Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Plant (Perfformiadau) 1968 o ran plant naw oed neu drosodd er mwyn codi terfyn uchaf y cyfnod y caiff plentyn gymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer parhaus heb doriad i bedair awr. Maent hefyd yn estyn yr oriau a ganiateir yn ystod y diwrnod gwaith a chyfanswm yr oriau y caiff y plant hyn fod yn bresennol yn y man lle cynhelir y perfformiad neu'r ymarfer. Maent yn codi'r cyfyngiad sy'n gwahardd rhoi trwydded os yw plentyn wedi gweithio mwy na nifer penodedig o ddyddiau yn ystod y deuddeng mis blaenorol.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn estyn yr addasiadau presennol i'r darpariaethau addysg i bob perfformiad neu weithgaredd. Am bob cyfnod o bedair wythnos, neu os yw'r cyfnod yn llai na phedair wythnos, am y cyfnod hwnnw, bydd y gofynion addysg yn cael eu bodloni os yw'r plentyn yn cael addysg am o leiaf chwe awr yr wythnos, ac os yw gweddill yr oriau addysg gofynnol yn digwydd ar ddyddiau heblaw pan na fyddai'n ofynnol i'r plentyn fynd i'r ysgol fel arfer, yn ddarostyngedig i uchafswm o bum awr o addysg yn digwydd ar unrhyw ddiwrnod.

Mae'r Rheoliadau yn gosod cyfyngiadau ychwanegol ar roi trwyddedau o ran addasrwydd y matron ac yn ei gwneud yn ofynnol cael adroddiad gan bennaeth unrhyw ysgol a fynychir gan y plentyn. Maent yn ychwanegu amodau pellach sy'n gymwys i bob trwydded, yn ei gwneud yn ofynnol darparu'r testun i'r matron ac yn ei gwneud yn ofynnol cadw at bolisiau perthnasol diogelu plant.