Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Wedi'i wneud
6 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 17(3) o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 —
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Mabwysiadu 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. 2 Ebrill 2007 yw'r diwrnod a benodwyd i adran 13 o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006 ddod i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â mabwysiadau a darpar fabwysiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru godi ffi o dan adran 91A o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 mewn cysylltiad â hwy.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 2 Ebrill 2007 adran 13 o Ddeddf Plant a Mabwysiadu 2006(2), i'r graddau y mae'n ymwneud â mabwysiadau a darpar fabwysiadau y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) godi ffi mewn cysylltiad â hwy ar fabwysiadwyr a darpar fabwysiadwyr o dan adran 91A o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(3). Mabwysiadau a darpar fabwysiadau yw'r rhain y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â hwy fel Awdurdod Canolog o dan Gonfensiwn yr Hâg ar Amddiffyn Plant a Chydweithrediad mewn cysylltiad â Mabwysiadu Rhwng Gwledydd 1993.