Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2007 Rhif 581 (Cy. 53)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

27 Chwefror 2007

Yn dod i rym

1 Ebrill 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) a pharagraff 9 o Atodlen 1 iddi ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn, a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Taliadau wythnosol i weithwyr gofal

2.  Ym mharagraff 1(c) o'r Atodlen i Reoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) 1992(3) yn lle “£36”(4) rhodder “£44”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) 1992 yn darparu ar gyfer cyflawni'r amodau pan fo gweithiwr gofal yn cael ei ddiystyru at ddibenion gostyngiad, sy'n cael yr effaith o ostwng swm y dreth gyngor sy'n daladwy am annedd y mae'r gweithiwr gofal yn preswylio ynddi. Un o'r amodau hynny yw nad yw'r gweithiwr gofal yn cael ei dalu fwy na swm wythnosol dynodedig. Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn codi'r swm hwnnw o £36 i £44.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn, ac mae ar gael o Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol, Yr Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111).

(2)

Trosglwyddodd y pŵ er i wneud rheoliadau o dan adran 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 , a pharagraff 9 o Atodlen 1 iddi o ran Cymru oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2(a) o, ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Back [2]

(3)

O.S. 1992/552. Back [3]

(4)

Wedi'i fewnosod gan O.S.1998/294. Back [4]