Offerynnau Statudol
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Wedi'u gwneud
13 Mawrth 2007
Yn dod i rym
6 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(2) ac o ran mesurau yn y maes milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd(3).
Mae'r Trysorlys yn cydsynio i'r Rheoliadau hyn yn unol ag adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(4).
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Ebrill 2007.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan awdurdod lleol;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) o ran ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid, boed hynny'n barhaol neu dros dro, gan gynnwys pan gludir hwy neu pan fyddant mewn marchnad;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;
ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y mae gwartheg yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod;
“deddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol” (“previous cattle tagging legislation”) yw—
ystyr “dilys” (“valid”), o ran pasbort gwartheg, yw pasbort gwartheg a gafodd ei gwblhau'n gywir a'i lofnodi yn y lle priodol yn gywir gan bob ceidwad i'r anifail a bod Rhif adnabod a disgrifiad o'r anifail yn y pasbort yn cyfateb i dagiau clust yr anifail;
ystyr “gwartheg” (“cattle”) yw anifeiliaid buchol, gan gynnwys bison a byfflo;
ystyr “pasbort gwartheg” (“cattle passport”) yw—
pasbort gwartheg a ddyroddwyd yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban o dan Erthygl 6(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000;
pasbort gwartheg a ddyroddwyd o dan Orchymyn Pasbortau Gwartheg 1996(10); ac
dogfen symud a ddyroddwyd o dan Reoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) 2000(11) neu'r mesur cyfatebol yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon;
ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000” (“Regulation (EC) No. 1760/2000”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor (sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac sy'n ymwneud â labelu cynhyrchion cig eidion ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(12));
(2) Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded, hysbysiad neu gofrestriad a ddyroddir o dan—
(a) y Rheoliadau hyn,
(b) Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000;
(c) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 (sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran tagiau clust, pasbortau a chofrestrau daliadau(13)); neu
(ch) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005 (sy'n awdurdodi system adnabod arbennig ar gyfer anifeiliaid buchol a gedwir at ddibenion diwylliannol a hanesyddol mewn mangreoedd a gymeradwywyd fel a ddarperir yn Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor(14)),
fod yn ysgrifenedig, caniateir i unrhyw un ohonynt gael ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, cael ei ddiwygio, cael ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.
O. S. 2005/2766. Back [2]
O. S. 2003/1246. Back [3]
1973 p. 51. Back [4]
O. S. 1998/871. Back [5]
O. S. 1995/12. Back [6]
O. S. 1990/1867. Back [7]
O. S. 1984/1943. Back [8]
O. S. 1984/2036. Back [9]
O. S. 1996/1686. Back [10]
O. S. 2000/3339 (Cy.217), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2002/273 (Cy.29). Back [11]
OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1. Back [12]
OJ Rhif L 163, 30.4.2004, t. 65. Back [13]
OJ Rhif L 107, 28.4.2005, t. 18. Back [14]