi manylion am y farwolaeth yn y pasbort a'i anfon at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn saith niwrnod.
(4) Os nad oes pasbort gwartheg gan anifail, rhaid i'r ceidwad hysbysu ei farwolaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o fewn saith niwrnod, gan gynnwys y Rhif tag clust, dyddiad y farwolaeth a'r daliad lle y bu farw.
(5) Yn y paragraff hwn ystyr “milfeddyg swyddogol” yw'r person a benodir i'r swydd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
(6) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
Rheoliad 8
1.—(1) Yn unol ag Erthygl 7(1), yr indent cyntaf ac Erthygl 7(4) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 (cadw cofrestr cyfredol) mae unrhyw berson sy'n methu â llenwi cofrestr yn unol â'r paragraff hwn, yn euog o dramgwydd.
(2) Rhaid iddo lenwi'r gofrestr ar yr adegau canlynol—
(a) yn achos symud anifail i ddaliad neu oddi arno, o fewn 36 o oriau ar ôl y symud;
(b) yn achos genedigaeth anifail mewn buches odro, o fewn saith niwrnod ar ôl yr enedigaeth;
(c) yn achos genedigaeth anifail nad yw mewn buches odro, o fewn 30 o ddiwrnodau ar ôl yr enedigaeth;
(ch) yn achos marwolaeth anifail, o fewn 7 niwrnod ar ôl y farwolaeth;
(d) yn achos ailosod tag clust o'r newydd pan fo newid yn Rhif y tag clust, o fewn 36 o oriau ar ôl ei ailosod.
(3) Rhaid i'r gofrestr gynnwys yr wybodaeth yn Erthygl 8 o 911/2004 ac, yn ychwanegol at hynny, manylion pwy yw'r fam (yn achos trosglwyddo embryo, manylion pwy yw'r fam fenthyg ac, os yw'n hysbys, y fam enetig)(29) (yn achos anifail a anwyd cyn 1 Ebrill 1995 nad oes ganddo dag clust, rhaid cofnodi'r marc adnabod yn hytrach na'r Rhif tag clust).
2. Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio ag Erthygl 7(3) (darparu gwybodaeth) yn euog o dramgwydd.
3.—(1) At ddibenion Erthygl 7(4) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, rhaid cadw'r gofrestr am 10 mlynedd yn achos fferm a 3 blynedd mewn unrhyw achos arall, ac yn y ddau achos o ddiwedd y flwyddyn galendr y gwnaed y cofnod diwethaf ynddi; a rhaid cadw unrhyw gofnod a wnaed o dan Orchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 am yr un cyfnod.
(2) Mae methu â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.
Mae'r wybodaeth sy'n ofynnol a fformat addas ar gael yn http//defraweb/animalh/tracing/cattle/passport/records/records-index.htm Back [29]