Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliad 6

ATODLEN 4 YR AMGYLCHIADAU NAD YW SWYDDOGAETHAU I FOD YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD ODANYNT

(1) (2)
Y swyddogaeth Yr amgylchiadau

1.  Mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun neu strategaeth (p'un a yw'n statudol neu'n anstatudol), ac eithrio cynllun neu strategaeth i reoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod neu gynllun y cyfeirir ato neu strategaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 3.

Mae'r awdurdod yn dyfarnu mai ef ddylai benderfynu a ddylid mabwysiadu neu gymeradwyo'r cynllun neu'r strategaeth.

2.  Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth —

(a) sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; a

(b) sy'n ymwneud â chyllideb yr awdurdod, neu ei fenthyciadau neu ei wariant cyfalaf.

Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno —

(a)

o blaid dyfarnu ar y mater yn groes i'r canlynol neu heb fod yn gyfan gwbl unol â hwy —

(i)

cyllideb yr awdurdod; neu

(ii)

y cynllun neu'r strategaeth a gymeradwy-wyd neu a fabwysiadwyd am y tro gan yr awdurdod mewn perthynas â'i fenthyciadau neu ei wariant cyfalaf; a

(b)

heb ei awdurdodi o dan drefniadau gweithrediaeth yr awdurdod, ei reoliadau ariannol, ei reolau sefydlog neu ei reolau neu ei weithdrefnau eraill i wneud dyfarniad yn y termau hynny.

3.  Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth —

(a) sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; a

(b) y mae'r awdurdod wedi mabwysiadu neu wedi cymeradwyo cynllun neu strategaeth (p'un a yw'n statudol neu'n anstatudol ) mewn perthynas â hi.

Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno, o blaid dyfarnu ar y mater mewn termau sy'n groes i'r cynllun neu, yn ôl y digwydd, i'r strategaeth a fabwysiadwyd neu a gymeradwywyd gan yr awdurdod.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth i'r awdurdod (y mae rhaid iddi fod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11(2) i (5) o'r Ddeddf) onid yw'r swyddogaethau hynny wedi'u pennu'n swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod. Mae'r rheoliadau hyn yn pennu swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Mae'r rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001, Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002, Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2001, 2002, 2003 a 2004”), yn cydgrynhoi darpariaethau'r rheoliadau hynny ac yn gwneud darpariaeth bellach.

Mae rheoliadau 3, 4, 5 a 6, drwy gyfeirio at yr Atodlenni i'r Rheoliadau, yn nodi'r cyfyngiadau ar ba swyddogaethau y caiff gweithrediaeth eu harfer. Yn Atodlen 1 rhestrir y swyddogaethau hynny y mae'n rhaid i weithrediaeth beidio â'u harfer ac yn Atodlen 2 rhestrir y swyddogaethau hynny y caniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod os bydd yr awdurdod yn penderfynu felly. Mae Rheoliad 5, drwy gyfeirio at Atodlen 3, yn nodi'r camau na chaniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig.

Yn ôl rheoliad 6, nid yw'r swyddogaethau hynny a restrir yn Atodlen 4, a fyddai'n gyfrifoldeb i weithrediaeth oni bai am reoliad 6, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o dan yr amgylchiadau a nodir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno.

Mae Rheoliad 7 yn dirymu Rheoliadau 2001, 2002, 2003 a 2004.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn, ac mae ar gael o Is-adran Polisi Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111).