17.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraff (2), osod a gweithredu gorsafoedd mesur i gyflenwi data cynrychioliadol ar grynodiadau o PM2·5.
(2) At ddiben paragraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a) ddewis nifer y gorsafoedd mesur y mae'n barnu sy'n angenrheidiol;
(b) i'r graddau bod hynny'n bosibl, cyd-leoli'r gorsafoedd mesur gydag unrhyw bwyntiau samplu eraill a sefydlwyd ar gyfer PM10 yn unol â rheoliad 15(1), neu
(ii) mewn unrhyw achos arall, lleoli'r gorsafoedd mesur yn unol â'r egwyddorion a nodwyd yn Rhannau 1, 4 a 5 o Atodlen 5 fel y maent yn berthnasol i PM10;
(c) defnyddio dulliau cyfeirio ar gyfer samplu a mesur y mae'n barnu sy'n addas; ac
(ch) rhoi sylw i'r amcanion ansawdd data a nodwyd yn Rhan 1 o Atodlen 8.
18.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraff (2), osod a gweithredu un neu, os yw'n barnu bod hynny'n angenrheidiol, rhagor o orsafoedd mesur i gyflenwi data ynglyn â chrynodiadau rhagsylweddion osôn sydd wedi eu nodi yn Atodlen 10.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i Atodlen 10 wrth ddewis nifer a safleoedd gorsafoedd mesur a'u gweithrediad.
19.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraffau (3) i (6), fonitro crynodiadau o—
(a) Y hydrocarbonau aromatig polysyclig hynny sydd wedi eu rhestru ym mharagraff (2); a
(b) unrhyw hydrocarbonau aromatig polysyclig eraill, o fewn ystyr paragraff(7) y caiff ddewis eu monitro'n ychwanegol.
(2) Dyma'r hydrocarbonau aromatig polysyclig sy'n ofynnol iddynt gael eu hasesu gan baragraff (1)—
(a) benso(a)anthrasen;
(b) benso(a)fflworanthen;
(c) benso(b)fflworanthen;
(ch) benso(j)fflworanthen;
(d) benso(k)fflworanthen;
(dd) dibens(a,h)anthrasen; ac
(e) indeno(1,2,3-cd)pyren.
(3) Rhaid i'r monitro sy'n ofynnol gan baragraff (1) gael ei gynnal mewn safleoedd monitro a ddynodwyd at y diben hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraffau (4) a (5).
(4) Rhaid i bob safle monitro—
(a) i'r graddau bod hynny'n bosibl, gael eu cyd-leoli gyda phwynt samplu a sefydlwyd ar gyfer benso(a)pyren o dan reoliad 15(1); neu
(b) mewn unrhyw achos arall, gael eu lleoli yn unol â Rhannau 2, 4 a 5 o Atodlen 5.
(5) Bydd cyfanswm nifer y safleoedd monitro a'u detholiad cyffredinol yr hyn y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei farnu sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y monitro a wneir yn darparu gwybodaeth ddigonol i adnabod tueddiadau hirdymor ac amrywiad daearyddol crynodiadau.
(6) Mae rheoliad 16(2) a (3) yn gymwys i'r monitro sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn.
(7) At ddiben paragraff (1)(b), ystyr “hydrocarbonau aromatig polysyclig” (“polycyclic aromatic hydrocarbons”) yw cyfansoddion organig, heblaw benso(a)pyren, sy'n cynnwys o leiaf dau gylch aromatig ymdoddedig a wnaed yn gyfan gwbl o garbon a hydrogen.
20.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraffau (3) a (4), osod a gweithredu pwyntiau samplu cefndir i ddarparu'r mesuriadau sy'n ofynnol gan baragraff (2).
(2) Mae'r mesuriadau sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn yn fesuriadau dangosol o—
(a) crynodiadau o—
(i) llygryddion Grŵp B,
(ii) hydrocarbonau aromatig polysyclig, a
(iii) mercwri nwyol llwyr fel y'i diffinnir ym mharagraff (6);
a
(b) llwyr ddyddodiad o—
(i) llygryddion Grŵp B yn y ffracsiwn PM10,
(ii) hydrocarbonau aromatig polysyclig, a
(iii) mercwri.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau—
(a) bod o leiaf un pwynt samplu wedi ei osod ar gyfer pob 100,000 km2; a
(b) bod pob pwynt samplu wedi ei leoli yn unol â Rhannau 2, 4 a 5 o Atodlen 5.
(4) Mae rheoliad 16(2) a (3) yn gymwys i'r mesuriadau sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol—
(a) yn ogystal â'r mesuriadau dangosol sy'n ofynnol gan baragraff (2), gymryd mesuriadau dangosol pellach sy'n ymwneud yn benodol â mercwri deufalent nwyol a gronynnol o'r pwyntiau samplu sy'n ofynnol eu gosod gan baragraff (1); a
(b) cydgysylltu unrhyw fesuriadau a wnaed o dan y rheoliad hwn gyda strategaeth fonitro a rhaglen fesur Monitro a Gwerthuso Llygryddion Ewrop.
(6) At ddibenion paragraff (2)(a)(iii), ystyr “mercwri nwyol llwyr” (“total gaseous mercury”) yw—
(a) anwedd mercwri elfennaidd (Hg0); a
(b) mercwri nwyol adweithiol.
21.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau—
(a) bod yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael i'r cyhoedd yn unol â'r Rhan hon; a
(b) bod y cyhoedd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ffurfio cynlluniau gwella yn unol â rheoliad 28.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth y mae'r Rhan hon yn berthnasol iddi—
(a) ar gael mewn ffurf sy'n glir, yn gynhwysfawr ac yn hygyrch;
(b) wedi'i dosbarthu neu ei chyhoeddi trwy'r dull mwyaf priodol yn ôl ei benderfyniad, gan gynnwys y cyfryngau darlledu, y wasg, cyhoeddiadau, sgriniau gwybodaeth, y rhyngrwyd neu ffynonellau rhwydwaith cyfrifiadurol eraill (ond nid o anghenraid wedi ei gyfyngu i'r dulliau hyn); ac
(c) wedi ei diweddaru—
(i) yn unol ag isafswm o ran amlder a bennwyd yn y Rheoliadau hyn, neu
(ii) mewn achosion eraill, cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol.
(3) At ddibenion y Rhan hon, ystyr “y cyhoedd” yw personau naturiol neu gyfreithiol, yn cynnwys cyrff gofal iechyd a sefydliadau sy'n cynrychioli buddiannau poblogaethau sensitif, defnyddwyr a'r amgylchedd ac y mae ganddynt fuddiant mewn ansawdd aer amgylchynol.
22. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefny bod y canlynol ar gael—
(a) gwybodaeth sy'n dynodi pob parth ac yn pennu pa barthau sydd wedi cael eu dosbarthu fel crynoadau;
(b) y rhestri canlynol o barthau—
(i) parthau sydd wedi cyrraedd pob un o'r safonau ansawdd aer,
(ii) parthau nad ydynt wedi cyrraedd un neu fwy o'r safonau ansawdd aer, ac mae'n rhaid i'r rhestr nodi'r llygryddion a'r safonau ansawdd aer dan sylw mewn perthynas â hwy;
(c) tan 1 Ionawr 2010, rhestr o barthau lle y mae crynodiadau o bensen neu nitrogen deuocsid naill ai—
(i) uwchlaw'r gwerth terfyn a'r ffin goddefaint berthnasol, neu
(ii) rhwng gwerth terfyn a'r ffin goddefaint berthnasol,
gan nodi, ym mhob achos, y llygrydd a'r gwerthoedd terfyn perthnasol; ac
(ch) rhestr yn dosbarthu pob parth mewn perthynas â'r dull y caiff crynodiad o bob llygrydd ei asesu yn y parth hwnnw yn unol â rheoliad 13.
23.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraffau (2) a (3), sicrhau bod gwybodaeth ar gael ynglyn â—
(a) crynodiadau llygryddion Grŵp A;
(b) crynodiadau llygryddion Grŵp B;
(c) crynodiadau osôn; ac
(ch) i'r graddau eu bod wedi cael eu hasesu o dan Ran 3 o'r Rheoliadau hyn—
(i) crynodiadau o fercwri, PM2·5 a hydrocarbonau aromatig polysyclig, a
(ii) cyfraddau dyddodiad o lygryddion Grwp B, mercwri a hydrocarbonau aromatig polysyclig.
(2) Rhaid i'r wybodaeth y mae paragraff (1)(a) yn ei gwneud hi'n ofynnol i fod ar gael, ac, i'r graddau ei bod yn berthnasol i PM2·5, paragraff(1)(d)(i), gael ei diweddaru mewn perthynas â—
(a) bensen, fel gwerth cyfartaleddu dros y 12 mis diwethaf—
(i) o leiaf bob tri mis, a
(ii) lle bo hynny'n ymarferol, bob mis;
(b) carbon monocsid, fel yr uchafswm cyfartaledd cyfredol dros wyth awr—
(i) o leiaf bob dydd, a
(ii) lle bo'n ymarferol, bob awr;
(c) plwm, bob tri mis; ac
(ch) nitrogen deuocsid, sylffwr deuocsid, PM2·5 a PM10—
(i) o leiaf bob dydd, a
(ii) mewn achos gwerthoedd bob awr ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid, lle bo hynny'n ymarferol, bob awr.
(3) Rhaid i'r wybodaeth y mae paragraff (1)(c) yn ei gwneud hi'n ofynnol i fod ar gael, gael ei diweddaru—
(a) o leiaf bob dydd; a
(b) lle bo hynny'n briodol ac yn ymarferol, bob awr.
24.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo modd ym mhob achos, ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraffau (2) i (4) lle—
(a) mae gormodiant uwchlaw unrhyw un o'r canlynol—
(i) y trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid neu sylffwr deuocsid, neu
(ii) y trothwy rhybuddio neu'r trothwy gwybodaeth ar gyfer osôn;
neu
(b) rhagwelir y bydd gormodiant uwchlaw'r trothwy rhybuddio neu'r trothwy gwybodaeth ar gyfer osôn.
(2) Pan fo paragraff (1)(a)(i) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf ddarparu'r wybodaeth fel a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 11.
(3) Pan fo paragraff (1)(a)(ii) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf ddarparu'r wybodaeth fel a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 11.
(4) Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff (3), i'r graddau y bo hynny'n ymarferol.
(5) Pan fo—
(a) y ddau is-baragraff (i) a (ii) o baragraff (1)(a) yn gymwys; neu
(b) y ddau is-baragraff (a) a (b) o baragraff (1) yn gymwys,
rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfuno'r wybodaeth mewn perthynas â'r ddau is-baragraff hynny y mae'n ofynnol i wneud hynny gan baragraffau (2) i (4) mewn fformat cynhwysfawr.
(6) Heb ragfarnu cyffredinolrwydd yr ymrwymiad a osodir gan y rheoliad hwn i ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd, mewn achosion lle mae gormodiant yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer osôn neu rhagwelir y bydd uwchlaw, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau y darperir gwybodaeth amserol i bob sefydliad gofal iechyd perthnasol.
25.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraffau (2) i (5) mewn perthynas â phob un o'r llygryddion y mae'r paragraffau hynny yn berthnasol iddynt.
(2) Ar gyfer llygryddion Grŵp A, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a) ddynodi i ba raddau y mae gormodiannau un uwch na—
(i) unrhyw werth terfyn, neu
(ii) trothwyon rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid neu sylffwr deuocsid,
dros y cyfnodau cyfartaleddu perthnasol sydd wedi eu nodi yn Rhan 1 o Atodlen 1 a Rhan 1 o Atodlen 3 yn y drefn honno; a
(b) darparu asesiad byr o'r digwyddiadau hyn a'u heffaith ar iechyd.
(3) Ar gyfer llygryddion Grŵp B, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a) ddangos unrhyw achlysur lle bu gormodiant un uwch nag unrhyw werth targed; a
(b) mewn perthynas ag unrhyw ddigwyddiad o'r fath, darparu o leiaf yr wybodaeth ganlynol—
(i) yr ardaloedd ym mhob parth lle bu gormodiant yn uwch na'r gwerth targed,
(ii) achos y digwyddiad a phrif ffynonellau yr allyriannau a ddynodwyd yn unol â rheoliad 9(2)(a),
(iii) asesiad byr o effaith y digwyddiad ar gydymffurfedd cyffredinol gyda'r gwerth targed yn y parth dan sylw,
(iv) y mesurau sy'n cael eu cymryd i wrthweithio'r gormodiant mewn crynodiad yn unol â rheoliad 9(2)(b), a
(v) y rhagolygon ar gyfer cyrraedd y gwerth targed yn yr ardal yr effeithiwyd arni.
(4) Ar gyfer osôn, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a) ddangos unrhyw achlysur lle mae'r crynodiadau wedi bod yn uwch na—
(i) yr amcanion hirdymor ar gyfer diogelu iechyd pobl,
(ii) y trothwy gwybodaeth, neu
(iii) y trothwy rhybuddio;
a
(b) darparu asesiad byr o bob digwyddiad, gan gynnwys ei faint a'i effaith ar iechyd.
(5) Mae'n rhaid i'r wybodaeth y mae paragraffau (2) a (4) yn ei gwneud hi'n ofynnol eu darparu, gael ei diweddaru yn unol â'r amserlen a bennwyd ar gyfer y llygryddion hynny gan reoliad 23(2) a (3).
26.—(1) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynhyrchu adroddiad blynyddol mewn perthynas ag osôn yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Mae'n rhaid i'r adroddiad blynyddol gynnwys o leiaf yr wybodaeth ganlynol—
(a) ar gyfer iechyd pobl, dynodiad am bob achlysur pan bu gormodiant yn uwch na—
(i) y gwerth targed,
(ii) yr amcan hirdymor, neu
(iii) y trothwy rhybuddio;
(b) ar gyfer llystyfiant, dynodiad am bob achlysur pan bu gormodiant uwchlaw—
(i) y gwerth targed, neu
(ii) yr amcan hirdymor; ac
(c) mewn perthynas â'r ddau is-baragraff (a) a (b), asesiad byr o effeithiau pob digwyddiad o'r fath.
(3) Caiff yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(b) gynnwys, lle bo'n briodol,—
(a) gwybodaeth bellach ac asesiadau ynglyn â diogelu fforestydd, yn unol â Rhan 1 o Atodlen 12; a
(b) gwybodaeth am rhagsylweddion osôn.
27.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu bod y canlynol ar gael, a darparu gwybodaeth am weithredu, pob cynllun gweithredu a chynllun gwella.
(2) Pan fo rheoliad 11(4) yn gymwys, mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod canlyniadau'r archwiliadau a wnaed yng nghyd-destun ei ystyriaeth o dan y rheoliad hwnnw ar gael, p'un bynnag os yw wedi paratoi cynllun gweithredu o dan rheoliad 11(1)(a) neu beidio.
28.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r cyhoedd lle y mae'n bwriadu paratoi, addasu neu adolygu cynllun gwella.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a) roi gwybod i'r cyhoedd am ei gynnig ac unrhyw wybodaeth gefndir berthnasol; a
(b) pennu'r dulliau y gall y cyhoedd gymryd rhan yn y broses ymgynghori, gan gynnwys cyfeiriad ar gyfer ymatebion ac amserlen rhesymol ar gyfer yr ymgynghori.
(3) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl ymgynghori, yn dod i benderfyniad ynglyn â'i gynnig, rhaid iddo roi gwybod i'r cyhoedd a darparu gwybodaeth am y rhesymau a'r ystyriaeth y mae wedi seilio ei benderfyniad.