Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 3 Penderfynu pan fydd gormodiant uwchlaw trothwyon asesu

1.  Rhaid i ormodiannau uwchlaw'r trothwyon asesu uchaf ac isaf gael eu penderfynu ar sail crynodiadau dros y pum mlynedd blaenorol pan fo data digonol ar gael. Bernir bod gormodiant uwchlaw trothwy asesu os yw wedi bod uwchlaw yn ystod o leiaf tair blynedd ar wahân allan o'r bum mlynedd blaenorol.

2.  Pan fo llai na phum mlynedd o ddata ar gael, caiff ymgyrchoedd mesuriadau a gynhelir am gyfnodau byr yn ystod y flwyddyn ac mewn lleoliadau sy'n debygol o fod yn nodweddiadol o'r crynodiadau uchaf gael eu cyfuno gyda'r canlyniadau a gafwyd oddi wrth restri o ollyngiadau a gwaith modelu i benderfynu ar ormodiant uwchlaw'r trothwyon asesu uchaf ac isaf.

Rheoliad 15(1)(b) Rheoliad 19(4)(b) Rheoliad 20(3)(b)

ATODLEN 5 Lleoli pwyntiau samplu

RHAN 1 Lleoli ar y raddfa facro ar gyfer llygryddion Grŵp A

Pwyntiau samplu ar gyfer diogelu iechyd pobl

1.  Dylai pwyntiau samplu a fwriadwyd ar gyfer diogelu iechyd pobl gael eu lleoli i ddarparu data ynglyn â'r—

(a) ardaloedd yn y parthau lle y mae'r crynodiadau uchaf yn digwydd ac y mae'r boblogaeth yn debygol o fod wedi bod yn agored iddynt naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol am gyfnod sylweddol o ran cyfnod cyfartaleddu'r gwerth terfyn; a

(b) crynodiadau mewn ardaloedd eraill yn y parthau sy'n gynrychioliadol o'r boblogaeth gyffredinol gafodd a fu'n agored iddynt.

2.  Yn gyffredinol dylai pwyntiau samplu gael eu lleoli i osgoi mesur micro-amgylcheddau bach sy'n agos iawn atynt. Fel canllaw, dylid lleoli pwynt samplu fel ei fod yn gynrychioliadol o ansawdd aer mewn ardal amgylchynol o ddim llai na 200 m2 mewn safleoedd lle y mae llawer o draffig un agos atynt ac o sawl kilometr sgwâr mewn safleoedd cefndir trefol.

3.  Hefyd, lle bo'n bosibl, dylai pwyntiau samplu fod yn gynrychioliadol o leoliadau tebyg nad ydynt yn agos iawn atynt.

4.  Dylid ystyried yr angen i leoli pwyntiau samplu ar ynysoedd, lle y mae hynny'n angenrheidiol i ddiogelu iechyd pobl.

Diogelu ecosystemau a llystyfiant

5.  Dylai pwyntiau samplu sydd wedi'u targedu at ddiogelu ecosystemau neu lystyfiant gael eu lleoli mwy na 20 km oddi wrth grynoadau neu dros 5 km oddi wrth ardaloedd adeiledig eraill, safleoedd diwydiannol neu draffyrdd. Fel canllaw, dylid lleoli pwynt samplu i gynrychioli ansawdd aer mewn ardal amgylchynol o 1000 km2 o leiaf. Caniateir lleoli pwynt samplu ar bellter llai neu i gynrychioli ansawdd aer mewn ardal llai estynedig, gan gymryd amodau daearyddol i ystyriaeth.

6.  Dylid ystyried yr angen i asesu ansawdd aer ar ynysoedd.

RHAN 2 Lleoli ar y raddfa facro ar gyfer llygryddion Grŵp B

7.  Dylid dewis safleoedd pwyntiau samplu mewn ffordd sy'n darparu data am—

(a) yr ardaloedd yn y parthau lle y mae'r boblogaeth yn debygol o fod wedi bod yn agored yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i'r crynodiadau uchaf cyfartalog yn ystod blwyddyn galendr;

(b) crynodiadau mewn ardaloedd eraill yn y parthau sy'n gynrychioliadol o ba mo'r agored fu'r boblogaeth gyffredinol i'r llygryddion;

(c) cyfraddau dyddodiad sy'n cynrychioli pa mor anuniongyrchol agored y bu'r boblogaeth i'r llygryddion trwy'r gadwyn fwyd.

8.  Yn gyffredinol dylai pwyntiau samplu gael eu lleoli fel eu bod yn osgoi mesur micro-amgylcheddau bach iawn yn y cyffuniau agos. Fel arweiniad, dylai pwynt samplu fod yn gynrychioliadol o ansawdd aer mewn ardaloedd amgylchynol o ddim llai na 200 m2 mewn safleoedd ar gyfer traffig yn bennaf, o leiaf 250m × 250m mewn safleoedd diwydiannol, lle bo hynny'n ddichonadwy, a sawl cilometr sgwâr mewn safleoedd cefndir trefol.

9.  Pan anelir at asesu lefelau cefndir ni ddylai'r safle samplu gael ei ddylanwadu gan grynoadau neu safleoedd diwydiannol sydd wrth ymyl, hynny yw safleoedd sy'n nes nag ychydig o gilometrau.

10.  Pan fo cyfraniadau o ffynonellau diwydiannol i gael eu hasesu, mae'n rhaid i o leiaf un pwynt samplu gael ei osod o du'r gwynt i'r ffynhonnell yn yr ardal breswyl agosaf. Lle na wyddys beth yw'r crynodiad cefndir, rhaid lleoli'r pwynt samplu ychwanegol yng nghyfeiriad y prif wynt. Yn benodol, pan fo rheoliad 9(1)(a) yn gymwys, dylid lleoli'r pwyntiau samplu fel y gellir monitro'r defnydd o'r mesurau y cyfeirir atynt yn rheoliad 7(2)(b).

11.  Hefyd, pan fo'n bosibl, dylai pwyntiau samplu fod yn gynrychioliadol o leoliadau tebyg nad ydynt yn agos iawn atynt. Lle bo'n briodol, dylent gael eu cyd-leoli gyda phwyntiau samplu ar gyfer PM10.

RHAN 3 Lleoli ar y raddfa facro ar gyfer osôn

12.  Rhaid i bwyntiau samplu ar gyfer osôn gael eu lleoli yn unol â'r ystyriaethau sydd wedi eu nodi yn y tabl canlynol—

Math o orsaf Amcan y mesuriad Cynrychioldeba Meini prawf lleoli ar y raddfa facro
a

Hefyd, os oes modd, dylai'r pwyntiau samplu fod yn gynrychioliadol o fannau tebyg nad ydynt yn agos iawn â hwy.

Trefol Diogelu iechyd pobl: Asesu pa more agored yw'r boblogaeth drefol i osôn, h.y., pan fo'r dwysedd poblogaeth a chrynodiad osôn yn gymharol uchel ac yn nodweddiadol o ba mo'r agored yw'r boblogaeth gyffredinol Ychydig o km2 I ffwrdd o ddylanwad allyriannau lleol megis traffig, gorsafoedd petrol etc.; lleoliadau awyredig lle gellir mesur y boblogaeth drefol a lefelau sydd wedi eu cymysgu'n dda; lleoliadau megis rhannau preswyl a rhannau masnachol mewn dinasoedd, parciau (i ffwrdd o'r coed), strydoedd mawr neu sgwarau gydag ychydig o draffig neu ddim o gwbl, mannau agored sy'n nodweddiadol o gyfleusterau addysg, chwaraeon neu hamdden.
Maestrefol Diogelu iechyd pobl a llystyfiant: Asesu pa mo'r agored i lygredd yw'r boblogaeth a'r llystyfiant sydd wedi'u lleoli ar gyrion y crynhoad, lle y mae'r lefelau osôn uchaf, y mae'r boblogaeth a'r llystyfiant yn debygol o fod yn agored yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol iddynt, yn digwydd Rhai degau o km2 Ar ryw bellter penodol o ardal yr allyriannau uchaf, o du'r gwynt gan ddilyn cyfeiriadau'r prif wynt yn ystod amodau sy'n ffafriol ar gyfer ffurfio osôn; lle y mae'r boblogaeth, cnydau sensitif neu ecosystemau naturiol wedi'u lleoli ar ymylon allanol crynhoad yn agored i lefelau uchel o osôn; os yw'n briodol, rhai gorsafoedd maestrefol sydd hefyd o du'r gwynt i'r ardal lle y mae'r allyriannau uchaf, er mwyn penderfynu lefelau cefndir rhanbarthol osôn
Gwledig Diogelu iechyd pobl a llystyfiant: asesu pa mo'r agored yw'r boblogaeth, cnydau ac ecosystemau naturiol i grynodiadau osôn ar raddfa is-ranbarthol Lefelau is-ranbarthol (ychydig o km2) Gellir lleoli gorsafoedd mewn cytrefi bychain a/neu ardaloedd ag ecosystemau naturiol, fforestydd neu gnydau; yn gynrychioladol ar gyfer osôn i ffwrdd o ddylanwad allyriannau lleol uniongyrchol megis safleoedd diwydiannol a ffyrdd; mewn safleoedd â mannau agored ond nid ar bennau'r mynyddoedd uchaf
Cefndir gwledig Diogelu llystyfiant ac iechyd pobl: Asesu pa mo'r agored yw cnydau ac ecosystemau naturiol i grynodiadau osôn ar raddfa rhanbarthol yn ogystal â pha mor agored yw'r boblogaeth Lefelau rhanbarthol /cenedlaethol/cyfandirol (1,000 i 10,000 km2) Gorsafoedd sydd wedi'u lleoli mewn mannau â dwysedd poblogaeth is, e.e. gydag ecosystemau naturiol, fforestydd, yn bell iawn o fannau trefol a diwydiannol ac i ffwrdd o allyriannau lleol; osgoi lleoliadau sy'n rhwym wrth y duedd leol i ffurfio amodau gwrthdroi sy'n agos at y ddaear, a chopâu'r mynyddoedd uchaf hefyd; ni argymhellir safleoedd arfordirol gyda chylchoedd gwynt dyddiol amlwg sy'n lleol eu natur

13.  Ar gyfer gorsafoedd gwledig a gorsafoedd cefndir gwledig, dylid ystyried cydlynu, pan fo'n briodol, â'r gofynion monitro yn Rheoliad y Comisiwn 1091/94(11) ynghylch diogelu fforestydd y Gymuned rhag llygredd atmosfferig.

(11)

OJ Rhif L 125, 18.05.94, p.1. Back [11]