| Dechrau'r cyfnod pan fydd y ffin yn gymwys | Diwedd y cyfnod pan fydd y ffin yn gymwys | Bensen | Nitrogen deuocsid (gwerth terfyn bob awr ar gyfer diogelu iechyd pobl | Nitrogen deuocsid pobl) (gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl) |
|---|---|---|---|---|
| Pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym | 31 Rhagfyr 2007 | 3 μg/m3 | 30 μg/m3 | 6 μg/m3 |
| 1 Ionawr 2008 | 31 Rhagfyr 2008 | 2 μg/m3 | 20 μg/m3 | 4 μg/m3 |
| 1 Ionawr 2009 | 31 Rhagfyr 2009 | 1 μg/m3 | 10 μg/m3 | 2 μg/m3 |
1. Mae'r gwerthoedd targed yn y tabl isod ym mhob achos yn gysylltiedig â chyfanswm cynnwys y llygrydd perthnasol yn y ffracsiwn PM10 a gafwyd ar gyfartaledd dros un flwyddyn galendr.
2. Y dyddiad cyrraedd ar gyfer pob un o'r gwerthoedd targed hyn yw 31 Rhagfyr 2012.
| Llygrydd | Gwerth targed |
|---|---|
| Arsenig | 6 ng/m3 |
| Benso(a)pyren | 1 ng/m3 |
| Cadmiwm | 5 ng/m3 |
| Nicel | 20 ng/m3 |
3. Yn y Rhan hon—
(a) rhaid mynegi pob gwerth mewn μg/m3;
(b) rhaid safoni'r cyfaint yn ôl yr amodau tymheredd a phwysedd canlynol: 293K a 101.3kPa;
(c) rhaid nodi'r amser mewn Amser Ewropeaidd Canolog;
(ch) ystyr “AOT40” (wedi'i fynegi mewn (μg/m3) awr) yw swm y gwahaniaeth rhwng crynodiadau yn ôl yr awr sy'n uwch na 80 μg/m3 (sy'n hafal i 40 rhan fesul biliwn) a 80 μg/m3 dros gyfnod penodol trwy ddefnyddio'r gwerthoedd 1 awr yn unig a'r rheini wedi'u mesur rhwng 8:00 ac 20:00 Amser Ewropeaidd Canolog bob dydd; a
(d) er mwyn bod yn ddilys, rhaid i'r data blynyddol ar ormodiannau a ddefnyddir i wirio cydymffurfedd â'r gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor, fodloni'r meini prawf a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 12.
| Paramedr | Gwerth targed ar gyfer 2010a | |
|---|---|---|
a
Asesir cydymffurfedd â'r gwerthoedd targed yn ôl y gwerth hwn; hynny yw, 2010 fydd y flwyddyn gyntaf y defnyddir y data ar ei chyfer i gyfrifo cydymffurfedd dros dair neu bum mlynedd, fel y bo'n briodol. |
||
b
Rhaid dethol crynodiad y cymedr 8 awr dyddiol uchaf drwy archwilio cyfartaleddau cyfredol 8 awr, wedi'u cyfrifo o ddata yn ôl yr awr ac wedi'u diweddaru bob awr. Rhaid priodoli pob cyfartaledd 8 awr sydd wedi'i gyfrifo felly i'r diwrnod y mae'n dod i ben arno; hynny yw, y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod o 17:00 ar y diwrnod cynt i 01:00 ar y diwrnod hwnnw; y cyfnod cyfrifo olaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod o 16:00 i 24:00 ar y diwrnod hwnnw. |
||
c
Os nad oes modd penderfynu'r cyfartaleddau tair-blynedd neu'r cyfartaleddau pum-mlynedd ar sail set gyflawn ac olynol o ddata blynyddol, rhaid bod isafswm y data blynyddol sy'n ofynnol ar gyfer gwirio cydymffurfedd â'r gwerthoedd targed fel a ganlyn: (i) ar gyfer y gwerth targed ar gyfer diogelu iechyd pobl, data dilys ar gyfer blwyddyn, a (ii) ar gyfer y gwerth targed ar gyfer diogelu llystyfiant, data dilys ar gyfer tair blynedd. |
||
| Gwerth targed ar gyfer diogelu iechyd pobl | Y cymedr 8 awr dyddiol uchafb | 120 μg/m3, sef sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef ar fwy na 25 diwrnod fesul blwyddyn galendr a hynny wedi'i gyfartaleddu dros dair blynedd(3) |
| Gwerth targed ar gyfer dros diogelu llystyfiant | AOT40, wedi'i gyfrifo o werthoedd 1 awr o Fai i Orffennaf | 18,000 μg/m3.h wedi'i gyfartaleddu bum mlyneddc |
| Paramedr | Yr amcan hirdymor | |
|---|---|---|
| Amcan hirdymor ar gyfer diogelu iechyd pobl | Y cymedr 8 awr dyddiol uchaf o fewn blwyddyn galendr | 120 μg/m3 |
| Amcan hirdymor ar gyfer diogelu llystyfiant | AOT40, wedi'i gyfrifo o werthoedd 1-awr o Fai i Orffennaf | 6,000 μg/m3.h |