(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno tablau diwygiedig o ddidyniadau o enillion wythnosol, misol a dyddiol ynghylch gorchmynion atafaelu enillion a gaiff eu gwneud yn unol â Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992.
Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn, ac mae ar gael o Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol, Yr Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (ffôn 02920825111).