Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 4 Lleoli ar y raddfa ficro

14.  Dylid dilyn y canllawiau canlynol, cyn belled ag y bo'n ymarferol—

(a) dylai'r llif o amgylch profiedydd samplu y fewnfa fod yn ddigyfyngiad (ac, ar gyfer samplu osôn, yn rhydd mewn cylchran o 270° o leiaf), heb unrhyw rwystrau sy'n effeithio ar lif yr aer yng nghyffiniau'r samplwr (yn arferol rhai metrau i ffwrdd o adeiladau, balconïau, coed ac unrhyw rwystrau eraill a hynny â mwy na dwywaith gymaint y gwahaniaeth rhwng uchder y rhwystr ac ymestyn y samplwr ac o leiaf 0.5 m o'r adeilad agosaf mewn achos pwyntiau samplu sy'n cynrychioli ansawdd aer yn llinell yr adeilad);

(b) yn gyffredinol, dylai pwynt samplu'r fewnfa fod rhwng 1.5 m (y parth anadlu) a 4 m uwchlaw'r ddaear. Caiff safleoedd uwch fod yn angenrheidiol hefyd (hyd at 8 m) mewn rhai amgylchiadau ac mewn mannau coediog. Caiff lleoliad uwch fod yn briodol hefyd os yw'r orsaf yn gynrychioliadol o ardal fawr;

(c) ni ddylid lleoli profiedydd y fewnfa yn agos at ffynonellau er mwyn osgoi derbyn allyriannau'n uniongyrchol heb iddynt fod wedi eu cymysgu gydag aer amgylchynol;

(ch) dylai allfa wacáu'r samplwr fod wedi'i lleoli er mwyn osgoi ailgylchu nwyon llosg i fewnfa'r samplwr;

(d) mewn perthynas â lleoli sampleri sy'n gysylltiedig â thraffig—

(i) ar gyfer pob llygrydd, dylai pwyntiau samplu o'r fath fod o leiaf 25 m oddi wrth ymyl prif gyffyrdd ac o leiaf 4 m o ganol y lôn draffig agosaf,

(ii) ar gyfer nitrogen deuocsid a charbon monocsid, ni ddylai'r mewnfeydd fod yn fwy na 5 m oddi wrth ymyl y cwrb, a

(iii) ar gyfer PM10, plwm, bensen a llygryddion Grŵp B, dylai mewnfeydd fod wedi eu lleoli er mwyn bod yn gynrychioliadol o ansawdd aer wrth ymyl llinell yr adeiladau;

(dd) ar gyfer osôn, dylid lleoli profiedydd y fewnfa yn ddigon pell oddi wrth ffynonellau fel ffwrneisi a ffliwiau llosgi a dros 10 m oddi wrth y ffordd agosaf, gyda'r pellter yn cynyddu yn ôl dwysedd y traffig;

(e) ar gyfer mesur dyddodion mewn ardaloedd cefndir gwledig mewn perthynas â llygryddion Grwp B a llygryddion eraill sy'n disgyn o fewn rheoliadau 19 ac 20, dylid cymhwyso canllawiau a meini prawf Monitro a Gwerthuso Llygryddion Ewrop ar yr amod bod hynny'n ymarferol.

15.  Gall y ffactorau canlynol gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd—

(a) ffynonellau sy'n ymyrryd;

(b) diogelwch;

(c) hygyrchedd;

(ch) a oes pŵer trydan a chysylltiadau ffôn ar gael;

(d) gwelededd y safle mewn perthynas â'i amgylchoedd;

(dd) diogelwch y cyhoedd a'r gweithredwyr;

(e) a yw'n ddymunol cyd-leoli pwyntiau samplu ar gyfer gwahanol lygryddion;

(f) gofynion cynllunio.

RHAN 5 Dogfennaeth ac adolygu dewis safle

16.  Dylai gweithdrefnau dewis safleoedd gael eu dogfennu'n llawn adeg y cam dosbarthu drwy gyfrwng megis ffotograffau pwynt-cwmpawd o'r ardal amgylchynol a map manwl. Dylid adolygu safleoedd yn rheolaidd gan ailadrodd y gwaith dogfennu i sicrhau bod y meini prawf dewis yn cael eu bodloni o hyd.

17.  O ran osôn, mae hyn yn gofyn am sgrinio a dehongli'r data monitro'n briodol yng nghyd-destun y prosesau meteorolegol a ffotocemegol sy'n effeithio ar grynodiadau osôn sy'n cael eu mesur yn y safle priodol.

Rheoliad 15(2)

ATODLEN 6 Isafsymiau'r pwyntiau samplu

RHAN 1 Llygryddion Grŵp A: gwerthoedd terfyn yn seiliedig ar iechyd pobl a throthwyon rhybuddio

1.  Mae'r Rhan hon yn nodi isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog o lygryddion Grŵp A i asesu cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu iechyd pobl a throthwyon rhybuddio mewn parthau os mesuriadau sefydlog yw'r unig ffynhonnell wybodaeth.

Ffynonellau gwasgaredig

Poblogaeth y parth (miloedd) Os yw'r crynodiadau yn uwch na'r trothwy asesu uchafa Os yw uchafswm y crynodiadau rhwng y trothwyon asesu uchaf ac isaf Ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid mewn crynoadau lle mae'r crynodiadau uchaf islaw'r trothwyon asesu isaf
a

Ar gyfer NO2 a PM10 i gynnwys o leiaf un orsaf cefndir trefol ac un orsaf traffig-gyfeiriedig; mae'r gofyniad hwn hefyd yn gymwys i bensen a charbon monocsid ar yr amod nad yw'n cynyddu nifer y pwyntiau samplu.

0—249 1 1 ddim yn gymwys
250—499 2 1 1
500—749 2 1 1
750—999 3 1 1
1,000—1,499 4 2 1
1,500—1,999 5 2 1
2,000—2,749 6 3 2
2,750—3,749 7 3 2
3,750—4,749 8 4 2
4,750—5,999 9 4 2
6,000 neu fwy 10 5 3

Ffynonellau pwyntiau

2.  Ar gyfer asesu llygredd wrth ymyl ffynonellau pwyntiau, dylai nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gael ei gyfrifo gan roi ystyriaeth i ddwysedd yr allyriannau, patrymau dosbarthiad tebygol llygredd aer amgylchynol a phosibilrwydd o ran pa mor agored yw'r boblogaeth i lygredd.