(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan adrannau 30, 34, 64 a 65 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p.9) (“y Ddeddf”). Maent yn darparu ar gyfer ymchwil penodol, sy'n ymwneud â phobl heb y galluedd i gydsynio iddo, i gyflawni'n gyfreithlon yr hyn y byddai fel arall yn rhaid cydymffurfio â gofynion adran 30 o'r Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran cyflawni ymchwil yng Nghymru.
Mae rheoliad 1 yn darparu i'r Rheoliadau ddod i rym ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyo protocolau ymchwil o dan y Rheoliadau i gael eu gwneud a'u penderfynu ac at bob diben arall ar 1 Hydref 2007.
Mae rheoliad 2 yn darparu bod y Rheoliadau'n gymwys pan fo prosiect ymchwil wedi dechrau cyn 1 Hydref 2007 a bod person (“P”) wedi cydsynio, cyn 31 Mawrth 2008, i gymryd rhan yn y prosiect ond ei fod wedyn wedi colli'r galluedd i barhau i gydsynio.
Mae rheoliad 3 yn darparu y gellir cyflawni ymchwil sy'n defnyddio gwybodaeth neu ddeunydd a gasglwyd cyn i P golli galluedd. Rhaid bod yr wybodaeth neu'r deunydd naill ai'n ddata o fewn ystyr Deddf Diogelu Data 1998 (p.29) neu'n ddeunydd sy'n gelloedd dynol neu'n DNA neu'n eu cynnwys. Yn ychwanegol, mae'n darparu bod yn rhaid cydymffurfio â gofynion Atodlenni 1 a 2.
Mae Atodlen 1 yn darparu bod yn rhaid bod corff priodol wedi cymeradwyo protocol ar gyfer y prosiect o ran ymchwil sydd i'w gyflawni ynglŷn â pherson sydd wedi cydsynio i gymryd rhan ac yna wedi colli galluedd. Rhaid bod y corff priodol hefyd wedi'i fodloni bod trefniadau rhesymol ar gael i sicrhau y byddir yn cydymffurfio ag Atodlen 2.
Diffinnir “corff priodol” yn rheoliad 1 drwy gyfeirio at Reoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007 2007/833 (Cy.71). “Corff priodol” yw pwyllgor—
(i) a sefydlwyd i gynghori ar foeseg ymchwil ymwthiol ynglyn â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo neu i gynghori ar faterion sy'n cynnwys y foeseg honno; a
(ii) a gydnabyddir at y dibenion hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae i “ymchwil ymwthiol” yr ystyr a roddir i “intrusive research” yn adran 30(2) o'r Ddeddf.
Mae Atodlen 2 yn gosod gofynion o ran ymgynghori ynghylch cyfranogiad P yn y prosiect, o ran parchu ei ddymuniad a'i wrthwynebiad ac o ran tybio bod ei fuddiannau'n gorbwyso buddiannau gwyddoniaeth a chymdeithas.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a gosodwyd copi ohono yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.