3. Mae'r Tabl isod yn nodi isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant mewn parthau ar wahân i grynoadau.
| Os yw mwyafswm y crynodiadau yn uwch na'r trothwy asesu uchaf | Os yw mwyafswm y crynodiadau rhwng y trothwyon asesu uchaf ac isaf |
|---|---|
| 1 orsaf bob 20,000 km2 | 1 orsaf bob 40,000 km2 |
4. Mewn parthau ar ynysoedd, dylai nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gael ei gyfrifo gan ystyried patrymau dosbarthiad tebygol llygredd aer amgylchynol a phosibilrwydd o ran pa mor agored yw ecosystemau neu lystyfiant i lygredd.
5. Mae'r Rhan hon yn nodi isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog o lygryddion Grŵp B i asesu cydymffurfedd â'r gwerthoedd targed ar gyfer diogelu iechyd pobl mewn parthau os mesuriadau sefydlog yw'r unig ffynhonnell o wybodaeth.
| Poblogaeth y parth (miloedd) | Os yw'r crynodiadau mwyaf yn uwch na'r trothwy asesu uchafa | Os yw'r crynodiadau mwyaf rhwng y trothwyon asesu uchaf ac isaf | ||
|---|---|---|---|---|
| Arsenig, Cadmiwm, Nicel | Benso(a)pyren | Arsenig, Cadmiwm, Nicel | Benso(a)pyren | |
a
I gynnwys o leiaf un orsaf cefndir trefol ac ar gyfer benso(a)pyren un orsaf traffig-gyfeiriedig hefyd ar yr amod nad yw hyn yn cynyddu nifer y pwyntiau samplu. |
||||
| 0—749 | 1 | 1 | 1 | 1 |
| 750—1,999 | 2 | 2 | 1 | 1 |
| 2,000—3,749 | 2 | 3 | 1 | 1 |
| 3,750—4,749 | 3 | 4 | 2 | 2 |
| 4,750—5,999 | 4 | 5 | 2 | 2 |
| =6,000 | 5 | 5 | 2 | 2 |
6. Ar gyfer asesu llygredd yng nghyffiniau ffynonellau pwyntiau, dylai nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gael ei benderfynu gan ystyried dwysedd y gollyngiad, patrymau dosbarthiad tebygol y llygredd aer amgylchynol a'r posibilrwydd o ran pa mor agored yw'r boblogaeth i lygredd. Dylid lleoli'r pwyntiau samplu fel y gellir monitro cymhwysedd y mesurau y cyfeirir atynt yn rheoliad 7(2)(b).
7. Ac eithrio i'r graddau y mae fel arall yn cael ei ddarparu gan reoliad 15(5) neu (6), mae isafswm nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau parhaus sefydlog i asesu ansawdd aer gyda golwg ar gydymffurfedd â'r gwerthoedd targed, yr amcanion hirdymor a throthwyon gwybodaeth a rhybuddio os mesuriadau parhaus yw'r unig ffynhonnell o wybodaeth wedi cael eu nodi yn y tabl isod.
| Poblogaeth y parth (miloedd) | Crynoadau (trefol a maestrefol)a | Parthau eraill (maestrefol a gwledig)a | Cefndir gwledig |
|---|---|---|---|
a
O leiaf 1 orsaf mewn ardaloedd maestrefol, lle mae datguddiad uchaf y boblogaeth yn debyg o ddigwydd. Mewn crynoadau, dylai o leiaf 50% o'r gorsafoedd fod wedi'u lleoli mewn mannau maestrefol. |
|||
b
1 orsaf fesul 25,000 km2 yw'r argymhelliad ar gyfer tir cymhleth. |
|||
| 0—249 | 1 | 1 orsaf/50,000 km2 fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymrub | |
| 250—499 | 1 | 2 | 1 orsaf/50,000 km2 fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymrub |
| 500—999 | 2 | 2 | 1 orsaf/50,000 km2 fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymrub |
| 1,000—1,499 | 3 | 3 | 1 orsaf/50,000 km2 fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymrub |
| 1,500—1,999 | 3 | 4 | 1 orsaf/50,000 km2 fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymrub |
| 2,000—2,749 | 4 | 5 | 1 orsaf/50,000 km2 fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymrub |
| 2,750—3,749 | 5 | 6 | 1 orsaf/50,000 km2 fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymrub |
| 3,750 neu fwy | 1 orsaf ychwanegol fesul 2 filiwn o drigolion | 1 orsaf ychwanegol fesul 2 filiwn o drigolion | 1 orsaf/50,000 km2 fel dwysedd cyfartalog ar gyfer pob parth yng Nghymrub |