ATODLEN 12 continued RHAN 2
4. Yn y Rhan hon, mae canraddau i gael eu cyfrifo gan ddefnyddio'r dull a nodwyd yn Penderfyniad y Cyngor 97/101/EC(15)yn sefydlu cyfnewid cytbwys o wybodaeth a data o rwydweithiau a gorsafoedd unigol sy'n mesur llygredd aer amgylchynol yn yr Aelod wladwriaethau.
5. Rhaid defnyddio'r meini prawf canlynol ar gyfer gwirio dilysrwydd wrth agregu data a chyfrifo paramedrau ystadegol—
| Paramedr | Cyfran ofynnol o ddata dilys |
|---|---|
a
Mewn achosion lle nad yw pob data mesuredig posib ar gael, rhaid defnyddio'r ffactor canlynol i gyfrifo gwerthoedd AOT40: AOT40 (amcangyfrif) = AOT40 a fesurwyd × (cyfanswm posib yr oriau ÷ nifer y gwerthoedd-yr-awr mesuredig). Yn y fformiwla hon mae'r cyfeiriad at gyfanswm posibl yr oriau yn gyfeiriad at yr oriau o fewn cyfnod y diffiniad AOT40 (hynny yw, 8:00 i 20:00 yn Amser Canol Ewrop o 1 Mai hyd at 31 Gorffennaf bob blwyddyn, ar gyfer amddiffyn llystyfiant ac o 1 Ebrill hyd at 30 Medi bob blwyddyn ar gyfer amddiffyn coedwigoedd). |
|
| Gwerthoedd 1 awr | 75% (45 munud) |
| Gwerthoedd 8 awr | 75% o werthoedd (6 awr) |
| Mwyafswm cymedrig 8 awr bob dydd o gyfartaleddau 8 awr yn rhedeg bob awr | 75% o gyfartaleddau 8 awr yn rhedeg bob awr (18 8 awr y diwrnod) |
| AOT40 | 90% o'r gwerthoedd 1-awr dros y cyfnod amser a ddiffinnir ar gyfer cyfrifo gwerth AOT40a |
| Cymedrig bob blwyddyn | 75% o'r gwerthoedd 1-awr dros dymhorau yr haf (Ebrill i Medi) a'r gaeaf (Ionawr i Mawrth, Hydref i Rhagfyr) ar wahân |
| Nifer y gormodiant uwchlaw a'r gwerthoedd mwyafswm y mis | 90% o'r gwerthoedd cymedrig 8 awr mwyafswm bob dydd (27 gwerthoedd dyddiol ar gael y mis) 90% o'r gwerthoedd 1-awr rhwng 8:00 a 20:00 Amser Canol Ewrop |
| Nifer y gormodiant uwchlaw a'r gwerthoedd mwyafswm y flwyddyn | Pump o chwe mis yr haf dros dymor yr haf (Ebrill i Medi) |
Rheoliad 30
| Rheoliadau sydd wedi eu dirymu | Cyfeiriad | Yn weithredol o |
|---|---|---|
a
fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/1157 (Cy. 74). |
||
b
Mae Rheoliad 6 o O.S. 1989/317 wedi cael ei dirymu, i'r graddau ei bod yn gymwys mewn perthynas â Chymru, gan reoliad 13(2) o O.S. 2002/3183 (Cy. 299) o'r dyddiad a nodir yn nhrydedd golofn y tabl uchod, sy'n golygu na fydd y dirymiad wedi dod yn weithredol erbyn yr adeg y bydd O.S. 2002/3183 (Cy. 299) ei hun wedi cael ei ddirymu. |
||
c
fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/3146 mewn perthynas â rheoliad 6. |
||
| Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2005 | O.S. 2005/1157 (Cy. 74) | 15 Mawrth 2007 |
| Rheoliadau Ansawdd Aer (Osôn) (Cymru) 2003 | O.S. 2003/1848 (Cy. 198) | 15 Mawrth 2007 |
| Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 | O.S. 2002/3183 (Cy. 299)a | 15 Mawrth 2007 |
| Rheoliad 6 o Reoliadau Safonau Ansawdd 1989b, i'r graddau ei fod yn gymwys mewn perthynas â Chymru | O.S. 1989/317c | 1 Ionawr 2010 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn—
(a) gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ar asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol (OJ Rhif L 296, 21.11.96, t. 55);
(b) gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/30/EC mewn perthynas â gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm mewn aer amgylchynol (OJ Rhif L 163, 29.06.99, t. 41);
(c) gweithredu Cyfarwyddeb 2000/69/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â gwerthoedd terfyn ar gyfer bensen a charbon monocsid mewn aer amgylchynol (OJ Rhif L 313, 13.12.00, t.12);
(ch) gweithredu Cyfarwyddeb 2002/3/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas ag osôn mewn aer amgylchynol (OJ Rhif L 67, 09.03.02, t.14);
(d) gweithredu Cyfarwyddeb 2004/107/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas ag arsenig, cadmiwm, mercwri, nicel a hydrocarbonau aromatig polysyclig mewn aer amgylchynol (OJ Rhif L 23, 26.01.05, t.3);
(dd) ymgorffori gofynion a osodwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/744/EC yn diwygio Atodiad V i Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/30/EC (OJ Rhif L 278, 23.10.01, t.35) a Chyfarwyddeb 2003/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor gan ddarparu ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd mewn perthynas â llunio cynlluniau a rhaglenni penodol sy'n ymwneud â'r amgylchedd ac yn diwygio mewn perthynas â chyfranogiad y cyhoedd a mynediad at gyfiawnder Gyfarwyddebau'r Cyngor 85/337/EEC a 96/61/EC (OJ Rhif L 156, 25.06.03, t.17); ac
(e) newid rheoliad 6 o Reoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 (O.S. 1989/317), Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 (O.S. 2002/3183) (Cy.299), Rheoliadau Ansawdd Aer (Osôn) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1848) (Cy.198) a Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) 2005 (O.S. 2005/1157) (Cy.74), y maent i gyd yn cael eu dirymu gan reoliad 30 o'r Rheoliadau hyn ac Atodlen 13 iddynt.
Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys rheoliad 3, sy'n dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) fel yr awdurdod cymwys at ddibenion erthygl 3 (gweithredu a chyfrifoldebau) o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol cyrraedd at safonau ansawdd aer mewn perthynas â chrynodiad gwahanol lygryddion mewn aer amgylchynol.
At ddibenion Rhan 2, mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol rannu Cymru yn barthau lle gwneir yr asesu a'r rheoli angenrheidiol o ansawdd aer (rheoliad 5).
Yn unol â rheoliad 6, gosodir gwerthoedd terfyn ar gyfer llygryddion “Grŵp A” (bensen, carbon monocsid, plwm, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol (PM10) a sylffwr deuocsid); gosodir gwerthoedd targed ar gyfer llygryddion “Grŵp B” (cynnwys arsenig, benso(a)pyrene, cadmiwm a nicel, neu eu cyfansoddion, o fewn y ffracsiwn PM10); a gosodir gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor ar gyfer osôn.
Mae Pennod 2 o Ran 2 yn gosod y mesurau y mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol eu dilyn er mwyn sicrhau cyrraedd at y safonau perthnasol. Y mesurau sydd eu hangen yn arferol yw'r rhai sydd wedi eu nodi yn rheoliad 7. Mewn perthynas â bensen neu nitrogen deuocsid, lle y mae crynodiadau yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ynghyd â'r ffin goddefiant sydd wedi ei dynodi, mae rheoliad 8(2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu cynllun gwella. Hefyd mae'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu cynllun gwella yn sgil rheoliad 8(3) mewn achosion lle y mae crynodiadau osôn yn uwch na'r gwerth targed oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried na fyddai'r gwerth targed yn gyraeddadwy trwy fesurau cymesur. Yn olaf, mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu'r mesurau a nodwyd yn y rheoliad hwnnw mewn achosion lle mae crynodiadau o lygryddion Grŵp B yn uwch na'r gwerth targed perthnasol neu mewn achosion lle y mae crynodiadau o osôn yn cydymffurfio â'r gwerth targed ond yn uwch nag amcan hirdymor.
Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn a'r gwerthoedd targed a, chyn belled â bod y ffactorau a nodwyd yn y rheoliad hwnnw yn caniatáu, yr amcan hirdymor ar gyfer osôn.
Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi, ac i'r graddau y mae'n ystyried hynny'n angenrheidiol, iddo roi ar waith gynlluniau gweithredu sy'n dangos y mesurau sydd i'w cymryd mewn achosion lle y bo risg o fynd yn uwch nag unrhyw werth terfyn neu trothwyon rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid. Mae'n ofynnol hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried paratoi cynlluniau gweithredu lle y bo risg o fynd yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer osôn.
Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu crynodiad llygryddion Grwp A, llygryddion Grŵp B ac osôn ym mhob parth.
Mae rheoliadau 13 i 16 yn rhagnodi'r dulliau asesu sy'n ofynnol neu a ganiateir (yn ôl yr achos) a'r gofynion manwl mewn perthynas â phob dull (er enghraifft, gofynion ynglyn â phwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog).
Yn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn, mae rheoliadau 17 i 19 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol fonitro neu fesur, yn y drefn honno, PM2·5, rhagsylweddion osôn a hydrocarbonau aromatig polysyclig penodol. Mae Rheoliad 20 yn ei gwneud hi'n ofynnol cymryd y mesuriadau dangosol o'r crynodiad a'r dyddodiad o lygryddion Grŵp B, hydrocarbonau aromatig polysyclig a mercwri.
Yn Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn, mae rheoliadau 21 i 25 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ledaenu'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd, gan gynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli buddiannau perthnasol y cyhoedd. Mae rheoliad 26 yn ei gwneud yn ofynnol cynhyrchu adroddiad blynyddol ar gyfer osôn ac mae rheoliad 27 yn mynnu bod cynlluniau gweithredu a chynlluniau gwella, a gwybodaeth ynglyn a'u gweithredu ar gael. Mae rheoliad 28 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau y caiff y cyhoedd gyfrannu at ddatblygu, addasu ac adolygu cynlluniau gwella.
Yn Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 29 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gael a chasglu data ac mae rheoliad 30 yn darparu ar gyfer diddymu Rheoliadau sy'n cael eu disodli gan y Rheoliadau hyn.
OJ L 35, 05.02.97, t.14. Back [15]