Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 5 Darpariaethau terfynol ac amrywiol

Casglu gwybodaeth etc.

29.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth a ddynodir yn Rhan 1 o Atodlen 12 wedi ei chael a'i chasglu.

(2) Mae'r meini prawf yn Rhan 2 o Atodlen 12 ar gyfer casglu data a chyfrifo paramedrau ystadegol yn gymwys mewn perthynas ag osôn.

Dirymiadau

Mae'r Rheoliadau a nodir yn Atodlen 13 yn cael eu dirymu yn unol â'r Atodlen honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2007

Rheoliad 6

ATODLEN 1 Safonau ansawdd aer

RHAN 1 Gwerthoedd terfyn ar gyfer llygryddion Grŵp A

Bensen

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn Dyddiad cyflawni
Gwerth terfyn ar gyfer diogelu iechyd pobl Blwyddyn galendr 5 μg/m3 1 Ionawr 2010

Carbon monocsid

At ddibenion y tabl hwn, bydd crynodiad y cymedr 8 awr dyddiol uchaf yn cael ei ddewis drwy archwilio cyfartaleddau cyfredol 8 awr, wedi'u cyfrifo o ddata yn ôl yr awr ac wedi'u diweddaru bob awr. Rhaid priodoli pob cyfartaledd 8 awr sydd wedi'i gyfrifo felly i'r diwrnod y mae'n dod i ben arno, hynny yw, y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod o 17:00 ar y diwrnod cynt i 01:00 ar y diwrnod hwnnw; y cyfnod cyfrifo olaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod o 16:00 i 24:00 ar y diwrnod hwnnw.

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Gwerth terfyn ar gyfer diogelu iechyd pobl Y cymedr 8 awr dyddiol uchaf 10 mg/m3

Plwm

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl Blwyddyn galendr 0.5 μg/m3

Nitrogen deuocsid (NO2) ac ocsidau o nitrogen (NOx)

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn Dyddiad cyflawni
Gwerth terfyn bob awr ar gyfer diogelu iechyd dynol 1 awr 200 μg/m3 NO2, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 18 gwaith fesul blwyddyn galendr 1 Ionawr 2010
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl Blwyddyn galendr 40 μg/m3 NO2 1 Ionawr 2010
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant Blwyddyn galendr 30 μg/m3 NOx

PM10

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Gwerth terfyn 24 awr ar gyfer diogelu iechyd pobl 24 awr 50 μg/m3 PM10, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 35 gwaith fesul blwyddyn galendr
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd dynol Blwyddyn galendr 40 μg/m3 PM10

Sylffwr deuocsid

Cyfnod cyfartaleddu Gwerth terfyn
Gwerth terfyn bob awr ar gyfer diogelu iechyd pobl 1 awr 350 μg/m3, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 24 gwaith fesul blwyddyn galendr
Gwerth terfyn dyddiol ar gyfer diogelu iechyd pobl 24 awr 125 μg/m3, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef mwy na 3 gwaith fesul blwyddyn galendr
Gwerth terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau Blwyddyn galendr a gaeaf (1 Hydref i 31 Mawrth) 20 μg/m3