Rheoliad 8(4)
1. Lleoliad gormodiant o lygredd—
(a) rhanbarth;
(b) dinas (map); ac
(c) gorsaf mesur (map, cyfesurynnau daearyddol).
2. Gwybodaeth gyffredinol—
(a) math o barth (dinas, ardal ddiwydiannol neu wledig);
(b) amcangyfrif o'r ardal lygredig (km2) a'r boblogaeth a fu'n agored i'r llygredd;
(c) data defnyddiol am yr hinsawdd;
(ch) data perthnasol am dopograffi; a
(d) gwybodaeth ddigonol ynglyn â'r math o dargedau y bo'n ofynnol eu diogelu yn y parth.
3. Awdurdodau cyfrifol (enwau a chyfeiriadau personau sy'n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu cynlluniau gwella).
4. Natur y llygredd ac asesiad ohono—
(a) crynodiadau y gwelwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol (cyn gweithredu'r mesurau gwella);
(b) crynodiadau a fesurwyd ers dechrau'r prosiect; ac
(c) dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr asesiad.
5. Tarddiad y llygredd—
(a) rhestr o brif ffynonellau'r gollyngiad sy'n gyfrifol am y llygredd (map);
(b) cyfanswm yr allyriannau o'r ffynonellau hyn (tunelli/blwyddyn); ac
(c) gwybodaeth am lygredd a fewnforiwyd o ranbarthau eraill.
6. Dadansoddi'r sefyllfa—
(a) manylion y ffactorau hynny sy'n gyfrifol am y gormodiant (cludiant, gan gynnwys cludiant trawsffiniol, ffurfiant); a
(b) manylion y mesurau posibl i wella ansawdd aer.
7. Manylion y mesurau hynny neu brosiectau gwella a oedd yn bodoli cyn 21 Tachwedd 1996—
(a) mesurau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol; a
(b) effeithiau'r mesurau a welwyd.
8. Manylion y mesurau neu'r prosiectau hynny a fabwysiadwyd gyda'r bwriad o ostwng llygredd ar ôl 21 Tachwedd 1996—
(a) rhestr a disgrifiad o'r mesurau a nodwyd yn y prosiect;
(b) yr amserlen ar gyfer eu gweithredu; ac
(c) amcangyfrif o'r cynllun arfaethedig i wella ansawdd aer a'r amser disgwyliedig sydd ei angen i gyflawni'r amcanion hyn.
9. Manylion y mesurau neu brosiectau arfaethedig neu sy'n cael eu hymchwilio ar gyfer yr hirdymor.
10. Rhestr o'r cyhoeddiadau, dogfennau a gwaith a ddefnyddir i ychwanegu at yr wybodaeth sy'n ofynnol gan yr Atodlen hon.
Rheoliad 11(6)
| Nitrogen deuocsid | 400 μg/m3 wedi'i fesur dros dair awr yn olynol mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd aer dros o leiaf 100 km2 neu barth cyfan neu grynhoad cyfan, pa un bynnag yw'r lleiaf |
| Sylffwr deuocsid | 500 μg/m3 wedi'i fesur dros dair awr yn olynol mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd aer dros o leiaf 100 km2 neu barth cyfan neu grynhoad cyfan, pa un bynnag yw'r lleiaf |
| Paramedr | Trothwy | |
|---|---|---|
a
At ddibenion rheoliad 11 (cynlluniau gweithredu), bydd gormodiant yn uwch na'r cyfartaledd o 1 awr mewn perthynas â'r trothwy rhybuddio yn cael ei fesur neu ei ragfynegi am dair awr yn olynol. |
||
| Trothwy rhybuddio | Cyfartaledd o 1 awra | 240 μg/m3 |
| Trothwy gwybodaeth | Cyfartaledd o 1 awr | 180 μg/m3 |
Rheoliad 13(5)