Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 1 Y TRAMGWYDD O FETHU Å SYMUD YMAITH FAW CI A FFURF Y GORCHYMYN

1—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Baeddu Tir gan Gŵn” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i beidio â symud ymaith faw a ollyngwyd gan y ci ar unrhyw adeg, neu ar unrhyw adeg yn ystod cyfnodau penodol a ragnodir yn y gorchymyn.

(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fethu â symud ymaith y baw, neu os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

(3) Nid yw'r tramgwydd yn gymwys i berson sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948(4), nac i berson ag arno anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454), Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281) neu Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.

2  Mewn unrhyw Orchymyn Baeddu Tir gan Gŵn, rhaid gosod y tramgwydd o fethu â symud ymaith faw ci i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

3  Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Baeddu Tir gan Gŵn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

Ffurf y Gorchymyn

Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007/702 (W.59)

Gorchymyn Baeddu Tir gan Gŵn ([X](5)) [X](6)

Mae [X] (7), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

1  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](8).

2  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](9).

Y Tramgwydd

3—(1) Os bydd ci yn bawa ar unrhyw adeg [yn ystod y cyfnodau a bennir yn Atodlen 2](10) ar dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo a bod person sydd â chyfrifoldeb dros y ci ar y pryd yn methu â symud y baw ci oddi ar y tir ar unwaith, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd oni bai—

(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu

(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

(2) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn gymwys i berson—

(a) sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948; neu

(b) sydd ag anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario, neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan elusen ragnodedig ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.

(3) At ddibenion yr erthygl hon —

(a) cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;

(b) bydd gosod y baw ci mewn cynhwysydd a ddarperir ar y tir at y diben hwnnw, neu ar gyfer gwaredu gwastraff, yn symud ymaith digonol oddi ar y tir;

(c) ni fydd bod yn anymwybodol o'r bawa (p'un ai oherwydd peidio â bod yn y cyffiniau ai peidio), na bod heb declyn i symud y baw ci ymaith neu ddull arall addas o wneud hynny yn esgus rhesymol dros fethu â symud y baw ci ymaith;

(ch) mae pob un o'r canlynol yn “elusen a ragnodwyd”—

(i) Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454);

(ii) Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281);

(iii) Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680).

Y Gosb

   

4  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol

[Dyddiad]

[Cymal ardystio]

[ATODLEN] [ATODLEN 1](11)

[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](12)

[ATODLEN 2

[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](13)

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 2 Y TRAMGWYDD O BEIDIO Å CHADW CI AR DENNYN A FFURF Y GORCHYMYN

1—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Cŵn ar Dennyn” yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i beidio â chadw'r ci ar dennyn neu ar dennyn â'i hyd ar y mwyaf wedi'i ragnodi yn y gorchymyn, yn ystod amserau neu gyfnodau o'r fath ag a gaiff eu rhagnodi.

(2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fethu â chadw'r ci ar dennyn, neu os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

2  Mewn unrhyw Orchymyn Cadw Cŵn ar Dennyn rhaid gosod y tramgwydd o beidio â chadw ci ar dennyn i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

3  Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cadw Cŵn ar Dennyn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

Ffurf y Gorchymyn

Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)

Gorchymyn Cŵn ar Dennyn ([X](14)) [X](15)

Mae [X] (16), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

1  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](17).

2  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](18).

Y Tramgwydd

3—(1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg][yn ystod yr [amserau] [cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](19), ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, os na fydd y person hwnnw yn cadw'r ci ar dennyn [heb fod yn hwy na [X o centimetrau / o fetrau](20),oni bai—

(a) bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu

(b) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

(2) At ddibenion yr erthygl hon cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;

Y Gosb

   

4  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol

[Dyddiad]

[Cymal ardystio]

[ATODLEN] [ATODLEN 1](21)

[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt](22)

[ATODLEN 2

[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]](23)

(4)

  

(5)

Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [5]

(6)

Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn. Back [6]

(7)

Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn. Back [7]

(8)

Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn. Back [8]

(9)

Penner pa un sy'n berthnasol. Back [9]

(10)

Penner cyfnodau os mai dim ond yn ystod cyfnodau penodol o'r flwyddyn y mae'r Gorchymyn yn gymwys. Back [10]

(11)

Penner pa un sy'n berthnasol. Back [11]

(12)

Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [12]

(13)

Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau. Back [13]

(14)

Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [14]

(15)

Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn. Back [15]

(16)

Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilyddol sy'n gwneud y Gorchymyn. Back [16]

(17)

Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn. Back [17]

(18)

Penner pa un sy'n berthnasol. Back [18]

(19)

Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys. Back [19]

(20)

Os yw hyn i gael ei bennu, mewnosoder uchafswm hyd y tennyn. Back [20]

(21)

Penner pa un sy'n berthnasol. Back [21]

(22)

Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo. Back [22]

(23)

Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau. Back [23]