Rheoliadau 7 ac 8
1—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros fwy nag un ci ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Cwn (Uchafswm Penodedig)” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, mynd â mwy na'r uchafswm o gŵn a bennir yn y gorchymyn ar y tir hwnnw yn ystod yr amserau neu'r cyfnodau a gaiff eu pennu yn y gorchymyn.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fynd â mwy na'r nifer penodedig o gŵn ar y tir, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â chyfrifoldeb dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) iddo wneud hynny.
2 Mewn unrhyw Orchymyn Cwn (Uchafswm Penodedig) , rhaid gosod y tramgwydd o fynd â mwy na nifer penodedig o gŵn ar dir i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 4 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cwn (Uchafswm Penodedig) sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn Cwn (Uchafswm Penodedig) [X](43) [X](44)
Mae [X] (45), drwy hyn yn gŵneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](46).
2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](47).
3 Ar dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, yr uchafswm o gŵn y caiff person fynd â hwy arno yw [X](48).
4—(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros fwy nag un ci yn euog o dramgwydd [ar unrhyw amser][yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](49), os bydd y person hwnnw yn mynd â mwy na'r uchafswm o gŵn a bennir yn erthygl 3 o'r Gorchymyn ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, oni bai—
(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu
(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw wneud hynny.
(2) At ddibenion yr erthygl hon cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno.
5 Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 4 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1](50)
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](51)
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](52)
Rheoliadau 7 ac 8
1 Bydd gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
2 Pan fo'r disgrifiad o'r tramgwydd yn cael ei ddiwygio, rhaid gwneud y diwygiad drwy dynnu allan yr erthygl gyfan sy'n gosod y tramgwydd, a bydd yr erthygl a roddir i mewn yn ei lle yn gosod i lawr y tramgwydd fel y byddai'n ofynnol ei ddatgan petai yn cael ei gynnwys mewn gorchymyn rheoli cŵn sy'n cael ei wneud o'r newydd.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn 702 (W.59)(53) (Diwygio) [X](54)
Mae [X](55), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](56).
2 Diwygir [XXXX](57) fel a ganlyn:
[mewnosoder y diwygiadau](58).
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Pennod 1 (rheolaethau ar gŵn) o Ran 6 (cŵn) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16) (“Deddf 2005”) yn sefydlu cyfundrefn newydd ar gyfer rheoli cŵn gan gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned (“awdurdodau”). Mae'r Bennod honno yn galluogi awdurdodau i wneud gorchmynion rheoli cŵn mewn perthynas ag unrhyw dir yn eu hardal sydd yn agored i'r awyr, yn ddarostyngedig i fod unrhyw dir wedi'i eithrio drwy orchymyn a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007 (O.S. 2007 Rhif 702 (W.59) yn dynodi, at ddibenion penodedig, y disgrifiadau a ganlyn o dir fel tir nad yw Pennod 1 o Rhan 6 o Ddeddf 2005 yn gymwys iddo—
(a) tir a gaiff ei osod at ddefnydd y Comisiynwyr Coedwigaeth o dan adran 39(1) o Ddeddf Coedwigaeth 1967 (p. 10); a
(b) tir sy'n ffordd, neu'n rhan o ffordd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi, mewn perthynas â gorchmynion rheoli cŵn a wneir o dan adran 55 o Ddeddf 2005—
(a) y gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan awdurdodau pan maent yn gwneud, yn amrywio neu yn dirymu gorchmynion rheoli cŵn (rheoliadau 3 i 6);
(b) y tramgwyddau y gellir darparu ar eu cyfer mewn gorchymyn rheoli cŵn (rheoliad 7(1) a pharagraff 1 o bob un o Atodlenni 1 i 5);
(c) y cosbau uchaf y gellir eu darparu mewn gorchymyn rheoli cŵn mewn perthynas â'r tramgwyddau a ragnodir (rheoliad 7(2));
(ch) cynnwys a ffurf gorchymyn rheoli cŵn (gan gynnwys gorchmynion sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn) (rheoliadau 8(a) a 9 a pharagraff 2 o bob un o Atodlenni 1 i 5 ac Atodlen 6); a
(d) y dyddiad cynharaf y bydd gorchymyn (gan gynnwys gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn) yn dod i rym arno (rheoliad 10).
Mae mwy o wybodaeth ar Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2005 i'w chael yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2005 sydd ar gael yn http://www.opsi.gov.uk/acts/en2005/ukpgaen_20050016_en.pdf
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [43]
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn. Back [44]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn. Back [45]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn. Back [46]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [47]
Mewnosoder yr uchafswm. Back [48]
Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys. Back [49]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [50]
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [51]
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau. Back [52]
Mewnosoder enw llawn (gan gynnwys blwyddyn gwneud) y Gorchymyn sydd i'w ddiwygio. Back [53]
Mewnosoder flwyddyn gwneud y Gorchymyn diwygio. Back [54]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn. Back [55]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn. Back [56]
Mewnosoder enw llawn (gan gynnwys blwyddyn gwneud) y Gorchymyn sydd i'w ddiwygio. Back [57]
Er enghraifft: “Yn lle [Paragraff X o] Erthygl [X] rhodder [y paragraff / yr Erthygl] a ganlyn:...”, “ar ôl y geiriau [X] mewnosoder y geiriau a ganlyn: “ yn lle “[X]”, rhodder y geiriau “[X]””, etc.]. Back [58]