Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 728 (Cy.64)

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

6 Mawrth 2007

Yn dod i rym

1 Ebrill 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd—

(a)

gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986(1) i unrhyw Weinidog a awdurdodwyd, o dan neu yn rhinwedd y darpariaethau statudol hynny a bennir yn adran 42(1)(2) o'r Ddeddf honno neu y cymhwysir yr adran honno iddynt(3), i adennill costau a dynnir gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy'n arferadwy bellach gan y Cynulliad Cenedlaethol(4) o ran Cymru;

(b)

i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”)(5) fel y'i mewnosodir yn Neddf 1990 gan adran 1(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995(6), sef pwerau sy'n arferadwy bellach, o ran ardaloedd awdurdodau cynllunio lleol penodol o fewn Cymru(7), gan y Cynulliad Cenedlaethol(8); ac

(c)

i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr awdurdod priodol, gan adran 303A(5) o Ddeddf 1990 fel y'i diwygiwyd mewn perthynas ag ardaloedd awdurdodau cynllunio lleol penodol o fewn Cymru(9) gan adran 118(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“Deddf 2004”) a pharagraff 11 o Atodlen 6 iddi(10).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “gweithdrefn gymwys” yw gweithdrefn gymwys o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying procedure” yn adran 303A(1A) o Ddeddf 1990(11), ac a gynhelir mewn perthynas â'r ardal awdurdod cynllunio lleol y mae'r diddymiadau a geir yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 yn effeithiol mewn cysylltiad ag ef yn unol ag erthygl 2(g) o'r Gorchymyn hwnnw;

  • ystyr “ymchwiliad cymwys” yw ymchwiliad cymwys o fewn yr ystyr sydd i'r term “qualifying inquiry” yn adran 303A(1) o Ddeddf 1990 (i'r graddau y mae'r adran honno'n parhau i fod ag effaith heb y diwygiad a fewnosodir gan adran 118 o Ddeddf 2004, a pharagraff 11(2) o Atodlen 6 iddi), ac a gynhelir mewn perthynas ag ardal awdurdod cynllunio lleol y mae'r darpariaethau a geir yn Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005(12) yn parhau i fod yn effeithiol mewn cysylltiad ag ef yn unol ag erthygl 3(3) o'r Gorchymyn hwnnw;

  • ystyr “ymchwiliad lleol” (“local inquiry”) yw ymchwiliad y mae gan y Cynulliad Cenedlaethol hawl i adennill ei gostau mewn perthynas ag ef a hynny o dan neu yn rhinwedd adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(13) (darpariaeth gyffredinol o ran costau ymchwiliadau) neu o dan adran 69(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno).

Y personau, yr ymchwiliadau a'r gweithdrefnau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—

(a) ymchwiliad lleol;

(b) unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ymchwiliad cymwys, neu wedi'i benodi fel unrhyw un o'r personau a benodwyd felly ac sydd i gynnal ymchwiliad cymwys; ac

(c) unrhyw berson sydd wedi'i benodi gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal gweithdrefn gymwys.

Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau lleol

4.  Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986(14) ar gyfer ymchwiliad lleol yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £722.

Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau cymwys

5.  Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer ymchwiliad cymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £679.

Y swm dyddiol safonol ar gyfer gweithdrefnau cymwys

6.  Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 303A(5) o Ddeddf 1990 ar gyfer gweithdrefn gymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £640.

Dirymiadau ac arbedion

7.—(1) Dirymir Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002(15) ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad yr oedd y Rheoliadau hynny 'n gymwys iddo ac a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2007 ac sy'n parhau wedi'r dyddiad hwnnw.

(2) Dirymir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005(16) ac eithrio mewn perthynas ag ymchwiliad cymwys yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys iddo ac a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2007 ac sy'n parhau wedi'r dyddiad hwnnw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(17)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) wedi'i awdurdodi i adennill oddi wrth awdurdodau lleol gostau y mae wedi'u tynnu mewn cysylltiad:

(a) ag ymchwiliadau a gynhelir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (gan gynnwys ymchwiliadau gorchymyn prynu gorfodol, y cymhwysir darpariaethau perthnasol Deddf 1972 iddynt gan Ddeddf Caffael Tir 1981) a Deddf Draenio Tir 1991 (“Ymchwiliadau Lleol”);

(b) ag ymchwiliadau cymwys fel y'u diffinnir gan adran 303A(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (ymchwiliadau a gynhelir mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Unedol ac ystyriaeth o wrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml) (“Ymchwiliadau Cymwys”); ac

(c) â gweithdrefnau cymwys fel y'u diffinnir gan adran 303A(1A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (archwiliadau annibynnol a gynhelir mewn perthynas â Chynlluniau Datblygu Lleol ac ystyriaeth o wrthwynebiadau i gynlluniau parth cynllunio syml)(“Gweithdrefnau Cymwys”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r symiau dyddiol safonol y gellir eu hadennill gan y Cynulliad Cenedlaethol am bob dydd—

(a) y bydd Ymchwiliad Lleol yn eistedd neu y bydd y person a benodwyd i gynnal yr Ymchwiliad Lleol wrthi mewn ffordd arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â'r Ymchwiliad Lleol; neu

(b) y bydd y person a benodwyd i gynnal Ymchwiliad Cymwys neu, yn ôl y digwydd, Gweithdrefn Gymwys wrthi'n cynnal yr Ymchwiliad Cymwys neu'r Weithdrefn Gymwys, neu wrthi mewn ffordd arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig â'r Ymchwiliad Cymwys neu â'r Weithdrefn Gymwys.

Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag Ymchwiliadau Lleol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £722. Mae'r swm hwn yn disodli'r swm o £645, a ragnodwyd gan Reoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2780) (Cy.264) (“Rheoliadau 2002”) ar gyfer ymchwiliadau'n cychwyn ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny.

Y swm dyddiol safonol mewn perthynas ag Ymchwiliadau Cymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny yw £679. Yr un yw'r swm hwn â'r swm a ragnodwyd yn flaenorol gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/371) (Cy.35) (“Rheoliadau 2005”) ar gyfer Ymchwiliadau Cymwys yn cychwyn ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny.

Y swm dyddiol safonol mewn perthynas â Gweithdrefnau Cymwys yw £640. Dyma'r tro cyntaf i swm dyddiol safonol gael ei ragnodi ar gyfer Gweithdrefnau Cymwys.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r darpariaethau mewn perthynas â symiau dyddiol safonol yn Rheoliadau 2002 a Rheoliadau 2005, ond maent yn cynnwys arbedion mewn cysylltiad ag Ymchwiliadau Lleol ac Ymchwiliadau Cymwys a gychwynnodd cyn 1 Ebrill 2007 ac sy'n parhau.

(1)

1986 p.63. Back [1]

(2)

Diddymwyd adran 42(1)(b) gan Ran I o Atodlen 3 i Ddeddf Cydgyfnerthu Dŵr (Darpariaethau Canlyniadol) 1991 (p.60) a diddymwyd adran 42(1)(d) gan Ran II o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diddymwyd adran 129(1)(d) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p.27) (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno), y mae adran 42(1)(c) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 yn cyfeirio ati, gan Atodlen 3 i Ddeddf Ymchwiliadau 2005 (p.12). Back [2]

(3)

Mae adran 69(7) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (p.59) yn darparu bod adran 42 o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 yn gymwys pan fydd y naill neu'r llall o “the Ministers” wedi'i awdurdodi'n briodol i adennill costau a dynnwyd gan y Gweinidog hwnnw fel y mae'n gymwys pan fydd Gweinidog wedi'i awdurdodi felly yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad a bennir yn adran 42(1) o Ddeddf 1986. Mae adran 69(5) o Ddeddf 1991 yn awdurdodi'r naill neu'r llall o “the Ministers”, h.y. yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (gweler adran 72(1) o Ddeddf 1991 a Gorchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794) am diffiniad o “the Ministers”) i adennill costau a dynnir gan y Gweinidog hwnnw mewn perthynas ag ymchwiliad a gynhelir gan y Gweinidog. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Back [3]

(4)

Mae Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)) ac Atodlen 1 iddo, yn darparu i bwerau Gweinidog o dan adran 42 o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 fod yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol ag unrhyw un o Weinidogion y Goron y maent yn arferadwy ganddo. Back [4]

(7)

Gweler y troednodyn i'r diffiniad o “ymchwiliad cymwys” yn rheoliad 2. Back [7]

(8)

Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000, erthygl 4; gweler y cofnod am Ddeddf 1990 yn Atodlen 3 i Orchymyn 2000. Back [8]

(9)

Gweler y troednodyn i'r diffiniad o “ ymchwiliad cymwys” yn rheoliad 2. Back [9]

(11)

Mewnosodwyd adran 303(1A) yn Neddf 1990 gan adran 118 o Ddeddf 2004 a pharagraff 11 o Atodlen 6 iddi. Back [11]

(12)

O.S.2005/2847 (C.118). Drwy erthygl 2(e) o'r Gorchymyn, daeth y diwygiad i adran 303A o'r Ddeddf a wnaed gan Ddeddf 2004 i rym o ran Cymru ar 12 Hydref 2005. Er hynny, drwy erthygl 3(3) o'r Gorchymyn hwnnw, mae darpariaethau adran 303A fel y'i mewnosodir gan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995 yn parhau i fod mewn grym mewn perthynas â'r ardaloedd awdurdodau cynllunio lleol y mae'r darpariaethau yn y Ddeddf 1990 sy'n ymwneud â pharatoi, newid a rhoi cynlluniau datblygu unedol newydd yn lle hen rai yn parhau i fod yn gymwys. Effaith gyffredinol y darpariaethau niferus y cyfeirir atynt uchod yw, pan fydd awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru yn ddarostyngedig i gyfundrefn y cynllun datblygu lleol cynhelir archwiliad annibynnol a bydd gan y Cynulliad Cenedlaethol bŵer i ragnodi swm dyddiol safonol mewn perthynas ag ef. Pan fydd awdurdod cynllunio lleol yn parhau i fod yn ddarostyngedig i gyfundrefn y cynllun datblygu unedol, fodd bynnag, cynhelir ymchwiliad lleol, pan fydd yn briodol, a bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i fod â phŵer i ragnodi swm dyddiol safonol mewn perthynas ag ef. Back [12]

(13)

1972 p.70. Back [13]

(14)

1986 p.63. Back [14]

(15)

O.S.2002/2780 (Cy.264). Back [15]

(16)

O.S.2005/371 (Cy.35). Back [16]