8. Mewn achosion lle mae parthau yn cyrraedd yr amcanion hirdymor, mae'n rhaid i nifer y pwyntiau samplu ar gyfer osôn, mewn cyfuniad â dulliau eraill o asesu ychwanegol megis modelu ansawdd aer a mesuriadau nitrogen deuocsid sydd wedi'u cydleoli, fod yn ddigon i archwilio tuedd llygredd osôn a gwirio cydymffurfedd â'r amcanion hirdymor.
9. Caniateir lleihau nifer y gorsafoedd sydd wedi'u lleoli mewn crynoadau a pharthau eraill i draean o'r nifer a bennir yn y Tabl yn Rhan 4. Os gwybodaeth o orsafoedd mesuriadau sefydlog yw unig ffynhonnell yr wybodaeth, dylid cadw o leiaf un orsaf fonitro. Os canlyniad hyn, mewn parthau lle ceir asesiad ychwanegol, yw nad oes gan barth unrhyw orsaf ar ôl, rhaid sicrhau drwy gydlynu â nifer y gorsafoedd mewn parthau cymdogol fod asesiad digonol o grynodiadau osôn yn erbyn amcanion hirdymor yn cael ei gynnal.
10. Dylai nifer y gorsafoedd cefndir gwledig fod yn 1 bob 100,000 km2.
Rheoliad 15(6)(b) Rheoliad 16(1)
1. Rhaid llunio'r gwybodaeth ganlynol ar gyfer parthau lle defnyddir ffynonellau eraill ar wahân i fesuriadau sefydlog i ychwanegu at y gwybodaeth a geir o fesuriadau sefydlog neu fel yr unig ddull o asesu ansawdd aer—
(a) disgrifiad o weithgareddau asesu a gynhelir;
(b) y dulliau penodol a ddefnyddir, gyda chyfeiriadau at ddisgrifiadau o'r dull;
(c) ffynonellau data a gwybodaeth;
(ch) disgrifiad o ganlyniadau, gan gynnwys ansicrwydd ac, yn arbennig, maint unrhyw ardal neu, os yn berthnasol, hyd y ffordd yn y parth lle mae'r crynodiadau yn uwch na'r gwerth terfyn neu, yn ôl yr achos, y gwerth terfyn ynghyd â'r ffin goddefaint cymwys ac unrhyw ardal lle bo'r crynodiadau yn uwch na'r trothwy asesu uchaf neu'r trothwy asesu isaf;
(d) ar gyfer gwerthoedd terfyn sydd â'r nod o ddiogelu iechyd pobl, y boblogaeth a allai fod yn agored i grynodiadau sy'n uwch na'r gwerth terfyn.
2. Lle bo hynny'n bosibl, rhaid sicrhau bod mapiau yn cael eu llunio sy'n dangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth.
3. Lle defnyddir model ansawdd aer ar gyfer asesu, rhaid i unrhyw cyfeiriadau at ddisgrifiadau o'r model a gwybodaeth ynglyn â'r ansicrwydd gael ei llunio. Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu yn golygu'r uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiad a gyfrifir ac a fesurir, dros flwyddyn lawn, heb gymryd fewn i ystyriaeth amseriad y digwyddiadau.
4. Lle defnyddir dulliau amcangyfrif gwrthrychol, ni chaiff yr ansicrwydd fod yn uwch na 100%.
5. Ar gyfer sylweddau i'w dadansoddi yn y ffracsiwn PM10, mae'r cyfaint samplu yn cyfeirio at amodau amgylchynol.
6. Dylai'r wybodaeth ganlynol gael ei llunio ar gyfer parthau lle y defnyddir ffynonellau ag eithrio mesuriadau i ychwanegu at wybodaeth a geir o fesuriadau—
(a) disgrifiad o'r gweithgareddau asesu a wnaed;
(b) y dulliau penodol a ddefnyddiwyd, gan gyfeirio at ddisgrifiadau o'r dull;
(c) y ffynonellau data a gwybodaeth;
(ch) disgrifiad o'r canlyniadau, gan gynnwys ansicrwydd ac, yn benodol, hyd a lled unrhyw ardal yn y parth lle mae'r crynodiadau'n uwch na'r amcanion hirdymor neu'r gwerthoedd targed;
(d) ar gyfer amcanion hirdymor neu werthoedd targed sy'n anelu at ddiogelu iechyd pobl, y boblogaeth a allai fod yn agored i grynodiadau sy'n uwch na'r trothwy.
7. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod mapiau yn cael eu llunio sy'n dangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth.
Rheoliad16(2) Rheoliad 17(2)(d) Rheoliad 19(6) Rheoliad 20(4)
1. Mae amcanion ansawdd data wedi eu nodi yn y tabl a'r paragraffau isod ar gyfer cywirdeb gofynnol y dulliau asesu, lleiafswm yr amser a gwmpesir a lleiafswm y data a gipir yn sgil mesur yn cael eu darparu fel canllawiau i raglenni sicrwydd ansawdd—
| Sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen | Plwm, PM2·5 a PM10 | |
|---|---|---|
| Mesuriadau parhaus | ||
| Cywirdeb | 15% | 25% |
| Lleiafswm y data a gipir | 90% | 90% |
| Mesuriadau dangosol | ||
| Cywirdeb | 25% | 50% |
| Lleiafswm y data a gipir | 90% | 90% |
| Lleiafswm yr amser a gwmpesir | 14% (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu wyth wythnos wedi eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn) | 14% (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu wyth wythnos wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn) |
| Modelu | ||
| Cywirdeb | ||
| Cyfartaleddau bob awr | 50%—60% | |
| Cyfartaleddau bob diwrnod | 50% | |
| Cyfartaleddau blynyddol | 30% | 50% |
| Amcangyfrif gwrthrychol | ||
| Cywirdeb | 75% | 100% |
2. Mae cywirdeb y mesuriad wedi ei ddiffinio fel y nodwyd yn yr “Arweiniad i Fynegi Ansicrwydd Mesuriadau” (ISO 1993)(12) neu mewn ISO 5725-1 “Manwl gywirdeb (gwiredd a thrachywiredd) dulliau a chanlyniadau mesuriad” (ISO 1994). Mae'r canrannau yn y tabl wedi'u rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu, dros y cyfnod cyfrifo, gan y gwerthoedd terfyn, ar gyfer cyfwng hyder o 95% (bias + dwy waith yr amrywiad safonol). Dylai'r cywirdeb ar gyfer mesuriadau parhaus gael eu dehongli fel eu bod yn gymwys o gwmpas y gwerth terfyn priodol.
3. Mae'r cywirdeb ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol yn golygu'r uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo'r gwerth terfyn, heb gymryd i fewn i ystyriaeth amseriad digwyddiadau.
4. Nid yw'r gofynion ar gyfer lleiafswm y data a gipir a lleiafswm yr amser a gwmpesir yn cynnwys unrhyw data a gollir wrth i'r offer gael eu calibradu yn rheolaidd neu eu cynnal a'u cadw fel rhan o'r drefn
5. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i fesuriadau ar hap gael eu gwneud yn lle mesuriadau parhaus ar gyfer plwm, PM2·5 a PM10 trwy ddulliau y mae cywirdeb yn y cyfwng hyder o 95% mewn perthynas â monitro parhaus wedi ei ddangos i fod o fewn 10%. Mae'n rhaid i samplu ar hap gael ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn.
6. Mae'r amcanion ansawdd data yn y tabl canlynol, ar gyfer ansicrwydd dulliau asesu a ganiateir, lleiafswm yr amser a gwmpesir a lleiafswm y data a gipir yn sgil mesur yn cael eu darparu fel canllawiau i raglenni sicrwydd ansawdd —
| Bensen | Carbon monocsid | |
|---|---|---|
| Mesuriadau sefydlog | ||
| Ansicrwydd | 25% | 15% |
| Lleiafswm y data a gipir | 90% | 90% |
| Lleiafswm yr amser a gwmpesir | 35% mewn safleoedd cefndir trefol a thrafnidiaeth (wedi eu dosbarthu dros y flwyddyn i fod yn gynrychioliadol o wahanol amodau ar gyfer hinsawdd a thrafnidiaeth); 90% mewn safleoedd diwydiannol | |
| Mesuriadau dangosol | ||
| Ansicrwydd | 30% | 25% |
| Lleiafswm y data a gipir | 90% | 90% |
| Lleiafswm yr amser a gwmpesir | 14% (mesuriad un diwrnod yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu 8 wythnos wedi eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn) | 14% (un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn, neu 8 wythnos wedi eu dosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn) |
| Modelu | ||
| Ansicrwydd: | ||
| Cyfartaleddau wyth awr | 50% | |
| Cyfartaleddau blynyddol | 50% | |
| Amcangyfrif gwrthrychol | ||
| Ansicrwydd | 100% | 75% |
7. Rhaid llunio ansicrwydd (ar gyfwng hyder o 95%) y dulliau asesu yn unol â'r egwyddorion sydd wedi'u nodi yn “Arweiniad i Fynegi Ansicrwydd Mesuriadau” (ISO 1993) neu'r fethodoleg yn ISO 5725:1994. Mae'r canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl uchod wedi'u rhoi ar gyfer mesuriadau unigol, wedi'u cyfartaleddu dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo gwerthoedd terfyn, ar gyfer cyfwng hyder o 95%. Dylai'r ansicrwydd ar gyfer mesuriadau sefydlog gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy o gwmpas y gwerth terfyn priodol.
8. Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol yn golygu'r uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo'r gwerth terfyn, heb gymryd i fewn i ystyriaeth amseriad y digwyddiadau.
9. Nid yw'r gofynion ar gyfer lleiafswm y data a gipir a lleiafswm yr amser a gwmpesir yn cynnwys unrhyw data a gollir wrth i'r offer gael eu calibradu yn rheolaidd neu eu cynnal a'u chadw fel rhan o'r drefn.
10. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu i fesuriadau ar hap gael ei wneud yn lle mesuriadau parhaus ar gyfer bensen os yw'r ansicrwydd, gan gynnwys yr ansicrwydd o ganlyniad i samplu ar hap, yn cwrdd â'r amcan ansawdd 25%. Mae'n rhaid i samplu ar hap gael ei ddosbarthu'n gyfartal dros y flwyddyn.
Gellir prynu copïau o gyhoeddiadau'r Sefydliad Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Farchnata'r Sefydliad Safonau Prydeinig ('BSI') naill ai dros y ffôn (0208 996 9001) neu drwy'r post o BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL, http://www.bsi-global.com