3.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sy'n dechrau cadw gwartheg ar y daliad hwnnw, ac unrhyw berson sy'n cymryd y feddiannaeth drosodd o ddaliad lle y cedwir gwartheg, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn un mis—
(a) o'i enw a'i gyfeiriad; a
(b) cyfeiriad y daliad.
(2) Pan fydd yn derbyn hysbysiad o dan baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi nod buches ar gyfer pob daliad.
(3) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw newid i'r wybodaeth ym mharagraff (1) o fewn un mis.
4. Mae Atodlen 1 (tagiau clust) yn effeithiol.
5. Mae Atodlen 2 (cofrestru gwartheg) yn effeithiol.
6. Mae Atodlen 3 (pasbortau gwartheg) yn effeithiol.
7. Mae Atodlen 4 (hysbysiad o symud neu farwolaeth) yn effeithiol.
8. Mae Atodlen 5 (cofnodion) yn effeithiol.
9. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol godi tâl rhesymol am ddarparu gwybodaeth a gaiff ei storio yn y gronfa ddata sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 ac a ddarperir yn unol ag ail baragraff Erthygl 3 o'r Rheoliad hwnnw.
10.—(1) Caiff arolygydd, wrth iddo ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir amdani, ar bob adeg resymol fynd ar dir neu i fangre er mwyn canfod a aethpwyd yn groes i'r canlynol —
(a) y Rheoliadau hyn;
(b) Teitl I o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000;
(c) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 (sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran cymhwyso y lefel isat o sancsiynau yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol(15));
(ch) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 509/1999 (ynghylch estyn y cyfnod hiraf a osodwyd ar gyfer rhoi tagiau clust ar fison(16))
(d) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004; ac
(dd) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005,
ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw le, gosodiad, cerbyd, llong, llestr, cwch, bad, hofranlong neu awyren.
(2) Dim ond os caiff y pwer ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r darpariaethau ym mharagraff (1) y mae pwer i fynd i fangre yn cynnwys y pwer i fynd i fangre ddomestig.
(3) Caiff arolygydd gyflawni gwiriadau ac archwiliadau sy'n angenrheidiol ar gyfer gorfodi'r darpariaethau ym mharagraff (1), a chaiff yn benodol—
(a) casglu, corlannu ac arolygu unrhyw wartheg, a chaiff ofyn i'r ceidwad drefnu casglu, corlannu a dal gafael ar wartheg;
(b) cymryd samplau;
(c) archwilio unrhyw gofnodion ar ba ffurf bynnag y bônt a chymryd copïau o'r cofnodion hynny;
(ch) symud a chadw unrhyw gofnodion neu ddogfennau (gan gynnwys pasbortau) sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn;
(d) cael mynediad at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â chofnodion, a'u harchwilio a gwirio eu gweithrediad a gall ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano;
(dd) os cedwir cofnodion drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol bod y cofnodion yn cael eu cynhyrchu ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;
(e) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dagiau clust nas defnyddiwyd, a chofnod o'u Rhif au gael eu dangos; ac
(f) mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd neu unrhyw berson arall y mae o'r farn bod ei angen gydag ef.
11. Yn unol ag ail baragraff Erthygl 22(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, caiff swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno i geidwad anifeiliaid ar ddaliad hysbysiad yn cyfyngu symudiadau gwartheg i'r daliad ac ohono os yw wedi'i fodloni bod angen hyn er mwyn gorfodi'r Rheoliad hwnnw, y Rheoliadau hyn, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98, Rhif 509/1999, Rhif 911/2004 a Rhif 644/2005, a bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r hysbysiad hwnnw'n euog o dramgwydd.
12. Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod milfeddygol a'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 1(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98.
13.—(1) Mae person sydd—
(a) yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;
(b) heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sydd yn gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol yn gofyn amdano neu amdani er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau;
(c) yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol; neu
(ch) yn methu â dangos pasbort, dogfen neu gofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn;
yn euog o dramgwydd.
(2) Mae unrhyw berson sy'n rhoi gwybodaeth anwir yn unrhyw hysbysiad a wneir o dan y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd.
14.—(1) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforaethol; neu
(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
15. Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol—
(a) o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hirach na thri mis, neu'r ddau;
(b) ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
16.—(1) Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo y bydd mewn unrhyw achos penodol neu ddosbarth o achosion yn eu gorfodi hwy ei hunan.
17. Mae'r canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru —
(a) Gorchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995(17);
(b) Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(18);
(c) Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg 1998(19);
(ch) Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 1998(20);
(d) Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 1999(21);
(dd) Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) 2000(22);
(e) Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002(23);
(f) Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) (Diwygio) 2002(24);
(ff) Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 2006(25); a
(g) Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) 2006(26).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(27)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007
OJ Rhif L60, 28.2.1998, t. 78. Back [15]
OJ Rhif L60, 9.3.1999, t. 53, Back [16]
O. S. 1995/12. Back [17]
O. S. 1998/871. Back [18]
O. S. 1998/1796. Back [19]
O. S. 1998/2969. Back [20]
O. S. 1999/1339. Back [21]
O. S. 2000/3339 (Cy.217). Back [22]
O.S. 2002/304 (Cy. 35). Back [23]
O. S. 2002/273 (Cy.29). Back [24]
O. O. 2006/1538. Back [25]
O. S. 2006/1539. Back [26]