Rheoliadau 7 ac 8
1—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn yn gymwys iddo (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd” yn y ffurf a osodir isod), i beidio â rhoi'r ci ar dennyn, ac wedi hynny ei gadw arno, neu ar dennyn nad yw'n hwy na'r hyd mwyaf a ragnodir yn y gorchymyn, yn ystod amserau a chyfnodau a gaiff eu rhagnodi, pan geir cyfarwyddyd i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd i roi ci ar dennyn a'i gadw arno, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
2 Mewn unrhyw Orchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd, rhaid gosod i lawr yn llawn y tramgwydd o beidio rhoi ci ar dennyn a'i gadw yno, drwy gyfarwyddyd, fel y'i datgenir yn erthygl 4 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd ([X](24)) [X](25)
Mae [X](26) a elwir yn y Gorchymyn hwn “yr awdurdod”) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](27).
2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](28).
3—(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg] [yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](29), ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, os na fydd y person hwnnw yn cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod i roi ci ar dennyn [nad yw'n hwy na X o centimetrau / o fetrau] a'i gadw arno (30), oni bai—
(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu
(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(2) At ddibenion yr erthygl hon —
(a) cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;
(b) ni chaiff swyddog awdurdodedig o Awdurdod roi cyfarwyddyd o dan y Gorchymyn hwn i roi ci ar dennyn a'i gadw arno oni fo'r cyfryw lyffethair yn rhesymol angenrheidiol i atal niwsans neu ymddygiad gan y ci sy'n debygol o beri aflonyddwch i unrhyw berson arall neu o darfu arno [ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo] neu o beri trafferth i unrhyw anifail neu unrhyw aderyn neu o aflonyddu arnynt.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “swyddog awdurdodedig o Awdurdod” yw cyflogai o'r Awdurdod sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod at ddibenion rhoi cyfarwyddiadau o dan y Gorchymyn hwn.
4 Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 4 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1](31)
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](32)
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](33)
Rheoliadau 7 ac 8
1—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Gwahardd Cŵn” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i fynd â'r ci ar y cyfryw dir, neu i ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, yn ystod amserau neu gyfnodau o'r fath ag a gaiff eu pennu yn y gorchymyn.
(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fynd â'r ci ar y tir, neu ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.
(3) Nid yw'r tramgwydd yn gymwys i berson sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948, i berson byddar mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan Hearing Dogs for Deaf People (elusen gofrestredig Rhif 293358), nac i berson ag arno anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454), Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281) neu Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.
2 Mewn unrhyw Orchymyn Gwahardd Cŵn, rhaid gosod y tramgwydd o fynd â chi ar dir y mae wedi'i wahardd oddi arno, neu ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.
3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Gwahardd Cŵn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.
Ffurf y Gorchymyn
Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005
Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)
Gorchymyn Gwahardd Cŵn [X](34) [X](35)
Mae [X](36), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](37).
2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](38).
3—(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg] [yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](39) os bydd y person hwnnw yn mynd â'r ci ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, neu yn caniatáu iddo fynd arno neu aros arno oni bai—
(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu
(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw wneud hynny.
(2) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn gymwys i berson—
(a) sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948; neu
(b) sydd yn fyddar, mewn perthynas â chi wedi'i hyfforddi gan Hearing Dogs for Deaf People (elusen gofrestredig Rhif 293358) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth; neu
(c) sydd ag anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan elusen ragnodedig ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.
(3) At ddibenion yr erthygl hon —
(a) cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno; a
(b) mae pob un o'r canlynol yn “elusen a ragnodwyd”—
(i) Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454);
(ii) Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281);
(iii) Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680).
4 Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
[Dyddiad]
[Cymal ardystio]
[ATODLEN] [ATODLEN 1](40)
[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](41)
[ATODLEN 2
[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](42)
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [24]
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn. Back [25]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn. Back [26]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn. Back [27]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [28]
Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys. Back [29]
Os yw hyn i gael ei bennu, mewnosoder uchafswm hyd y tennyn. Back [30]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [31]
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [32]
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau. Back [33]
Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [34]
Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn. Back [35]
Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn. Back [36]
Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn. Back [37]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [38]
Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys. Back [39]
Penner pa un sy'n berthnasol. Back [40]
Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [41]
Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau. Back [42]