Rheoliad 4
1. Unrhyw swyddogaeth a dan Ddeddf leol ac eithrio swyddogaeth a bennwyd neu y cyfeiriwyd ati yn Atodlen 1.
2. Dyfarnu ar apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr awdurdod neu ar ei ran.
3. Swyddogaethau mewn perthynas ag adolygu penderfyniadau a wnaed mewn cysylltiad â hawliadau budd-dal tai neu fudd-dal treth gyngor ac am apelau yn erbyn penderfyniadau o'r fath o dan adran 68 o Ddeddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol ac Atodlen 7 iddi.(47).
4. Gwneud trefniadau ynglŷn ag apelau yn erbyn gwahardd disgyblion mewn ysgolion a gynhelir o dan adran 52 o Ddeddf Addysg 2002.
5. Gwneud trefniadau yn unol ag adran 94(1), (1A) a (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau derbyn) ac Atodlen 24 iddi.
6. Gwneud trefniadau yn unol ag adran 95(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (plant y mae adran 87 yn gymwys iddynt: apelau gan gyrff llywodraethu).
7. Gwneud trefniadau o dan adran 20 (cwestiynau ynghylch materion yr heddlu mewn cyfarfodydd cyngor) o Ddeddf yr Heddlu 1996 i ganiatáu i gwestiynau gael eu gofyn ynghylch cyflawni swyddogaethau awdurdod heddlu.
8. Gwneud penodiadau o dan baragraffau 2 i 4 (penodi aelodau gan gynghorau perthnasol) o Atodlen 2 (awdurdodau heddlu a sefydlir o dan adran 3) i Ddeddf yr Heddlu 1996.
9. Cynnal adolygiadau'r gwerth gorau yn unol â darpariaethau unrhyw orchymyn sy'n effeithiol am y tro o dan adran 5 (adolygiadau gwerth gorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(48).
10. Unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â thir halogedig(49).
11. Cyflawni unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â rheoli llygredd neu reoli ansawdd aer(50).
12. Cyflwyno hysbysiad atal mewn perthynas â niwsans statudol(51).
13. Pasio cynnig y dylai Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 fod yn gymwys yn ardal yr awdurdod(52).
14. Arolygu ardal yr awdurdod i ddod o hyd i unrhyw niwsans statudol(53).
15. Ymchwilio i unrhyw gŵyn ynghylch bodolaeth niwsans statudol.
16. Sicrhau gwybodaeth o dan adran 330 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ynghylch buddiannau mewn tir(54).
17. Sicrhau manylion personau sydd â buddiant mewn tir o dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976(55).
18. Gwneud cytundebau ar gyfer gwneud gwaith priffyrdd(56).
19. Penodi unrhyw unigolyn —
(a) i unrhyw swydd heblaw swydd y mae'n cael ei gyflogi ynddi gan yr awdurdod;
(b) i unrhyw gorff ac eithrio —
(i) yr awdurdod;
(ii) cyd-bwyllgor o ddau neu fwy o awdurdodau; neu
(c) i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i gorff o'r fath,
a dirymu unrhyw benodiad o'r fath.
20. Y pŵer i wneud taliadau neu i ddarparu budd-daliadau eraill mewn achosion camweinyddu etc.(57).
21. Cyflawni unrhyw swyddogaeth gan awdurdod sy'n gweithredu fel awdurdod harbwr.
22. Swyddogaethau ynglyn â chyfrifo sylfaen treth gyngor yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —
(a) dyfarnu ar swm ar gyfer eitem T yn adran 33(1) a 44(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
(b) dyfarnu ar swm ar gyfer eitem TP yn adrannau 34(3), 45(3), 48(3) a 48(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
(c) dyfarnu ar swm y mae ei angen i ddyfarnu ar swm ar gyfer yr eitem a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) uchod.
23. Swyddogaethau trwyddedu yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac eithrio adran 6.
24. Swyddogaethau ynglŷn â gamblo yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —
(a) pendefyniad i beidio â dyroddi trwyddedau casino yn unol ag adran 166 o Ddeddf Gamblo 2005 (p.19);
(b) rhagnodi ffioedd yn unol ag adran 212 o Ddeddf Gamblo 2005;
(c) gwneud gorchymyn yn datgymhwyso adran 279 neu adran 282 (1) o Ddeddf Gamblo 2005 yn unol ag adran 284 o Ddeddf Gamblo 2005;
(ch) personau awdurdodedig yn unol ag adran 304 o Ddeddf Gamblo 2005;
(d) erlyniadau gan awdurdod trwyddedu yn unol ag adran 346 o Ddeddf Gamblo 2005;
(dd) polisi trwyddedu tair-blynedd yn unol ag adran 349 o Ddeddf Gamblo 2005.
Rheoliad 5
| (1) | (2) |
|---|---|
| Cynlluniau a strategaethau | Y Cyfeiriad |
| Y Cynllun Addysg Sengl | Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 O.S. 2006/877 (Cy.82)). |
| Cynllun Perfformiad Gwerth Gorau | Adran 6(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27). |
| Strategaeth Gymunedol | Adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). |
| Strategaeth i Ostwng Troseddau ac Anhrefn | Adrannau 5 a 6 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37). |
| Y Strategaeth Iechyd a Lles | Adran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynolion Gofal Iechyd 2002 (p.17). |
| Y Cynllun Trafnidiaeth Lleol | Adran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p.38). |
| Cynlluniau ac addasiadau sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r Cynllun Datblygu | Adran 10A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8). |
| Y Cynllun Iaith Gymraeg | Adran 5 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p.38). |
| Y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid | Adran 40 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37). |
| Pwerau i gymeradwyo Cynllun Strategol Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc | Adrannau 123,124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21). |
| Y Strategaeth Tai | Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26). |
2000. p.19. Back [47]
Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac is-ddeddfwriaeth o dan y rhan honno. Back [49]
Gweler Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24), Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) a Deddf Aer Glân 1993 (p.11). Back [50]
Adran 8 o Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 (p.40). Back [51]
Adran 80(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Back [52]
Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Back [53]
1976 p.57. Back [55]
Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66), a amnewidiwyd gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), adran 23. Back [56]
Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Back [57]