Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 702 (Cy.59)

CŵN, CYMRU

RHEOLI CŵN

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

6 Mawrth 2007

Yn dod i rym

15 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef y person priodol o ran Cymru fel y'i diffinnir yn adran 66(b) o Ddeddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 55(4) a (5), 56(1), (3), (4) a (5) a 67(1) o'r Ddeddf honno.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 15 Mawrth 2007.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Awdurdod” (“Authority”) yw naill ai prif awdurdod (“primary authority”) neu awdurdod eilaidd (“secondary authority”) fel y'i diffinnir yn adran 58 (“primary and secondary authorities”) o'r Ddeddf;

mae i “awdurdod mynediad” a “tir mynediad” yr ystyr a roddir i “access authority” ac “access land” yn Rhan 1 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005;

ystyr “fforwm mynediad lleol” (“local access forum”) yw fforwm mynediad lleol a sefydlwyd o dan adran 94 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;

ystyr “tir yr effeithir arno” (“affected land”) yw tir sy'n ddarostyngedig i orchymyn rheoli cŵn neu i fwriad i wneud gorchymyn rheoli cŵn.

Ymgynghori cyn gwneud gorchymyn rheoli cŵn.

3.  Cyn gwneud gorchymyn rheoli cŵn o dan adran 55 o'r Ddeddf, rhaid i Awdurdod—

(a) ymgynghori ar ei fwriad i wneud gorchymyn drwy beri cyhoeddi ar ei wefan hysbysiad—

(i) sy'n dynodi'r tir yr effeithir arno—

(aa) drwy ei ddisgrifio, a

(bb) pan fo cyfeiriad yn y gorchymyn y bwriedir ei wneud at fap, drwy gyhoeddi'r map hwnnw;

(ii) sy'n dynodi unrhyw dir mynediad a gynhwysir o fewn y tir yr effeithir arno;

(iii) sy'n gosod i lawr effaith cyffredinol gwneud y gorchymyn y bwriedir ei wneud;

(iv) sy'n datgan y cyfnod a roddir i wneud sylwadau yn ysgrifenedig neu drwy e-bost (sy'n gyfnod nad yw'n llai na 28 o ddiwrnodau o'r dyddiad pan gaiff yr hysbysiad ei gyhoeddi gyntaf yn unol â'r paragraff hwn);

(v) sy'n datgan y cyfeiriad a'r cyfeiriad e-bost lle dylid anfon y sylwadau;

(b) pan fo hynny'n ymarferol, peri i hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol gael eu harddangos mewn mannau amlwg ar y tir yr effeithir arno neu gerllaw iddo i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r tir hwnnw at effaith gwneud y gorchymyn y bwriedir ei wneud.

4.  Rhaid i'r Awdurdod roi copïau o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(a)—

(a) i unrhyw Awdurdod arall sydd â phwer o dan adran 55 o'r Ddeddf i wneud gorchymyn rheoli cŵn mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir yr effeithir arno;

(b) pan fo unrhyw ran o'r tir yr effeithir arno yn dir mynediad,—

(i) i'r awdurdod mynediad ar gyfer y tir mynediad hwnnw;

(ii) i'r fforwm mynediad lleol ar gyfer y tir mynediad hwnnw; a

(iii) i Gyngor Cefn Gwlad Cymru, mewn perthynas ag unrhyw ran o'r tir mynediad hwnnw nad yw o fewn Parc Cenedlaethol.

Gweithdrefnau ar ôl gwneud gorchymyn rheoli cŵn

5.  Ar ôl gwneud gorchymyn rheoli cŵn, rhaid i Awdurdod, ymhen dim llai na saith niwrnod cyn y diwrnod y bydd y gorchymyn yn dod i rym arno—

(a) peri i hysbysiadau o fath y mae'n eu hystyried yn ddigonol gael eu harddangos mewn mannau amlwg ar y tir yr effeithir arno neu gerllaw iddo i dynnu sylw aelodau o'r cyhoedd sy'n defnyddio'r tir hwnnw at y ffaith fod gorchymyn wedi'i wneud ac at effaith gwneud y gorchymyn hwnnw;

(b) cyhoeddi ar ei wefan—

(i) hysbysiad sy'n datgan—

(aa) fod y gorchymyn wedi'i wneud,

(bb) yn lle y gellir cael copïau ohono;

(ii) copi o'r gorchymyn,

(iii) copi o unrhyw fap y cyfeirir ato yn y gorchymyn;

(c) anfon yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (i) o is-baragraff (b) at y personau a bennir yn rheoliad 4.

Diwygio a dirymu gorchmynion rheoli cŵn: gofynion gweithdrefnol

6.  Mae Rheoliadau 3, 4 a 5 yn gymwys i ddiwygio ac i ddirymu gorchymyn rheoli cŵn megis petai'r cyfeiriadau yn y rheoliadau hynny at orchymyn (neu orchymyn y bwriedir ei wneud) yn gyfeiriadau at ddiwygio neu at ddirymu gorchymyn (neu at ddiwygio neu ddirymu gorchymyn y bwriedir ei wneud, yn ôl y digwydd).

Tramgwyddau a chosbau a ragnodir

7.—(1) At ddibenion adran 55(4) o'r Ddeddf, y tramgwyddau a ragnodir yw'r rhai hynny a osodir ym mharagraff 1 o bob un o Atodlenni 1 i 5.

(2) Y gosb sydd i'w gosod mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd mewn gorchymyn rheoli cŵn, ar gollfarn ddiannod, yw dirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3) Caiff gorchymyn rheoli cŵn bennu'r amserau neu'r cyfnodau y gellir cyflawni tramgwydd o'u mewn.

Geiriad penodedig i'w ddefnyddio mewn gorchymyn rheoli cŵn, a ffurf y gorchymyn

8.  Rhaid i Awdurdod sy'n gwneud gorchymyn rheoli cŵn—

(a) wrth ddarparu ar gyfer unrhyw dramgwydd, defnyddio'r geiriad a bennir yn yr Atodlen sy'n gymwys i'r tramgwydd hwnnw (dan y pennawd “tramgwydd”); a

(b) ym mhob peth arall, wneud y gorchymyn yn y ffurf a osodir yn yr Atodlen, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

Ffurf gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn

9.  Rhaid i Awdurdod sy'n diwygio gorchymyn rheoli cŵn wneud hynny'n unol ag Atodlen 6.

Dyfodiad gorchymyn rheoli cŵn i rym

10.  Rhaid i ddyddiad dyfodiad gorchymyn rheoli cŵn (gan gynnwys gorchymyn diwygio gorchymyn rheoli cŵn) i rym fod dim llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad gwneud y gorchymyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2007

(2)

2000 p. 37; am “access authority” gweler adran 1(2) ac am “access land” gweler adran 1(1). Back [2]